Y Corff Llywodraethol yn cymeradwyo cynnig sy'n galluogi penodiad Esgob Bangor dros dro

Cyfarfu Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru heddiw i bleidleisio ar newidiadau cyfansoddiadol arfaethedig, â chyfyngiadau amser, a fyddai’n caniatáu penodi Esgob dros dro i Esgobaeth Bangor.
Roedd y cynnig, a gyflwynwyd yn dilyn penderfyniad y Coleg Etholiadol i beidio â bwrw ymlaen ag etholiad ar hyn o bryd, yn ceisio gwelliannau dros dro i’r Cyfansoddiad fel y gellir gwahodd esgob profiadol i wasanaethu ym Mangor am gyfnod o un i ddwy flynedd. Bwriad y penodiad dros dro yw darparu arweinyddiaeth a sefydlogrwydd tra bod gwaith yn parhau i gryfhau llywodraethu, rheoli, cyllid a strwythurau esgobaethol wrth baratoi ar gyfer etholiad esgobol yn y dyfodol.
Yn dilyn gwelliant yn ymestyn dyddiad cau y trefniadau i fis yn dilyn cyfarfod cyffredinol cyntaf y Corff Llywodraethol yn 2028, pleidleisiodd yr Aelodau fel a ganlyn:
- O blaid: 75
- Yn erbyn: 4
- Ymatal: 7
Gyda mwyafrif o blaid, pasiwyd y cynnig.
Mae cymeradwyaeth y Corff Llywodraethol bellach yn galluogi cymryd y camau nesaf tuag at wahodd esgob dros dro i gymryd arweinyddiaeth ym Mangor yn dilyn ymddeoliad yr Esgob Andrew John ddiwedd mis Awst.