Côr Llanelwy i berfformio yn Eglwys Gadeiriol eiconig Helsinki

Bydd côr ifanc o Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn teithio i'r Ffindir y mis hwn ar gyfer taith gyngerdd a chyfnewid diwylliannol.
Bydd bron i 30 o bobl ifanc o bob rhan o ogledd-ddwyrain Cymru yn perfformio yn Eglwys Gadeiriol eiconig Helsinki fel rhan o'r daith sy'n dathlu'r cysylltiad rhwng Esgobaethau Llanelwy a Helsinki. Yn ogystal, byddant yn cymryd rhan mewn gweithdy côr ochr yn ochr â phobl ifanc o'r Ffindir, gan berfformio mewn eglwysi lleol ac ymweld â safleoedd o ddiddordeb o amgylch Helsinki, gan gynnwys sŵ y ddinas.
Mae mwy na £20,000 wedi'i godi mewn nawdd lleol i sicrhau bod y daith yn fforddiadwy i'r côr ifanc. Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Eglwys Gadeiriol Llanelwy, Paul Booth: "I lawer o'r plant hyn, dyma'r tro cyntaf iddynt deithio dramor, gan gynnig cyfle iddynt ymgolli mewn diwylliant newydd, rhannu eu doniau cerddorol ar lwyfan rhyngwladol, a meithrin atgofion gydol oes. Mae ein côr yn cynnwys 27 o gantorion ifanc talentog, rhai ohonynt yn dod o ardaloedd amddifadedd lle mae cyfyngiadau ariannol yn ei gwneud hi'n anodd fforddio taith o'r fath. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb, gan gynnwys llawer o fusnesau lleol, sydd wedi gwneud rhoddion i sicrhau bod ein pobl ifanc talentog yn cael y profiad amhrisiadwy hwn, gan wella eu haddysg gerddorol a'u dealltwriaeth ddiwylliannol."
Bydd Archddiacon Wrecsam, Swyddog Plant ac Ieuenctid Esgobaeth Llanelwy ac Ysgrifennydd yr Esgobaeth yn ymuno â chôr y Gadeirlan ar y daith. Mae'r ddwy eglwys wedi'u cysylltu gan Ddatganiad Cyffredin Porvoo sy'n sefydlu cymundeb llawn rhwng Eglwysi Anglicanaidd Prydain ac Eglwysi Efengylaidd Lutheraidd gogledd Ewrop.
Y llynedd, ymwelodd dirprwyaeth o fwy nag 20 o gynrychiolwyr o Esgobaeth Helsinki ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy ac eglwysi yn Wrecsam fel rhan o'r cyswllt rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Efengylaidd Lutheraidd y Ffindir.
Mae Côr Eglwys Gadeiriol wedi bod yn Llanelwy ers bron i 800 mlynedd. Mae'n un o hynaf Cymru ac mae'n recriwtio pobl ifanc o ysgolion ar draws gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae Esgobaeth Llanelwy yn un o chwe esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru, Talaith annibynnol o'r Cymun Anglicanaidd.