Cannoedd yn llenwi Eglwys Gadeiriol Casnewydd ar gyfer Gorseddu 15fed Archesgob Cymru
Cafodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Cherry Vann, ei gorseddu mewn gwasanaeth cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, Casnewydd, ddydd Sadwrn, Tachwedd 8fed.
Roedd y seremoni yn dilyn ethol yr Archesgob gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Gorffennaf.
Yn wreiddiol o Swydd Gaerlŷr, ordeiniwyd Cherry Vann yn ddiacon yn 1989. Yn 1994, roedd ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid yn Eglwys Loegr. Ar ôl gwasanaethu mewn amryw o rolau yn Esgobaeth Manceinion, gan gynnwys fel caplan i’r gymuned fyddar, bu’n Archddiacon Rochdale am 11 mlynedd cyn cael ei chysegru’n Esgob Mynwy yn 2020. Y mae hi’n parhau yn y swydd honno.
Beth sy’n digwydd mewn gorseddiad?
Yn y seremoni yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, cafodd Archesgob Cherry ei gorseddu yn y Gadair Archesgobol o flaen yr Allor Uchel. Bydd y Gadair yn aros yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd drwy gydol ei chyfnod fel Archesgob.
Wrth gyrraedd, cafodd yr Archesgob ei chroesawu gan un o’r Corwswyr ifanc. Digwyddodd hwn wrth y ffont yn rhan hynaf yr eglwys gadeiriol, lle sefydlodd Gwynllyw ei eglwys yn y 5ed ganrif. Yn dilyn hyn, bu weithred o edifeirwch dan arweiniad yr Archesgob, wrth iddi benlinio ger y Gadair.
Yn ddiweddarach yn y gwasanaeth, cafodd y llw swyddogol ei dyngu gan ddefnyddio Beibl Archesgobion Mynwy – a ddefnyddiwyd yn seremoniau gorseddu pob Esgob Mynwy blaenorol a ddaeth yn Archesgob Cymru: Edwin Morris, Derek Childs, Rowan Williams, ac yn awr Archesgob Cherry.
Yn dilyn y gorseddiad, a’r croeso gan y gynulleidfa o bob cwr o Gymru a thu hwnt, gymerodd yr Archesgob i sedd ar yr orsedd Archesgobol wrth i Gôr yr Eglwys Gadeiriol ganu The Call of Wisdom gan Will Todd, a gyfansoddwyd ar gyfer Ei Diweddar Fawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail ac a ganwyd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar gyfer ei gwasanaeth Jiwbili Diemwnt.
Yna pregethodd Archesgob Cherry cyn arwain y gynulleidfa wrth iddyn nhw adrodd Credo Nicea, eleni yn nodi i phen-blwydd yn 1700 oed.
Cyflwynodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, corff partneriaeth eglwysi Cymru, yn cyflwyno’r Archesgob i arweinwyr eglwysig a chrefyddol o bob cwr o Gymru, tra gyflwynodd yr Esgob David Morris yr Archesgob i gynrychiolwyr o Eglwys Loegr, Eglwys Iwerddon, Eglwys Esgobol yr Alban ac Archesgob Uppsala, sy’n cynrychioli Eglwysi Porvoo – cymdeithas ecwmenaidd Ewropeaidd o eglwysi Anglicanaidd ac Efengylaidd Lutheraidd, y mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod ohoni.
Daeth gweddïau ar ôl hynny, dan arweiniad disgyblion o Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Teilo yn Esgobaeth Llandaf ac Ysgol Penrhyn Dewi yn Esgobaeth Tyddewi.
Daeth y gwasanaeth i ben gyda Gweithred o Ymrwymiad i genhadaeth yr eglwys, ac orffenodd gydag aelod hŷn o’r Côr yn gofyn i’r Archesgob a fyddai hi’n hyrwyddo lles ac undod yr Eglwys a bod yn Fugail Da i’w phobl ar ôl esiampl Crist.
Yna gorymdeithiodd yr Archesgob a'r clerigwyr allan o'r Eglwys Gadeiriol.
Arweiniwyd y gerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth gan y Cyfarwyddwr Cerdd, Tom Coxhead, a Chôr yr Eglwys Gadeiriol.
Roedd y gwasanaeth yn cynnwys y Kyrie yn y Gymraeg a gyfansoddwyd gan Paul Mealor, a ganwyd yng Nghoroni'r Brenin Siarl yn 2023. Fe'i canwyd gan y bas-bariton ifanc o Gymru, Owain Wyn Rowlands. Cymerodd y cyn-Delynores Frenhinol, Alis Huws, a chwaraeodd yn y Coroni hefyd, ran hefyd.
Arweiniodd Croes Cymru, Croes orymdeithiol a roddwyd gan y Brenin fel rhodd i'r eglwysi yng Nghymru ar gyfer ei chanmlwyddiant, yr orymdaith i'r eglwys gadeiriol.
Trefn y digwyddiad:
- 2:15 PM – Pob gwestai wedi eistedd/gwisgo
- 2:30 PM – Y Deon yn croesawu’r gwesteion, mynediad olaf i westeion, dechrau’r ffrydio byw
- 2:45 PM – Gorymdaith y clerigwyr
- 3:00 PM – Dechrau’r gwasanaeth gorseddu
- 4:30 PM – Dechrau’r derbyniad
Dywedodd Y Tra Pharchedig Ian Black, Deon Eglwys Gadeiriol Casnewydd:
“Mae’n bleser gallu croesawu pawb i’r Gadeirlan ar gyfer yr eiliad arbennig hon ym mywyd Eglwys yng Nghymru. Mae hyn yn nodi dechrau newydd, wrth i ni weddïo y gallwn, gyda’n gilydd, geisio bod yn gludwyr goleuni a gobaith yn ein cenedl.
Cafodd y gwasanaeth ei ffrydio’n fyw ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan yr Eglwys yng Nghymru i alluogi cyfranogiad ehangach.
Cynhaliwyd gorseddiad cyntaf Archesgob Cymru ar 1 Mehefin 1920 yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roedd hyn yn dilyn Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, pan ddaeth yn annibynnol ar Eglwys Loegr. Gallwch wylio’r gwasanaeth yma: Enthronement of the First Archbishop of Wales June 1st 1920
Archesgob Cherry yw’r fenyw gyntaf i wasanaethu fel Archesgob Cymru, sydd yn gwneud yr gorseddiad hwn yn achlysur gwirioneddol arwyddocaol a hanesyddol.
Wrth gael ei hethol gyntaf fel Archesgob, dywedodd: “Y peth cyntaf y bydd angen i mi ei wneud yw sicrhau bod y materion a godwyd yn ystod y chwe mis diwethaf yn cael eu trafod yn iawn a’m bod yn gweithio i ddod â iachâd a chymod, ac i adeiladu lefel dda iawn o ymddiriedaeth ar draws yr Eglwys a’r cymunedau y mae’r Eglwys yn eu gwasanaethu.”
Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron: “Rwy’n hynod falch o groesawu Cherry fel 15fed Archesgob Cymru. Yn ystod ei chyfnod fel Esgob Mynwy, daeth â iachâd mewn cyfnod o angen, a gweledigaeth o’r Eglwys fel cymuned adnewyddedig dan Grist y gellir ei chymhwyso a’i hehangu ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru gyfan.”
Ffrydio byw recordiad
Pregeth Archesgob Cherry
Yn ôl yng nghanol y 1990au, dwi ddim yn siŵr pryd yn union, deuthum ar draws cerdd sydd wedi glynu gyda mi byth ers hynny. Nid wyf yn gwybod sut na pham y deuthum a rei thraws, ond mae wedi siapio fy nealltwriaeth o weinidogaeth ac o'r eglwys dros y blynyddoedd ac mae'n ymddangos yn eithaf addas I’w rhannu hi gyda chi ar achlysur fel hyn.
Ei theitl yw 'In search of a round table' a'i hawdur yw rhywun o'r enw Chuck Laythrop. Dyma rai rhannau ohoni:
Concerning the why and how and what and who of ministry, one image keeps surfacing: A table that is round.
It will take some sawing to be roundtabled.
Some redefining and redesigning, some redoing and rebirthing of narrow-long Churching can painful be, for people and tables.
It would mean no daising and throning, for but one king is there and he is a foot washer, at table no less.
And what of narrow-long ministers when they confront a round table people,
After years of working up the table to finally sit at its head
Only to discover that the table has been turned around?
They must be loved into roundness,
For God has called a People, not ‘them and us’.
