Dweud Eich Dweud: Arolwg Sero Net 2025
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn gwahodd barn o bob cwr o'r Dalaith ar newid hinsawdd a'n taith tuag at sero net.
Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i'r Corff Llywodraethol fabwysiadu'n unfrydol y cynnig Sero Net 2030, gan ymrwymo'r Eglwys i leihau ei hôl troed carbon i sero net erbyn 2030. Wrth i ni edrych ymlaen, rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i werthuso ein cynnydd a llunio ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn gofyn i aelodau a chlerigwyr gymryd rhan yn ein Harolwg Sero Net. Bydd eich adborth yn helpu i lywio trafodaethau'r Corff Llywodraethol ar sero net yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2026.
Os hoffech gwblhau'r arolwg ar ran sefydliad yr Eglwys yng Nghymru neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â: juliaedwards@churchinwales.org.uk
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan Beaufort Research, asiantaeth ymchwil marchnad annibynnol wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, ar ran yr Eglwys yng Nghymru. Dylai gymryd tua 10 munud i'w gwblhau, a bydd yr ymatebion yn parhau'n gyfrinachol.
Gallwch weld trosolwg o'r arolwg i helpu i arwain eich trafodaethau cyn cyflwyno eich ymateb.
Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn yw dydd Sul, 30 Tachwedd 2025.