Pererindod 60 milltir ficer Dolgellau i achub tŵr yr eglwys

Mae ficer Dolgellau a'i ffrind yn ymgymryd â thaith gerdded 60 milltir ar hyd un o lwybrau cerdded newydd blaenllaw Ewrop i godi arian ar gyfer atgyweiriadau brys i dŵr eglwys Santes Fair.
Mae'r Parchedig Carol Roberts a Jo Lang yn cerdded chwe rhan o lwybr pererindod Llwybr Cadfan, yng Ngogledd Orllewin Cymru sy'n cwmpasu tua 60 milltir o Dywyn i Borthmadog. Dechreuodd y pâr eu taith ar ddydd Sadwrn 21ain Mehefin yn Eglwys Cadfan Sant yn Nhywyn, yr arosfan gyntaf ar Lwybr Cadfan.
Maent bellach wedi cwblhau pum han, sy'n cwmpasu tua 50 milltir, gydag un cam arall i fynd o Landecwyn i Borthmadog. Bydd yr arian a godir yn cefnogi Apêl Atgyweiriadau Tyrau Eglwys Santes Fair.
Mae angen ailbwyntio'r tŵr ac amcangyfrifir y bydd y gost tua £200,000. Ailbwyntio yw'r broses o amnewid hen forter , wedi'i niweidio neu sydd ar goll rhwng cymalau muriau carreg, bric a choncrit. Bydd hyn yn adfer cryfder strwythurol y tŵr ac yn atal difrod dŵr.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf