Bydd clychau eglwys yn canu am y tro cyntaf mewn gwasanaeth Pasg ym Metws-y-Coed

Bydd clychau Eglwys y Santes Fair ym Metws-y-Coed yn canu am y tro cyntaf mewn gwasanaeth eglwys y Pasg hwn, yn dilyn cwblhau prosiect adfer sylweddol.
Er i’r eglwys gael ei hadeiladu gyda chynllun ar gyfer cylch llawn o glychau, ni chwblhawyd y gwaith hwnnw erioed. Fwy na 150 mlynedd yn ddiweddarach, bellach mae gan y tŵr set gyflawn.
Daeth wyth o’r clychau o Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog yn 2024, ar ôl i’r eglwys honno gau, gan greu cysylltiad rhwng y ddwy gymuned. Mae’r gloch arall, a gastiwyd ym 1873 ar gyfer Betws-y-Coed gan John Warner o Lundain, wedi ei hadfer a’i hailosod fel cloch y cloc a’r gloch ganu.
Bydd y clychau’n cael eu canu cyn y gwasaneth Cymun teuluol a bendithio ŵyn am 11:00 ar Ddydd y Pasg.
Dechreuodd y prosiect yn 2019 yn ystod sgwrs yn Eisteddfod Llanrwst, a oedd yn cynnwys aelodau o Gôr Penmachno. Roedd nifer o aelodau’r côr yn glochyddion ond heb dŵr lleol i ymarfer ynddo, a arweiniodd at y syniad ar gyfer y prosiect. Mae aelodau o’r grŵp gwreiddiol hwnnw, ynghyd â phobl leol eraill, wedi ymgymryd â dyletswyddau allweddol. Nigel Thomas yw Capten y Tŵr erbyn hyn, gyda phobl eraill yn gwasanaethu fel ysgrifennydd, trysorydd a gofalwyr y tŵr.
Castiwyd yr wyth cloch o Borthmadog gan John Warner & Sons, gyda chwech yn dyddio o 1900 a dwy wedi’u hychwanegu ym 1902. Cawsant eu haildiwnio a’u paratoi ar gyfer eu gosod gan Ffowndri Clychau Taylor cyn cael eu hongian yn y tŵr.
Roedd y gwaith gosod yn cynnwys glanhau a thiwnio’r clychau, tynnu’r hen osodiadau a gosod penstociau newydd. Dyluniwyd ffrâm sylfaen newydd gan ddefnyddio rhannau o’r gosodiad ym Mhorthmadog, wedi’i chefnogi gan drawstiau gwreiddiol y tŵr. Mae mecanwaith cloc yr eglwys hefyd wedi’i ddisodli fel ei fod bellach yn gallu canu’r awr.
Mae’r prosiect wedi costio tua £100,000, wedi’i ariannu’n bennaf drwy grantiau, gan gynnwys cefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Keltek, Ymddiriedolaeth Hobart ac Ymddiriedolaeth Bernard Piggott.
Yn ystod y gwaith, canfuwyd papurau newydd yn dyddio o Hydref 1874 mewn rhan o’r tŵr, gan gynnwys copi o’r Caernarvon and Denbigh Herald sy’n cyfeirio at Fetws-y-Coed.
Mae’r clychau wedi’u cysegru i wyth o bobl leol, gan gynnwys cyn-wardeniaid eglwys. Mae tri o’r rhai a enwir yn dal yn fyw a disgwylir iddynt fod yn bresennol yn y gwasanaeth Pasg.
Dywedodd y Parchg Stuart Elliott, offeiriad lleol ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Gwydyr: “Roedd hi’n foment hyfryd ac emosiynol i glywed y clychau yn ystod caniad prawf. Bydd yn arbennig iawn eu clywed yn canu am y tro cyntaf mewn gwasanaeth eglwys ar Sul y Pasg, fel y gall y gymuned gyfan glywed yr alwad maent yn ei chyhoeddi. Mae’n drawsnewidiad sylweddol i’r pentref.
“Er bod y prosiect hwn yn un ymarferol yn ei hanfod, yn ymwneud ag adeiladau a strwythur, mae ei galon yn y gymuned newydd o glochyddion a fydd yn ffurfio o amgylch yr eglwys. Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosibl heb ymroddiad y grŵp lleol a weithiodd yn galed i godi arian ac i helpu gyda’r gwaith corfforol o osod y clychau. Rhaid hefyd cydnabod y rhoddion niferus gan bobl a busnesau lleol, ynghyd ag Ymddiriedolaeth Keltek, Ymddiriedolaeth Hobart ac Ymddiriedolaeth Bernard Piggott am eu haelioni a wnaeth y prosiect hwn yn bosibl.”
Ar ôl y gwasanaeth, bydd Chwarter Pêl yn cael ei ganu, fydd yn para tua 45 munud. Mae hwn yn ffurf ar ganu newidiadau gan ddefnyddio dilyniant penodol o’r enw Plain Bob Triples. Roedd pedwar o’r clochyddion sy’n cymryd rhan hefyd wedi canu’r Chwarter Pêl olaf yn Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog cyn iddi gau.
Mae’r gloch drymaf yn pwyso dros 10 cantpwys, ac mae’r clychau gyda’i gilydd wedi’u tiwnio yng nghyweirnod G.
Bydd Dydd y Pasg yn nodi’r tro cyntaf i’r cylch llawn gael ei ddefnyddio fel y bwriadwyd yn wreiddiol pan adeiladwyd yr eglwys yn y 19eg ganrif.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf