Gwasanaeth coffa i anrhydeddu bywydau a gollwyd ar fynyddoedd Eryri

Bydd digwyddiad coffa newydd yn cael ei gynnal yn Eryri yn ddiweddarach y mis hwn i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ar yr Wyddfa a’r copaon cyfagos.
Cynhelir y cynulliad, o’r enw Cysgod yr Wyddfa, yn Eglwys Nant Peris ddydd Sul 26 Hydref rhwng 5.30pm a 6.00pm. Y Parchedig Naomi Starkey, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Eryri, sydd wedi trefnu’r digwyddiad, yn dilyn cyfres o farwolaethau ar y mynyddoedd yn ddiweddar.

“Ar ôl byw ym Mro Eryri ers dros flwyddyn, rydw i wedi dod i sylweddoli peryglon yn ogystal â harddwch y dirwedd anhygoel,” meddai’r Parchedig Naomi. “Mae hi mor ingol clywed am bobl sy’n dod am antur yn y mynyddoedd a sut mae’r antur honno weithiau’n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.”
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae sawl marwolaeth wedi bod ar yr Wyddfa a’r llwybrau cyfagos, gan gynnwys digwyddiadau ar Grib Goch, sydd uwchben Eglwys Nant Peris, ac ar odre’r bryniau a’r afonydd o amgylch y mynydd.
Dywedodd y Parchedig Naomi fod y penderfyniad i drefnu’r digwyddiad wedi dod yn rhywbeth personol, ar ôl i’w mab 23 oed gael ei anafu’n ddifrifol mewn damwain beic yr haf hwn. “Fel mam yn ogystal â ficer, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i nodi’r colledion diweddar hynny a’r nifer fawr o rai eraill dros y blynyddoedd.”

Bydd y cynulliad dwyieithog yn fan agored ar gyfer myfyrio tawel yn hytrach na gwasanaeth eglwys ffurfiol. Bydd yn cynnwys cerddoriaeth ysgafn, darlleniadau, a’r cyfle i gynnau cannwyll.
“Rwyf eisiau darparu lle i alaru a chofio mewn lle cysegredig yng nghanol Eryri,” ychwanegodd y Parchedig Naomi.
Mae croeso i unrhyw un fynychu, gan gynnwys teuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac aelodau o’r gymuned achub mynydd. Bydd yna gasgliad ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis, y tîm achub prysuraf yn y DU, a ymatebodd i fwy na 300 o alwadau yn 2025. Ym mis Medi yn unig, cawsant 32 o alwadau, a olygodd y bu’n rhaid i’r tîm llawn fynd allan 25 o weithiau.
Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad coffa o’r fath gael ei gynnal ac mae’n bosibl y bydd yn dod yn ddigwyddiad blynyddol.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf