Cerddor eglwysig o Gonwy yn cael ei gydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

Chris Roberts, cerddor eglwysig hirsefydlog a ffigwr amlwg yn y gymuned yng Nghonwy, wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am wasanaeth i bobl ifanc, elusennau a cherddoriaeth.
Dechreuodd Chris, sy’n gyn gynghorydd ac yn Feiri anrhydeddus ar Gonwy, chwarae’r organ yn Eglwys y Santes Fair, Conwy, yn Esgobaeth Bangor, hanner can mlynedd yn ôl pan oedd yn 14 oed. Cymerodd ofal o arweinyddiaeth côr yr eglwys pan oedd yn 21 oed, ac ers hynny mae wedi chwarae rhan ganolog ym mywyd cerddorol yr eglwys. Mae hyn yn cynnwys Gasanaeth Gosber Gorawl fisol. Dechreuodd drefnu cyngherddau amser cinio yn yr eglwys gyda’r soprano Myfanwy Roberts yn 1981, ac yn 2005 sefydlodd Ŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy. Cynhelir yr ŵyl hon dros un wythnos bob mis Gorffennaf, ac mae’n cynnwys perfformwyr rhyngwladol o fri, yn ogystal â chefnogi cerddorion lleol, yn enwedig y rhai sydd ar ddechrau eu gyrfa broffesiynol.
Mae hefyd yn gyfeilydd i’r côr cymysg Côr CantiLena, sydd wedi’i leoli yn Llanrwst. Yn ei fywyd proffesiynol bu’n Bennaeth Cerdd yn gyntaf yn Ysgol Aberconwy, Conwy, ac wedyn yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.
Yn ogystal â’i waith cerddorol, mae Chris yn gwasanaethu fel warden eglwysig ardal weinidogaeth Bro Celynnin, sy’n cynnwys Eglwys y Santes Fair.
Dywed Chris: “Rwy’n teimlo’n wirioneddol ostyngedig ac yn freintiedig o dderbyn yr anrhydedd hwn. Rwyf wedi fy llethu’n llwyr gan yr ymateb rwyf wedi’i gael. Rwy’n mwynhau’n fawr cyfarwyddo’r côr yn Eglwys y Santes Fair, ac mae wedi bod yn bleser pur gallu cynnig llwyfan yn yr eglwys drwy’r cyngherddau amser cinio, ac yn ddiweddarach drwy’r ŵyl, i gynifer o gerddorion ifanc ar ddechrau eu gyrfa, a gallu dilyn eu llwyddiannau ar y llwyfan proffesiynol. Mae llawer ohonynt yn cymryd amser allan o’u bywydau proffesiynol prysur i ddychwelyd i berfformio i ni yn yr ŵyl bob mis Gorffennaf."
Dywed y Parchedig Kevin Ellis, Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin: “Mae Chris Roberts yn organydd dawnus ac yn gyfarwyddwr cerddoriaeth ymroddedig. Mae wedi bod yn gwbl allweddol wrth sefydlu gŵyl gerddoriaeth glasurol enwog yng Nghonwy, gan sicrhau bod yr eglwys yn un o ganolbwyntiau bywyd diwylliannol y dref.
“Yn fwy na hyn i mi fel arweinydd ar yr Ardal Weinidogaeth, y mae ymroddiad Chris i’w ffydd, ei ostyngeiddrwydd a’i fywyd gweddi. Rwy’n falch iawn drosto, ac felly hefyd y dref gyfan.”
Ar ran Esgobaeth Bangor, rydym yn llongyfarch Chris Roberts yn gynnes ar yr anrhydedd haeddiannol hwn ac yn diolch iddo am ei wasanaeth eithriadol i gerddoriaeth eglwysig, pobl ifanc a’r gymuned ehangach.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf