Sefydlu y Deon newydd ym Mangor

Bydd y Tra Barchedig Manon Ceridwen James yn cael ei sefydlu yn Ddeon Bangor mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Bangor ddydd Sadwrn 11 Hydref am 2.00yp.
Mae Manon yn cymryd yr awenau ar ôl cyfnod heriol o bwysau ariannol, materion llywodraethu, ac archwiliad cyhoeddus yn y gadeirlan. Fe’i phenodwyd i arwain y gymuned trwy gyfnod o adfer, ailadeiladu ymddiriedaeth, a hyrwyddo cymod ac iachâd ar draws y gadeirlan.
Cafodd Manon ei magu yn Nefyn ar Benrhyn Llŷn, ac yn flaenorol bu’n Ddeon dros Hyfforddiant Gweinidogaethol Cychwynnol yng Ngholeg Padarn Sant. Mae gan Manon berthynas agos â Chadeirlan Bangor, gan iddi gael ei hordeinio’n Ddiacon yma yn 1994 ac yn offeiriad yn 1997.
Mae gan Manon gyfoeth o brofiad ym maes arweinyddiaeth a gweinidogaeth yn y cyd-destun Cymreig, gan ei bod wedi bod yn ymwneud â hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth o fewn yr Eglwys yng Nghymru ers 2005. Mae ganddi brofiad helaeth o weinidogaeth blwyfol ac mae wedi dal nifer o swyddi arweinyddol uwch, gan gynnwys Cyfarwyddwr Esgobaethol Ymgeiswyr Gweinidogaeth a Chyfarwyddwr Gweinidogaeth. Fel siaradwraig Gymraeg, mae ei gwaith yn y cyfryngau yn cynnwys cyfraniadau rheolaidd i BBC Radio Cymru yn ogystal â rhaglenni BBC Radio Wales.
Wrth siarad cyn ei sefydlu, dywedodd Manon: “Mae’n anrhydedd gennyf gymryd y rôl o Ddeon Cadeirlan Bangor ac arwain y gadeirlan drwy gyfnod o iachâd a chymod. Fel Deon, fy mlaenoriaeth yw adfer hyder yng nghenhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan, a sicrhau ei bod yn parhau’n fan sy’n adlewyrchu’r gorau o Fangor a’r esgobaeth ehangach.”
“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm ymroddedig sy’n gwasanaethu yn y Gadeirlan eisoes. Mae eu hymrwymiad i arddarngos cariad Duw yn y ddinas yn hynod, a bydd yn fraint cael eu cefnogi a’u harwain yn y gwaith hwn.”
Bydd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann, yn gweinyddu’r gwasanaeth.
Dywedodd Archesgob Cherry: “Rwy’n hynod falch o groesawu Manon Ceridwen James fel Deon newydd Cadeirlan Bangor. Mae’r gadeirlan wedi wynebu cyfnod heriol yn ddiweddar, ac mae’n hanfodol bod y materion hyn yn cael eu hwynebu’n agored ac yn gyfrifol. Mae Manon yn dod â’r profiad, yr ymrwymiad a phwrpas clir sydd ei angen i arwain y gadeirlan drwy’r cyfnod hwn, gan helpu i ailadeiladu hyder a chryfhau ei rôl fel prif eglwys Esgobaeth Bangor.”
“Wrth iddi ymgymryd â’r rôl hon, cadwch hi a’r gadeirlan yn eich gweddïau, fel y gallant, dan ei harweinyddiaeth barhau, i wasanaethu Duw yn ffyddlon, cefnogi’r gynulleidfa a’r gymuned, ac i barhau’n bresenoldeb sefydlog ac ysbrydoledig i bawb sy’n dod i addoli neu ymweld.”
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf