Darganfod llawenydd gweinidogaeth wledig

Pan aeth ymgeiswyr i'r weinidogaeth o Sefydliad Padarn Sant i Machynlleth ac Aberystwyth ar gyfer Wythnos Genhadaeth, fe welson nhw o lygad y ffynnon pa mor amrywiol a boddhaol y gall gweinidogaeth wledig fod.
Fe wnaeth yr ymgeiswyr i'r weinidogaeth dan hyfforddiant daflu eu hunain i bopeth o fannau gweddi creadigol ac ymweliadau ysgol i ganu mewn cartrefi gofal ac ymweliadau bugeiliol â ffermtai. Yr hyn a ddarganfuon nhw oedd gweinidogaeth a oedd yn heriol ac yn ddwfn wobrwyol.
Yn Machynlleth, arweiniodd Arweinydd Ardal Weinidogaeth Miriam Beecroft dîm o ymgeiswyr mewn wythnos o weinidogaeth arloesol.
Fe ddysgodd yr ymgeiswyr yn gyflym fod gweinidogaeth wledig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i adeilad yr eglwys. Un diwrnod roedden nhw'n sefydlu mannau gweddi creadigol yn Eglwys Pedr Sant Machynlleth, y diwrnod nesaf roedden nhw'n llusgο drwy fwd i ymweld â ffermtai ynysig. Fe wnaethon nhw groesawu dosbarthiadau ysgol gynradd, canu gyda thrigolion cartrefi gofal a chael sgyrsiau bugeiliol yn y farchnad leol i ddarganfod mwy am eu hanghenion.
Dangosodd y profiad iddyn nhw fod gweinidogaeth wledig yn darparu cyfleoedd bob dydd i rannu'r neges efengylaidd, boed hynny wrth giat yr ysgol, stondin y farchnad neu gegin y fferm.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf