Rhaglen gelfyddydol amser cinio am ddim i’w lansio yng Nghadeirlan Bangor
Bydd cyfres gelfyddydol wythnosol newydd yn lansio yng Nghadeirlan Bangor ym mis Mawrth eleni, mewn partneriaeth â Storiel, gan ddod â cherddorion, beirdd ac awduron ynghyd yn un o leoliadau hanesyddol pwysicaf Gogledd Cymru.
Bydd Doniau yn cychwyn ddydd Iau 5 Mawrth gyda datganiad gan organydd y Gadeirlan ei hun, Martin Brown. Cyflwynir nifer o ddigwyddiadau’r gyfres ar y cyd â Storiel, amgueddfa a chanolfan gelfyddydau Bangor, gan adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i gryfhau bywyd diwylliannol y ddinas a chreu cyfleoedd hygyrch i gynulleidfaoedd brofi celfyddyd o safon uchel yn lleol.
Bydd pob digwyddiad yn dechrau am 1.15pm, gyda’r drysau ar agor o 12.30pm ar gyfer lluniaeth a chyfle i gwrdd â’r artistiaid cyn pob perfformiad.
Er y gallai lleoliad y Gadeirlan awgrymu rhaglen glasurol, mae Doniau yn ymestyn ar draws ystod lawn y celfyddydau – o werin acwstig a barddoniaeth lafar i lenyddiaeth a cherddoriaeth organ – gan adlewyrchu ymrwymiad y Gadeirlan i agor y celfyddydau a’u gwneud yn rhydd ac yn hygyrch i bawb.
Mae rhaglen mis Mawrth yn cynnig rhywbeth i bawb. Bydd y gyfres yn agor gyda Martin Brown wrth yr organ ar 5 Mawrth. Ar 12 Mawrth, bydd y canwr gwerin Gnosaidd o Awstralia, Adam Geoffrey Cole, sy’n perfformio dan yr enw Trappist Afterland, yn ymddangos ochr yn ochr ag enillydd Gwobr Gerddoriaeth Cymru, Gareth Bonello, sy’n cael ei adnabod hefyd fel The Gentle Good, mewn cyngerdd a gyflwynir mewn partneriaeth â Storiel. Bydd y rhaglen yn parhau ar 19 Mawrth pan fydd Deon Bangor, y Dr Manon Ceridwen James, yn rhannu barddoniaeth o’i llyfr newydd, Notes from a Eucharistic Life, cyn i’r mis ddod i ben gyda datganiad gan y pianydd lleol, Dr Tristian Evans, ar 26 Mawrth.
Mae’r bartneriaeth yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad Atgyfodi’r Atgyfodiad ym mis Chwefror, a gyflwynwyd fel rhan o ddathliadau Bangor 1500 y llynedd. Ailweithiodd y prosiect y cyngerdd roc trydan cyntaf a gynhaliwyd yn y Gadeirlan yn gynnar yn y 1970au, gan nodi cydweithrediad diwylliannol arwyddocaol rhwng y ddau sefydliad. Mae cyfres Doniau yn parhau â’r uchelgais gyffredin honno i ddod â phrofiadau artistig nodedig i gynulleidfaoedd ym Mangor a’r cyffiniau.
Dywedodd Deon Cadeirlan Bangor, Manon Ceridwen James: “Rydym wrth ein bodd yn lansio Doniau ac yn croesawu’r gymuned ehangach i’r Gadeirlan yn y modd hwn. Mae’r rhaglen yn cynrychioli ehangder y celfyddydau â thalent greadigol o’r ardal ac o du hwnt, y gallwn eu denu i ogledd Cymru. Mae’r gyfres yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i’r celfyddydau ym Mangor, ac rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn rhan werthfawr o fywyd diwylliannol y ddinas.
“Rydym yn arbennig o falch o fod yn partneru â Storiel ar y cyngerdd gydag Adam Cole a Gareth Bonello, ac yn gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o gydweithrediadau tebyg.”
Dywedodd Rhys Lloyd Jones, Swyddog Ymgysylltu a Dysgu yn Storiel: “Mae’n wych unwaith eto i weithio mewn partneriaeth â Chadeirlan Bangor ar brosiect diwylliannol uchelgeisiol i bobl Bangor a’r ardal gyfagos.
“Fel rhan o ddathliadau Bangor 1500 y llynedd, roedd yn bleser bod yn un o ddigwyddiadau agoriadol y dathliadau pan gyflwynodd Storiel a Chadeirlan Bangor Atgyfodi’r Atgyfodiad, sef ailweithiad o’r cyngerdd roc trydan cyntaf a gynhaliwyd yn y Gadeirlan yn gynnar yn y 70au. Bydd Doniau yn galluogi Storiel, Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, sydd hefyd yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed, i weithio ochr yn ochr â’n partneriaid creadigol ym Mangor a dod â llu o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol i bawb eu mwynhau.”
Mae croeso i bawb. Mae mynediad am ddim i bob digwyddiad Doniau. Bydd perfformiadau’n dechrau am 1.15pm.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf