Arolwg llesiant clerigwyr yn agor ar 16 Chwefror 2026

Yn ystod dadl yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol ym mis Ebrill 2024, awgrymwyd bod y dalaith yn ystyried asesu lles clerigwyr mewn ffordd strwythuredig. Yn dilyn trafodaeth gyda'r Pwyllgor Sefydlog, Mainc yr Esgobion, Pwyllgor Adnoddau Dynol y Corff Cynrychioliadol a'r archddiaconiaid cytunwyd y dylid cynnal arolwg manwl o les clerigwyr. Mae'r arolwg wedi'i baratoi a bydd yn cael ei lansio cyn bo hir.
Mae'r arolwg yn cael ei redeg gan ddarparwr allanol, Great Place to Work, cwmni sy'n arbenigo mewn casglu a dadansoddi data gweithle. Mae'r holl ddata a gesglir yn cael ei wneud yn ddienw ac yn unol ag arfer gorau GDPR. Mae'r arolwg yn ddwyieithog felly gellir ei gwblhau yn Gymraeg a Saesneg.
Mae'r arolwg llesiant clerigwyr yn agor ar 16 Chwefror 2026 a bydd ar agor am bythefnos. Bydd yn agored i glerigwyr cyflogedig ar yr achlysur hwn.
Anfonir dolen at glerigwyr drwy eich cyfeiriad e-bost yr Eglwys yng Nghymru, sy'n caniatáu i chi gael mynediad llawn i'r arolwg.
Bydd yr e-bost yn cynnwys cod QR y gellir ei ddefnyddio hefyd i gael mynediad at yr arolwg a'i gwblhau trwy ffôn clyfar.
Mae'r arolwg yn gymysgedd o flychau ticio a chwestiynau agored a bydd yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau.
Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'ch swyddog AD rhanbarthol.
Trwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn, byddwch yn helpu i ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad i'r hyn sy'n mynd yn dda a pha feysydd sydd angen eu gwella. Cymerwch ran os gwelwch yn dda.