Cyfarfod o’r Corff Llywodraethol – Tachwedd 25ain, 2024

Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfod arbennig y mis hwn i drafod y swydd esgobol wag yn esgobaeth Bangor.
Ar ôl ymddeoliad yr Esgob Andrew John ddiwedd mis Awst, galwyd Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru a chyfarfu mewn dau gyfarfod rhagarweiniol i drafod ethol yr esgob nesaf ac i wahodd ymgeiswyr posibl i ymateb i'r swydd wag. Yn dilyn y broses hon, penderfynodd y Coleg Etholiadol beidio â ffurfio rhestr fer o ymgeiswyr ac felly peidio â bwrw ymlaen â'r broses etholiadol am y tro, ond ceisiodd gymeradwyaeth Corff Llywodraethol yr Eglwys, trwy ei Bwyllgor Sefydlog, am ddull amgen, dros dro.
Cynigir gwahodd esgob profiadol i Fangor dros dro, am gyfnod o un i ddwy flynedd i ddarparu arweinyddiaeth a sefydlogrwydd ac i weithio gyda'r esgobaeth i gryfhau arweinyddiaeth, cyllid, llywodraethu a rheolaeth cyn ethol esgob esgobaethol newydd.
Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i'r Corff Llywodraethu gymeradwyo cynnig i wneud rhai newidiadau cyfyngedig i'r Cyfansoddiad i ganiatáu’r penodiad dros-dro. Bydd y cynigion yn cael eu trafod mewn cyfarfod arbennig o'r Corff Llywodraethol yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mawrth 25 Tachwedd 2025.
Y cynnig, sydd wedi cael ei gefnogi gan y Pwyllgor Sefydlog, yw'r cam diweddaraf o'r gwaith sy'n cael ei arwain gan Archesgob Cymru, y Parchedig Cherry Vann i fynd i'r afael â'r hyn y mae hi wedi'i ddisgrifio fel yr "heriau ariannol a sefydliadol anodd" sy'n wynebu'r esgobaeth ar hyn o bryd.
Croesewir gohebwyr i fynychu. Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn https://www.churchinwales.org.uk/cy/ a sianel YouTube https://www.youtube.com/user/churchinwales
Agenda a phapurau'r Corff Llywodraethol
Mynediad yma