Sefyll Mewn Undod: Gweddi Cyhoeddus A Thystiolaeth Dros Gaza Yn Y Senedd

Cymerodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann, ran mewn gweithred gyhoeddus o weddi a thystiolaeth y tu allan i’r Senedd, ynghyd ag aelodau o’r Eglwys yng Nghymru ac enwadau Cristnogol eraill, i alw am heddwch yn y Dwyrain Canol.
Dywedwyd wrth y gynulleidfa fod penderfyniad diweddar Israel i lansio ymosodiad newydd ar Ddinas Gaza, yn dilyn cynnydd trychinebus mewn trais yn Gaza a’r Lan Orllewinol, yn bygwth cannoedd o filoedd o bobl â fydd yn gorfodi gadael eu cartrefi, ac fod arweinwyr eglwysig Palesteinaidd wedi galw ar yr Eglwys Fyd-eang am undod ac am ddiwedd ar y gwrthdaro.
Datblygwyd y cynlluniau ar gyfer y weithred o dystiolaeth mewn cydweithrediad agos â grŵp eang o asiantaethau Cristnogol yn y DU, gan gynnwys Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund, Embrace the Middle East, Amos Trust, Sabeel-Kairos, Crynwyr ym Mhrydain, All We Can, Reconciling Leaders Network, Difference, Friends of the Holy Land, USPG, a’r Ganolfan ar gyfer Cenhadon o’r Byd Mwyafrif.
Dywedodd y Parchedicaf Archesgob Cherry: “Rydym yma i weddïo am heddwch. Rydym yma i annog Llywodraeth Cymru ynghyd â Llywodraeth y DU a llywodraethau ledled y byd i bwyso mor galed ag y gallant am ddatrysiad heddychlon... Nid yw rhyfel yn datrys unrhyw beth.”
Ddydd Sul diwethaf, 21ain Medi, anogwyd eglwysi ledled Prydain i weddïo am heddwch yn eu gwasanaethau boreol, gan gyd-fynd â Diwrnod Heddwch y Byd y CU a glwad fyd-eang i weddi gan Gyngor Eglwysi’r Byd.
Yr wythnos ddiwethaf, croesawodd Corff Llywodraethu Eglwys Cymru, a gyfarfu yng Nghasnewydd, Jamie Eyre, Prif Weithredwr Embrace the Middle East, fel siaradwr. Pwysleisiodd ganologrwydd gweddi a’r angen i “sefyll i fyny a chydnabod dynoliaeth Gaza”.
Nid dyma’r tro cyntaf I'r Eglwys yng Nghymru, ochr yn ochr â’i phartneriaid, ymgysylltu â’r Llywodraeth ynghylch y gwrthdaro. Ym mis Gorffennaf eleni, ysgrifennodd Mainc yr Esgobion at yr YsgrifennyddTramor ar y pryd, David Lammy. Dywedodd y llythyr: “rydym am ychwanegu ein lleisiau at y rhai sy’n apelio at y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ei gallu i ddod â chyfiawnder i’r rhai sy’n dioddef yn yr argyfwng presennol ac i leddfu’r dioddefaint annerbyniol o’r rhai, o bob cymuned, sy’n cael eu heffeithio gan ryfel, newyn, dadleoli, erledigaeth ac ofn.”
Derbyniodd yr Esgobion ymateb manwl gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, a bwysleisiodd: “Mae’r sefyllfa yn y rhanbarth yn parhau i esblygu’n gyflym. Ond cofiwch fod y Gweinidog Tramor a’i dîm Gweinidogol cyfan yn parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i bwyso am heddwch.”
Ac ar y penwythnos, roedd Archesgob Cherry yn un o’r llofnodwyr ar lythyr agored a gychwynnwyd gan y Cardinal Vincent Nichols ac Archesgob Steven Cottrell, Archesgob Efrog, ac a lofnodwyd gan lawer o arweinwyr Cristnogol yn y DU yn galw am ddiwedd ar y trais ac am ryddhau’r gwystlon.