Map ffordd ar gyfer dyfodol seremonïau ar gyfer cyplau o'r un rhyw yn yr Eglwys yng Nghymru

Heddiw, mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi llythyr bugeiliol ynghylch dyfodol seremonïau ar gyfer cyplau o'r un rhyw yn yr Eglwys yng Nghymru.
Gallwch ddarllen y llythyr llawn isod.
Llythyr Bugeiliol gan Fainc yr Esgobion at yr Holl Ffyddloniaid yn yr Eglwys yng Nghymru
Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch. (Rhufeiniaid 12.10)
Mae'n wirionedd anochel ar hyn o bryd bod agweddau Cristnogol tuag at berthnasoedd rhywiol yn destun dadl ddwys yn yr Eglwys fodern, a bod y pwnc hyd yn oed yn bygwth rhannu'r teulu Cristnogol ledled y byd. Yn yr ymarfer gwrando rydym wedi'i gynnal dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi clywed trafodaeth angerddol ond raslon. Wrth geisio bod yn ffyddlon i Efengyl Iesu Grist a dysgeidiaeth yr Ysgrythur, mae Cristnogion yn amrywio o ran eu hymagwedd: mae eiriolwyr o blaid priodas gyfartal yn dadlau dros gariad cynhwysol Iesu, tra bod eraill yn tynnu sylw at lynu’n ffyddlon at y darlleniad traddodiadol o destunau Beiblaidd ac yn methu â chofleidio dealltwriaeth newydd o'r fath. I eraill, mae yna dir canol: parodrwydd i gynnig bendithion, ac eto amharodrwydd hyd yma i droi eu cefn ar y ddysgeidiaeth draddodiadol bod priodas yn golygu uniad rhwng un dyn ac un fenyw.
Beth bynnag yw argyhoeddiadau pobl ar y mater hwn, fel eich esgobion, credwn yn gyntaf na ddylai hwn fod yn 'fater sy'n rhannu’r Eglwys'. Credwn hefyd, fel yr Eglwys yng Nghymru, fod angen i ni gymryd Gair yr Ysgrythur o ddifrif ar bob mater, ond yn enwedig wrth ystyried y gorchmynion ysgrythurol hynny i garu ein gilydd mewn cyfnod o ddadl ac anghytuno.
Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru bellach yn agosáu at y pwynt lle mae'n rhaid iddo wneud penderfyniadau mawr ar y materion hyn. Ychydig dros bedair blynedd yn ôl, awdurdododd y Corff Llywodraethol Ddefod Bendith arbrofol dros gyfnod o bum mlynedd fel y gallai cyplau o'r un rhyw a oedd wedi dathlu priodas sifil neu bartneriaeth sifil ddod i'r Eglwys gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau i geisio bendith Duw ar eu hymrwymiad i'w gilydd.
Wrth i'r cyfnod hwn ddod i ben, mae’r ymarfer gwrando a gynhaliwyd gan yr esgobion wedi rhoi cyfle i bawb a oedd yn dymuno siarad â nhw o bob rhan o'u hesgobaethau, ac yn y Corff Llywodraethol, wneud hynny. Wrth i'r ymarfer gwrando fynd rhagddo, siaradodd y rhan fwyaf o’r cyfranwyr o blaid cynnig priodas gyfartal i gyplau traddodiadol ac i gyplau o'r un rhyw. Serch hynny, mae rhan gref o'n teulu Eglwysig sy'n ei chael hi'n anodd cydbwyso cam o'r fath gyda’u dealltwriaeth o fod yn driw i'r Ysgrythur, ac felly yn ein bywyd cyffredin.
Wrth geisio dirnad ewyllys Duw, mae'r esgobion yn credu mai'r ffordd gywir ymlaen yw cynnig cyfle i'r Corff Llywodraethol wneud penderfyniadau ar ran yr Eglwys.
Rydym felly yn bwriadu cyflwyno cynigion i'r Corff Llywodraethol ym mis Ebrill 2026 i wneud awdurdodi Bendithion ar gyfer Cyplau o'r Un Rhyw yn elfen barhaol ym mywyd yr Eglwys, ac i gyflwyno cynigion pellach ym mis Ebrill 2027 i ganiatáu i gyfraith y wladwriaeth a'r Eglwys gael ei newid i ganiatáu priodas o'r un rhyw yn ein Heglwysi. Bydd y ffordd hon o a ddylid cadarnhau'r ddarpariaeth sydd eisoes wedi'i gwneud, a mynd ymlaen, ddeuddeg mis yn ddiweddarach, i ystyried a phenderfynu ar ddarpariaeth priodas gyfartal. Ein gobaith yn hyn o beth yw rhoi cyfle i'r Corff Llywodraethol benderfynu a ydym fel Eglwys yn teimlo y gallwn fodloni dyheadau'r cyplau hynny sydd wedi mynegi'r gobaith i gael dathlu eu cariad gerbron Duw yn yr Eglwys trwy un neu'r llall o'r dulliau mynegi hyn.
Ym mhob achos, rydym yn cydnabod y bydd gan rai argyhoeddiadau dwfn ac amrywiol ar y mater hwn, ac y bydd yn rhaid parchu argyhoeddiadau a chydwybod cadarn er mwyn ceisio sicrhau undod teulu Duw. Bydd yn rhaid drafftio unrhyw gynigion yn y fath fodd i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei orfodi i weithredu yn erbyn ei gydwybod trwy gymryd rhan mewn darpariaeth o'r fath. Ar yr un pryd, bydd dyhead llawer sydd mewn perthnasoedd ymrwymedig o'r un rhyw i ymrwymo mewn priodas â'i gilydd yn cael ei ystyried yn llawn.
Ein cymhellion wrth gynnig y ffordd hon o weithredu yw yn gyntaf, ceisio bod yn ffyddlon i Grist, ac i ble y gall Duw fod yn ein galw, ond hefyd ceisio bodloni dyheadau'r rhai sydd am briodi; ac yn drydydd, uno pobl o bob argyhoeddiad mewn proses o ddirnad ac addasu i’r graddau y bo hynny’n bosibl.
Mae'r dywediad "Undeb ymhob hanfod; rhyddid ymhob dewis, ac ymhob dim, cariad", sy'n cael ei briodoli'n gywir i'r diwygiwr o'r unfed ganrif ar bymtheg, Peter Meiderlin, yn ein hatgoffa o reol dirnadaeth. Wrth i ni uno yn 2025 fel Eglwys sy'n cyhoeddi Credo Nicea fel y datganiad digonol o'r ffydd Gristnogol, rydym ni fel esgobion yn cynnig ein dirnadaeth i'r Eglwys yng Nghymru: y gallwn anghytuno mewn cariad ac eto cynnig rhyddid ar y mater hwn, ac ymrwymo ein hunain i ddod o hyd i gonsensws mewn dirnadaeth ar y ffordd y gall yr Eglwys yng Nghymru gadarnhau cyplau o'r un rhyw yn eu hymrwymiad i'w gilydd gerbron Duw gan barchu amrywiaeth o ran dealltwriaeth ar yr un pryd.
+Cherry Cambrensis
+Gregory Llanelwy
+John Aber
+Mary Llandaf
+Dorrien Tyddewi