Arddangosfa newydd ar Eglwys Sant Cybi yn agor yn Llyfrgell Caergybi

Bydd arddangosfa am ddim sy'n arddangos hanes a gwaith adfer un o dirnodau mwyaf hanesyddol Caergybi yn agor y mis nesaf.
Bydd yr arddangosfa am ddim ar agor rhwng 1 a 14 Mai yn Neuadd y Farchnad a Llyfrgell Caergybi, a bydd yn manylu ar hanes Eglwys Sant Cybi sy’n adeilad rhestredig Gradd I ac Eglwys y Bedd gerllaw - adeilad rhestredig Gradd II, y ddau ohonynt yn sefyll o fewn muriau Caer Rufeinig Caer Gybi. Bydd trigolion lleol yn cael cyfle i ganfod mwy am waith adfer a chynlluniau ar gyfer dyfodol yr eglwys fel man addoli a chymunedol. Disgwylir ymwelwyr ychwanegol o'r chwe llong fordaith sy'n docio yng Nghaergybi a'r marchnadoedd crefftwyr sy'n digwydd yn Sgwâr Swift.
Mae Eglwys Sant Cybi yn cael ei hadnewyddu fel rhan o gynlluniau canol tref Cyngor Sir Ynys Môn, ac gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r prosiect adfer yn cynnwys gwelliannau sylweddol a fydd yn diogelu treftadaeth yr eglwys ac yn gwella hygyrchedd. Mae ramp newydd nawr yn caniatáu mynediad llawn i'r eglwys am y tro cyntaf ers canrifoedd, a bydd y teils Fictoraidd gwreiddiol yn cael eu hailosod yn ofalus dros system wresogi danlawr newydd sbon. Mae'r teils llosgliw cain o ardaloedd y gangell a'r allor uchel i gyd wedi'u glanhau'n broffesiynol a byddant yn cael eu hailosod yn eu safleoedd gwreiddiol.
Mae camau olaf y prosiect yn cynnwys uwchraddio dodrefn er mwyn creu man addoli mwy amlbwrpas, gan gynnwys meinciau pren newydd ar gyfer addoli a chadeiriau y gellir eu stacio ar gyfer digwyddiadau cymunedol mwy o faint.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf