Ethol Archesgob Cymru

Bydd y Coleg Etholiadol yn cyfarfod yn Eglwys a Gwesty St Pierre yng Nghas-gwent ar y 29ain o Orffennaf i ddewis 15fed Archesgob Cymru. Gall y Coleg gymryd hyd at dri diwrnod i ethol Archesgob.
Mae'r etholiad hwn yn dilyn ymddeoliad Esgob Bangor, Andrew John, a daliodd swydd Archesgob Cymru am dair blynedd a hanner. Bydd ei olynydd yn cael ei ddewis o blith yr esgobion sy'n gwasanaethu yn yr esgobaethau Cymreig – Esgob Llanelwy, Gregory Cameron, Esgob Trefynwy, Cherry Vann, Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas, Esgob Llandaf, Mary Stallard, ac Esgob Tyddewi, Dorrien Davies.
Mae'r rhai sy'n gwneud y penderfyniad yn cynrychioli eglwysi ledled Cymru. Mae pob un o'r chwe esgobaeth yn ethol tri chlerigwr a thri aelod lleyg i’r Coleg ac mae'r esgobion hefyd yn aelodau. Llywydd y Coleg yw'r Uwch Esgob, yr Esgob Gregory Cameron.
Bydd y cyfarfod yn dechrau gyda Chymun Bendigaid yn Eglwys Pedr Sant, sydd yn rhan o’r ystad. Ar ôl hynny, bydd aelodau'r coleg yn cwrdd ar gyfer trafodaethau cyfrinachol.
Ar ôl trafodaeth ar anghenion y Dalaith a chyfnod o weddi a myfyrio, bydd yr Llywydd yn galw am enwebiadau. Mae'r esgobion a enwebwyd wedyn yn tynnu'n ôl o'r drafodaeth, gan ddychwelyd i bleidleisio yn unig. Rhaid i enwebai ennill dwy ran o dair o bleidleisiau'r coleg er mwyn cael ei ethol yn Archesgob. Os nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn y pleidleisiau angenrheidiol ar ôl y bleidlais, mae'r broses yn dechrau eto gydag enwebiadau newydd, a all gynnwys y rhai a enwebwyd yn y rownd flaenorol.
Ar ôl i'r Archesgob gael ei ethol, gwneir cyhoeddiad. Yr arfer yw i'r esgob gadarnhau ei etholiad ar unwaith. Bydd seremoni gorseddu’r Archesgob newydd yn digwydd yn eglwys gadeiriol esgobaeth yr Archesgob yn ddiweddarach.
Os nad yw'r Coleg yn ethol Archesgob o fewn tri diwrnod, mae'r penderfyniad yn pasio i Fainc yr Esgobion.
Gweddi am arweiniad Duw wrth ethol Archesgob newydd
Dduw gwirionedd a thrugaredd,
yr wyt ti’n galw gwragedd a gwŷr
i bregethu dy air bywiocaol,
i weinyddu sacramentau dy greadigaeth newydd
ac i arwain dy bobl mewn ffydd, gobaith a chariad:
wrth i’r Eglwys yng Nghymru ethol Archesgob newydd
dyro ddoethineb i’r rhai sy’n ceisio dirnad dy ewyllys
a doniau helaeth i’r un a elwi i’r weinidogaeth hon
fel yr adeiledir Corff Crist, yr Eglwys,
yr hyrwyddir dy deyrnas raslon
ac y gogoneddir dy enw sanctaidd;
trwy dy Fab Iesu Grist,
ein Gwaredwr croeshoeliedig ac atgyfodedig,
y bo iddo, gyda thi a’r Ysbryd Glân,
bob mawl ac anrhydedd,
yn awr ac yn oes oesoedd.
Amen.