‘Them and us’ are unable to gather round; for at a round table there are no sides and ALL are invited to wholeness and to food..
Roundtabling means no preferred seating, no first and last, no better,
And no corners for the ‘least of these.’
Roundtabling means being with, a part of, together and one. It means room for the Spirit and gifts and disturbing profound peace for all.
Beth fyddai'n ei gymryd i ni ddod yn eglwys bwrdd crwn? Pa beth y medrwn ni ei rannu yn well gyda 'r byd, a pha beth y medrwn fod dros y byd pe baem, mewn difri’, yn Bobl, ac nid yn 'nhw a ni'?
Amser cythryblus yw ein hamser ni. Mae rhaniadau a chasineb, diffyg ymddiriedaeth a diffyg gwybodaeth yn amlwg ar draws ein byd ac yn ein cymdeithasau yma yng Nghymru. Ymddengys bod tueddiad cynyddol, anogaeth hyd yn oed (gan rai o leiaf) i ddiffinio ein hunain drosodd ac yn erbyn eraill mewn ffyrdd sy'n bygwth cydlyniant cymunedol y mae llawer wedi treulio degawdau yn ceisio ei adeiladu. Mae llawer yn ofni wrth weld rhyfeloedd a thensiynau ledled y byd yn cael eu hadlewyrchu yn ein strydoedd a'n cymunedau ni. Mae'n anodd weithiau i wybod beth i'w ddweud heb ofn tramgwyddo rhywun neu ryw grŵp o bobl. Ond ar yr un pryd, nid fu erioed mor bwysig inni amddiffyn yr hawl i ryddid lleferydd.
Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn dinistrio bywoliaethau a chartrefi. Mae cynnydd parhaus yn y costau byw yn gwneud llawer yn ofnus ac yn bryderus am y dyfodol.
Er na all yr eglwys ddatrys problemau'r byd, fe gawn ein galw i fodelu ffordd wahanol iawn o fyw, sy'n cynnig ffordd arall o fyw ac sy’n cynnig y gobaith a gawn yn Nheyrnas Dduw. Mae'r gerdd am greu bwrdd crwn yn adlewyrchu rhai themâu allweddol yn yr efengyl, sef y newyddion da am Iesu, y newyddion da y cawn galw i’w gyhoeddi gyda phopeth yr ydym a phopeth sydd gennym.
Ac felly, yn ein hagweddau a'n hymddygiad, yn y penderfyniadau rydyn ni'n eu cymryd a'r gwerthoedd rydyn ni'n eu cefnogi, yn y ffordd rydyn ni'n byw ac yn ymwneud â'n gilydd, nid oes 'ni a nhw’. Oherwydd mae pawb wedi'u creu gan Dduw a'u gwneud ar ddelw Duw. Dyna'n man cychwyn. Er ei fod yn anodd weithiau, cawn ein gwahodd gan Dduw i ddathlu amrywiaeth ein dynoliaeth fyd-eang a'i gofleidio fel rhodd. Yn economi Duw, estynnir gwahoddiad i bawb ac mae croeso i bawb fel plant yr un tad nefol. Rydyn ni'n un ynddo.
Nid oes gorseddu na dyrchafu – sydd braidd yn eironig yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yma y prynhawn yma, gydag orsedd eithaf mawr yn eistedd yng nghanol y llwyfan. Ond mae'r efengyl yn ein hatgoffa, fel y mae'r gerdd, ein bod ni i gyd yn gyfartal yng ngolwg Duw. Nid yw Duw’n ymwneud â hierarchaeth. Yn wir, mae Iesu mewn llawer o’i ddamhegion a’i ddywediadau yn troi wyneb i waered ein tueddiadau naturiol i feddwl yn nhermau mawredd, rhagoriaeth, goruchafiaeth a phwysigrwydd. Yn hytrach, mae'n ein rhybuddio y bydd y cyntaf yn olaf a'r olaf yn gyntaf. Rydyn ni i weld eraill fel y mae Duw yn eu gweld, ac i weld ni ein hunain yn yr un modd.
Ac rydym i gymryd ein harwain gan Grist ein Brenin, sef dim llai na’r golchwr traed wrth y bwrdd. Oherwydd dyma'r esiampl y mae'n ei osod i ni ei dilyn, fel y clywsom eiliad yn ôl yn ein darlleniad o’r efengyl. Ond mae hyn yn ymwneud â mwy na dim ond gwasanaethu'r rhai yn ein llwyth neu yn ein heglwys ein hunain, neu'r bobl sy'n debyg i ni. Mewn man arall, mae Iesu yn dweud wrthym, pan fyddwn yn bwydo'r newynog, yn croesawu'r dieithryn, yn ymweld â'r cleifion a'r carcharorion, pan fyddwn yn gofalu am y rhai sy'n cael eu hystyried fel 'y lleiaf o'r rhain', yna rydyn ni'n gwneud hynny drosto ef. Dyma sut mae cariad yn edrych yn ei dermau sylfaenol a mwyaf ymarferol.
Mae'r cyfan yn swnio'n gymeradwy ac yn anrhydeddus iawn, ac yn ac mae'r cyfan yn gyfarwydd iawn i'r rhai ohonom sy'n honni ein bod yn dilyn Iesu. Ond, os ydym yn ei gymryd o ddifrif ac yn ceisio ei wireddu yn ein bywydau, yna buan iawn y byddwn yn canfod mai gwaith called yw hyn. Nid yw'n dod yn hawdd.
Gan ei fod yn golygu estyn allan ar draws y rhaniadau, a mynd i’r perygl o gael ein gwrthod a'n gwawdio am ein hymdrechion. Mae'n golygu cydfyw a chydfodoli - mewn gras a chariad a chyda chalon agored - gyda'r rhai sy'n gwthio ein botymau ac sy’n ein cythruddo y tu hwnt i fesur. Mae'n golygu bod yn barod i adael ein grym a'n meistrolaeth er mwyn grymuso a galluogi eraill, a bod yn barod i gael ein herio a'n newid gan y rhai sy'n dod atom, boed i'n heglwys neu i'n gwlad, ac i geisio canfod Crist hyd yn oed yn y rhai sy'n ein wrthun gennym, y rhai sy’n difrïo a’r rhai sy’n bygwth ein bywydau cyfforddus.
Nid oedd Eseia ond yn gallu dweud y geiriau annwyl hynny, 'dyma fi, anfonwch fi' gan ei fod wedi cael cip ar weledigaeth o ogoniant yr Arglwydd. Roedd wedi cydnabod ei annheilyngdod ef ei hun ac roedd wedi profi maddeuant a gras Duw. Wedyn, a dim ond wedyn, y cafodd ei gymell a'i ysgogi i gynnig ei hun i wasanaeth Duw. Ac mae'r adnodau sy'n dilyn ein darn heddiw yn nodi pa mor anhygoel o heriol oedd y dasg a roddwyd iddo.
Mae Sant Paul yn cymharu gwendid a breuder ei natur ddynol a'n natur ddynol ninnau â llestri pridd; a’r rheiny wedi eu treulio, eu hanharddu a’u cracio gan ofynion, clwyfau a siomedigaethau bywyd. Mae'n atgoffa ei ddarllenwyr i beidio â chymysgu trysor yr efengyl a'i grym trawsnewidiol gyda'n gallu a'n cryfder dynol ni ein hunain sydd mor gyfyngedig ac mor fregus. Rhaid i'n ffocws a'n sylw fod ar y newyddion da rydyn ni'n ei gario ynom a grym Duw sydd wedi ein newid, ac sy’n gallu ein newid o hyd. Oherwydd dyna beth sydd ei angen mor ddybryd ar y byd, a dyna beth y cawn ein galw i'w gyhoeddi; nid ni ein hunain.
Ac yn esiampl Iesu o wasanaeth cariadus y gwelwn galon Duw sy'n cael ei grynhoi yn y ddelwedd o fwrdd crwn lle y mae gwahoddiad, croeso a bwyd i bawb.
Ffordd wahanol o fyw. Ffordd wahanol o fod. Nid ffordd inni ei mwynhau a’i chadw i ni ein hunain o fewn yr eglwys. Ond ffordd inni ei rhannu gyda 'r byd a ffordd inni fodoli dros y byd.
Rhodded Duw ras inni garu ein gilydd yn grwn, yn yr eglwys ac yn y byd, fel y canfyddwn yn fwyfwy yr hyn yw ‘bod gyda, bod yn rhan, bod ynghyd, a bod yn un.’