Ymddeoliad Archesgob Cymru

Datganiad gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John
Annwyl ffrindiau
Ysgrifennaf atoch i gyhoeddi fy ymddeoliad fel Archesgob Cymru heddiw. Byddaf hefyd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar Awst 31.
Mae wedi bod yn llawenydd enfawr i wasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru ers dros 35 mlynedd. Ni allaf ddiolch digon i chi am y fraint o weithio wrth eich ochr chi er mwyn ein Gwaredwr Iesu Grist.
Hoffwn ddiolch yn ddidwyll i glerigwyr a chynulleidfaoedd yr esgobaeth wych hon cyn i mi ymddeol a byddaf mewn cysylltiad eto am y ffordd y gallai hyn ddigwydd.
Diolch i chi, a boed i Grist roi llawenydd a thangnefedd i chi wrth gredu.
+Andy
Datganiad ar ran Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru
Siaradodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Uwch Esgob yr Eglwys yng Nghymru, ar ran Mainc yr Esgobion:
"Wrth i'r Archesgob Andrew gyhoeddi ei ymddeoliad heddiw fel Archesgob Cymru a'i ymddeoliad fel Esgob Bangor maes o law, mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru am fynegi ein diolch gwresog am ei wasanaeth i'r Eglwys yn ystod ei weinidogaeth.
"Mae Andy wedi cysegru dros bum mlynedd ar hugain o'i fywyd i weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac mae wedi gwasanaethu gydag ymroddiad ac egni i gyhoeddi'r Efengyl Gristnogol a denu pobl at ffydd ddyfnach yn Iesu Grist.
Mae wedi rhoi cymaint er lles yr Eglwys yng Nghymru. Mae bellach yn ildio’i gyfrifoldebau sylweddol, a hynny yn yr un ysbryd sydd wedi nodweddu ei wasanaeth dros y degawdau hyn.
"Rydym yn cynnig diolch diffuant, ac yn ymrwymo i'w gadw ef a'i deulu yn ein gweddïau ar yr adeg hon ac yn y dyddiau i ddod."
Datganiad gan yr Athro Medwin Hughes, Cadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru
Wrth i'r Archesgob Andrew ymddeol o'i ddyletswyddau, hoffwn ddiolch iddo ar ran Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru am ei waith caled, ei ymroddiad a'i weledigaeth yn ystod ei gyfnod fel Archesgob Cymru ac Esgob Bangor.
Mae'r Archesgob wedi arwain yr Eglwys trwy gyfnod o newid a her enfawr. Trwy gydol ei amser yn y swydd, mae wedi dangos ei ofal dwys dros lesiant, nid yn unig yr Eglwys ei hun, ond ein cymdeithas a'r byd fel y cyfryw.
Gwn y bydd pawb sydd wedi gweithio gyda'r Archesgob yn ystod ei weinidogaeth wedi cael eu cyffwrdd gan ei ofal bugeiliol a'i ymroddiad dwfn i wella bywyd yr Eglwys yng Nghymru a'r gymuned ehangach.
Wrth iddo bellach drosglwyddo'r gwaith hwnnw i ddwylo eraill, rwyf am ddiolch yn ddiffuant am bopeth y mae wedi'i gyflawni, a mynegi fy edmygedd o ddidwylledd ei weinidogaeth dros bobl Cymru. Bydd pob aelod o Gorff y Cynrychiolwyr yn parhau i gadw’r Archesgob a'i deulu yn eu gweddïau.