Penodi Ysgrifennydd Esgobaethol newydd i Esgobaeth Bangor

Mae Esgobaeth Bangor wedi cyhoeddi mai Joanna Thomas fydd ei Ysgrifennydd Esgobaethol nesaf.
Ymunodd Joanna â’r esgobaeth ym mis Ebrill 2025 fel Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth ac fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Esgobaethol dros dro ym mis Hydref 2025. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain yr esgobaeth drwy gyfnod o newid, a bydd yn parhau yn y ddwy rôl nes y penodir Cyfarwyddwr Addysg newydd.
Yn siaradwr Cymraeg rhugl, bu Joanna gynt yn bennaeth am wyth mlynedd mewn ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Bangor.
Fel Ysgrifennydd Esgobaethol, bydd yn arwain tîm staff yr esgobaeth, gan gefnogi datblygu a gweithredu strategaeth a pholisi’r esgobaeth er mwyn galluogi cenhadaeth a gweinidogaeth ar draws Esgobaeth Bangor.
Dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann: “Rwy’n falch iawn o groesawu Joanna i’r rôl hon ac yn ddiolchgar am yr arweinyddiaeth y mae eisoes wedi’i chynnig. Mae hwn yn benodiad pwysig i’r esgobaeth, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi a gweddill tîm yr esgobaeth wrth i ni barhau i gryfhau ein tystiolaeth Gristnogol yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd Hywel Parry-Smith, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: “Mae’r Ymddiriedolwyr yn croesawu penodiad Joanna yn gynnes ac yn edrych ymlaen at weithio’n agos gyda hi yn y misoedd i ddod. Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau â’r gwaith sydd eisoes wedi dechrau i gryfhau strwythurau ac arweinyddiaeth ein hesgobaeth. Gyda chyfeiriad clir ac ymdeimlad cyffredin o bwrpas, gallwn symud ymlaen gydag optimistiaeth ac egni o’r newydd.”
Mae Esgobaeth Bangor yn un o chwe esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, gan wasanaethu cymunedau ledled gogledd-orllewin Cymru a rhan o Bowys.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf