Cyfarfod o’r Corff Llywodraethol – 18-19 Medi

Bydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, sy’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, yn cyfarfod y mis hwn i drafod ystod o faterion, gan gynnwys bendithio perthnasoedd o'r un rhyw a’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Bydd y cyfarfod deuddydd yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar Fedi 18 a 19 yn dwyn ynghyd hyd at 144 o glerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys, ac mae’n cynnwys y chwech esgob esgobaethol.
Mae eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys: prif anerchiad gan Archesgob newydd Cymru, y Parchedig Cherry Vann, fel Llywydd y Corff Llywodraethol. Etholwyd yr Archesgob Cherry yn 15fed Archesgob Cymru ar Orffennaf 30 eleni.
Bydd yr Archesgob hefyd yn arwain proses drafod gyffredinol am ddiwylliant yr Eglwys yng Nghymru.
Elfen bwysig arall o'r cyfarfod fydd trafodaeth ar berthnasoedd o'r un rhyw. Ar hyn o bryd mae'r Eglwys yng Nghymru yn caniatáu bendithio priodasau sifil o'r un rhyw a phartneriaethau sifil yn ei heglwysi, darpariaeth a awdurdodwyd gan y Corff Llywodraethol ym mis Medi 2021 am gyfnod arbrofol o bum mlynedd, a fydd yn dod i ben ym mis Medi 2026. Mae'r Eglwys ar hyn o bryd mewn cyfnod o ddirnadaeth i benderfynu ar ddyfodol y ddarpariaeth hon, gyda nifer o lwybrau posibl dan ystyriaeth, gan gynnwys: caniatáu I'r ddarpariaeth ddod i ben; ymestyn yr awdurdod ar gyfer trefniadau presennol, neu gyflwyno gwasanaethau priodas ffurfiol o'r un rhyw. Mae’r penderfyniad ar y mater hwn yn gorwedd gyda'r Corff Llywodraethol, sy'n angen mwyafrif o ddwy ran o dair ym mhob un o'r tair urdd - Esgobion, Clerigwyr, a Lleygwyr - i weithredu newidiadau.
Yn y cyfarfod ar Fedi 19eg, mewn proses dan arweiniad y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf, gofynnir i'r aelodau rannu eu barn ar y cynigion. Bydd y safbwyntiau hyn wedyn yn cael eu hystyried ym mis Hydref gan Fainc yr Esgobion, wrth iddynt benderfynu a ddylid cyflwyno cynigion ffurfiol i Gorff Llywodraethol yn y dyfodol.
Bydd y Tra Pharchedig Ian Black, Deon Casnewydd, yn rhoi cyflwyniad ar gwrs Grawys ar-lein newydd ar gyfer 2026, o'r enw 'O Grempogau i Groesau Palmwydd'.
Bydd trafodaeth a phleidlais hefyd yn cael ei gynnal ar god ymddygiad newydd i'w ychwanegu at delerau gwasanaeth clerigwyr a gweinidogion trwyddedig.
Yn erbyn cefndir gwrthdaro parhaus yn y Dwyrain Canol, bydd Jamie Eyre, Prif Swyddog Gweithredol yr elusen Datblygu Cristnogol Embrace the Middle East, yn annerch y Corff Llywodraethol.
Croesewir gohebwyr i fynychu. Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn https://www.churchinwales.org.uk/cy/ a sianel YouTube https://www.youtube.com/user/churchinwales
Agenda a phapurau'r Corff Llywodraethol
Mynediad yma