Adfer Gerddi Beiblaidd Bangor

Mae Gerddi Beiblaidd hanesyddol Bangor yn cael eu trawsnewid yn sylweddol fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y ddinas yn 1500 oed.
Wedi'i lleoli wrth ymyl Cadeirlan Deiniol Sant, mae'r Ardd Feiblaidd yn cael ei hail-ddychmygu mewn cydweithrediad â Chyngor Dinas Bangor a'r Gadeirlan.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol ym 1961 gan Dr. Tatham Whitehead, Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd, dyluniwyd y man gwyrdd i gynnwys dim ond a choed a grybwyllir yn y Beibl. Nododd ymchwil Dr Whitehead 148 o blanhigion y cyfeirir atynt yn yr ysgrythurau, gyda'r ardd yn ceisio tyfu cymaint o'r rhywogaethau hyn â phosibl.
Mae'r prosiect adfer yn seiliedig ar y cynllun dylunio a phlannu gwreiddiol o'r archifau. Bydd rhywogaethau mwy addas i wrthsefyll yn yr hinsawdd heddiw yn cael eu plannu lle bo angen.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf