Sgwrs ag Athrofa Padarn
Dros y misoedd nesaf bydd Athrofa Padarn Sant yn lansio cyfres newydd o sgyrsiau diddorol a gynhelir mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.
Bydd pob sesiwn yn para tua 90 munud ac yn cynnwys trafodaeth a myfyrdod. Darperir lluniaeth ysgafn ym mhob sesiwn.
Mae’r amserlen lawn o sgyrsiau isod.

Gweddi a Natur Duw– gyda Dr Charlie Hadjiev a’r Parch Ddr Jordan Hillebert
Cadeirlan Llandaf – 15 Mai 7pm -8.30pm
Beth yw pwrpas gweddi? Ydy Duw yn cael ei ddylanwadu gan weddïau? Os yw Duw yn gwybod beth rydym ni ei hangen beth yw’r pwynt gofyn?
- Parch Ddr Jordan Hillebert yn wreiddiol o’r Unol Daleithiau, symudodd i’r Alban i astudio ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol St Andrews ac yn 2015. Dechreuodd ei swydd fel Tiwtor Diwinyddiaeth yng Ngholeg Mihangel Sant cyn ymuno â’r tîm yn Athrofa Padarn Sant. O 2016-2019, fe wasanaethodd hefyd fel Curad Cynorthwyol yn mewn Eglwys yn y Rhath. Ef yw Cyfarwyddwr Ffurfiant Athrofa Padarn Sant ac mae’n dysgu ym meysydd diwinyddiaeth Gristnogol a moeseg.
- Dr Charlie Hadjiev yn wreiddiol o Fwlgaria, bu ynghlwm â chenhadaeth brifysgol am nifer o flynyddoedd ym Mwlgaria ac ar draws Ewrop ynghyd â bod ynghlwm â amryw ffurf o weinidogaeth Eglwys. Cwblhaodd ei DPhil ar y Beibl Hebraeg yn Rhydychen yn 2008 ac mae ef wedi darlithio ar astudiaethau Beiblaidd ym Mwlgaria, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg cyn ymuno a Phadarn Sant yn 2023. Mae e far hyn o bryd yn olygydd Hen Destament i Gymdeithas y Beibl Bwlgaria yn gweithio ar brosiect i ddiwygio ei chyfieithiad presennol o’r Beibl i Iaith Bwlgaria safonol. Charlie yw Cyfarwyddwr yr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth ac mae hefyd yn diwtor yr Hen Destament.

Rhyfeddod y Salmau – gyda Dr Charlie Hadjiev a’r Parch Ddr Alun Evans
Eglwys Sant Mihangel Aberystwyth – 24 Mehefin 7pm-8.30pm
Sut mae’r salmau yn ein dysgu ni i weddïo? Beth yw lle galar a llawenydd mewn gweddi? Beth mae’r Salmau yn ein dysgu am Dduw, Iesu'r person a beth mae’n golygu i fod yn ddynol?
- Parch Ddr Alun Evans yn wreiddiol o Doc Penfro yn ne sir Benfro, astudiodd hanes a mathemateg a gweithiodd fel athro ysgol gynradd yn Sir Benfro. Yn dilyn ei ordeiniad yn 2016 fe wasanaethodd mewn amrywiaeth o blwyfi yn esgobaeth Tyddewi ynghyd â ennill profiad o weinidogaeth caplaniaeth. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth ar esboniadaeth ddiwylliannol, yn canolbwyntio ar Song of Songs, gyda Phrifysgol Caerdydd . Mae Alun yn Diwtor Cenhadaeth yn Athrofa Padarn Sant.
- Dr Charlie Hadjiev yn wreiddiol o Fwlgaria, bu ynghlwm â chenhadaeth brifysgol am nifer o flynyddoedd ym Mwlgaria ac ar draws Ewrop ynghyd â bod ynghlwm â amryw ffurf o weinidogaeth Eglwys. Cwblhaodd ei DPhil ar y Beibl Hebraeg yn Rhydychen yn 2008 ac mae ef wedi darlithio ar astudiaethau Beiblaidd ym Mwlgaria, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg cyn ymuno a Phadarn Sant yn 2023. Mae e far hyn o bryd yn olygydd Hen Destament i Gymdeithas y Beibl Bwlgaria yn gweithio ar brosiect i ddiwygio ei chyfieithiad presennol o’r Beibl i Iaith Bwlgaria safonol. Charlie yw Cyfarwyddwr yr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth ac mae hefyd yn diwtor yr Hen Destament.

Diwylliant, Hunaniaeth a Chenedligrwydd- gyda Dr Charlie Hadjiev a’r Canon Ddr Manon Ceridwen James
Eglwys Sant Paul, Llandudno – 16 Gorffennaf 7.30-9:00pm
Beth yw gwerth ysbrydol amrywiaeth diwylliannol? Sut mae hunaniaeth genedlaethol yn berthnasol i’n hunaniaeth fel credinwyr a dilynwyr Iesu? Sut mae diwylliant yn llywio ffydd, a beth yw’r cyswllt rhwng diwylliant a chrefydd?
- Canon Dr Manon Ceridwen James ganwyd yng Nglanaman, Sir Gâr ond fe fagwyd yn Nefyn (Penllŷn). Fe’I hordeiniwyd yn ddiacon yn 1994 yng Nghadeirlan Bangor a’i hordeinio’n offeiriad yn 1997. Mae wedi bod ynghlwm â hyfforddiant i’r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru ers 2005 ac wedi dysgu pynciau; diwinyddiaeth ymarferol, arwain addoliad, pregethu ac addysg oedolion yn ystod ei amser gyda’r Eglwys yng Nghymru. Yn bresennol mae’n Ddeon Hyfforddiant Cychwynnol i’r Weinidogaeth yn Athrofa Padarn Sant. Cyhoeddwyd ei doethuriaeth (Prifysgol Birmingham) arWomen, Identity and Religion in Wales: theology, poetry, story Gwas Prifysgol Cymru yn 2018.
- Dr Charlie Hadjiev yn wreiddiol o Fwlgaria, bu ynghlwm â chenhadaeth brifysgol am nifer o flynyddoedd ym Mwlgaria ac ar draws Ewrop ynghyd â bod ynghlwm â amryw ffurf o weinidogaeth Eglwys. Cwblhaodd ei DPhil ar y Beibl Hebraeg yn Rhydychen yn 2008 ac mae ef wedi darlithio ar astudiaethau Beiblaidd ym Mwlgaria, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg cyn ymuno a Phadarn Sant yn 2023. Mae e far hyn o bryd yn olygydd Hen Destament i Gymdeithas y Beibl Bwlgaria yn gweithio ar brosiect i ddiwygio ei chyfieithiad presennol o’r Beibl i Iaith Bwlgaria safonol. Charlie yw Cyfarwyddwr yr MA Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth ac mae hefyd yn diwtor yr Hen Destament.
Archebwch eich lle yn un o'r sgyrsiau:
Ffurflen archebu Sgwrs gyda Padarn SantI gael rhagor o wybodaeth am y sgyrsiau hyn, cysylltwch â: tina.franklin@stpadarns.ac.uk.