Canolbarth Cymru: eglwys yn cynnig llety unigryw yr hydref hwn i gerddwyr

Mae cerddwyr sy’n chwilio am ffordd newydd o archwilio cefn gwlad Cymru yr hydref hwn bellach yn gallu archebu llety dros nos yn Eglwys Gwrhai Sant, Penstrowed, Powys — un o ddim ond dau safle “champing” yng Nghymru.
Mae champing, sy’n gyfuniad o’r geiriau Saesneg “eglwys” a “gwersylla”, yn cynnig mynediad unigryw dros nos i eglwysi hanesyddol nad ydynt bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau rheolaidd. Adeiladwyd Eglwys Gwrhai Sant yn y 1860au ar safle gyda threftadaeth Gristnogol yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif. Mae’n sefyll wrth lan Afon Hafren ac yn cynnig mynediad at lwybrau cerdded ar draws Canolbarth Cymru.
Gall yr eglwys ddarparu ar gyfer hyd at bedwar gwestai ac mae ganddi gegin lawn offer yn y neuadd gyfagos, toiled dan do, a lle diogel i feiciau. Croesewir cŵn. Fel arfer, mae’r gwesteion yn aros un neu ddwy noson, gyda theithwyr unigol, grwpiau bach a theuluoedd eisioes wedi archebu lle yn ystod y tymor cyntaf.
Wedi’i leoli awr o Aberystwyth a’r Amwythig, mae’r safle mewn lle delfrydol i archwilio Mynyddoedd y Cambria, sydd ugain munud i ffwrdd ac sy’n cynnwys naw safle cydnabyddedig Awyr Dywyll. Mae Llwybr Hafren — llwybr cerdded 215-milltir i Fryste — yn cychwyn yn agos, ac mae grwpiau cerdded tywysedig yn weithgar yn yr ardal.
Rheolir y fenter gan Ardal Weinidogaeth Bro Arwystli ac mae’r incwm yn cefnogi gwaith cenhadaeth a gweinidogaeth leol. Mae’r ddau safle champing yng Nghymru i’w cael yn Esgobaeth Bangor, sy’n cefnogi ei heglwysi’n weithredol i amrywio ffynonellau incwm ac i ddenu cerddwyr, selogion awyr agored ac ymwelwyr drwy fentrau megis champing.
Mae modd archebu llety drwy wefan Champing, gyda’r pris wedi ei nodi fesul person y noson. Mae gan westeion ddefnydd eu hunain o’r eglwys yn ystod eu harhosiad.
Am fwy o wybodaeth neu i archebu, ewch i champing.co.uk
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf