Etholwyd Archesgob Newydd Cymru

Mae Archesgob newydd Cymru wedi cael ei ethol heddiw, 30 Gorffennaf 2025.
Dewiswyd Cherry Vann sydd wedi gwasanaethu fel Esgob Mynwy am y pum mlynedd diwethaf, fel pymthegfed Archesgob Cymru.
Mae hi’n olynu'r Esgob Andrew John a ymddeolodd ym mis Gorffennaf ar ôl tair blynedd a hanner fel arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.
Etholwyd Archesgob Cherry ar ôl sicrhau y mwyafrif angenrheidiol, sef dwy ran o dair o’r bleidlais gan aelodau'r Coleg Etholiadol ar ail ddiwrnod ei gyfarfod yn Eglwys a Gwesty St Pierre yng Nghas-gwent. Cadarnhawyd yr etholiad gan yr esgobion esgobaethol eraill ac fe gafodd y canlyniad ei gyhoeddi gan Esgob Gregory Cameron, Esgob Llanelwy. Bydd Archesgob Cherry yn cael ei gorseddu yn Gadeirlan Casnewydd maes o law. Fel Archesgob bydd hi yn parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, cysegrwyd yr Archesgob Cherry Vann yn Esgob Mynwy yn 2020. Ordeiniwyd Cherry yn ddiacon ym 1989. Roedd hi wedyn ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio'n clerigwyr yn Eglwys Loegr ym 1994. Yna gwasanaethodd fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am 11 mlynedd.
Dywedodd hi, “Y peth cyntaf y mae’n rhaid imi ei wneud yw i sicrhau bod y materion sydd wedi cael eu codi yn y chwe mis diwethaf yn cael eu trin mewn ffordd addas, ac fy mod yn gweithio i ddod â iachad a chymod ac i adeiladu lefel dda o ymddiriedaeth yn yr Eglwys ac yn y cymunedau y mae’r Eglwys yn eu gwasanaethu."
Y Parch. Ian Black, Deon Casnewydd, croesawodd y newyddion ar ran Esgobaeth Mynwy.
Dywedodd he, "+Cherry yw'r person cywir ar gyfer y foment hon ym mywyd Eglwys Cymru. Mae ganddi'r sgiliau a'r weledigaeth sydd eu hangen arnom i adfer ymddiriedaeth ar ôl rhai methiannau cyhoeddus iawn. Mae hi wedi dod â sefydlogrwydd i Esgobaeth Mynwy, gan reoli'r newid i ardalau gweinidogaeth gydag eglurder a phwrpas, gan ddangos gofal dwfn dros yr clerigwyr a'r bobl. Bydd hyn yn gynsail cryf wrth iddi arwain y Dalaith yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae ganddi ffydd ddofn, sydd hefyd yn agored i'r rhai sy'n o farn wahanol, ac mae hyn wedi gwneud argraff enfawr ar y bobl hynny. Edrychaf ymlaen at ei chefnogi hi fel Deon ei Chadeirlan.
Un o'n dyletswyddau a'n pleserau yn y Gadeirlan yw gweddïo dros yr esgob bob dydd a byddwn wrth ein bodd wrth barhau i wneud hynny.”