Mae Cymorth Cristnogol yn dathlu 80 mlynedd gydag ymgyrch argyfwng hinsawdd yn canolbwyntio ar Guatemala

Bob mis Mai, mae eglwysi ledled y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau codi arian, gan wneud Wythnos Cymorth Cristnogol yn un o’r gweithredoedd mwyaf o dystiolaethu Cristnogol ym Mhrydain ac Iwerddon. Y mis Mai hon, mae Cymorth Cristnogol hefyd yn nodi 80 mlynedd ers sefydliad yr elusen yn 1945.
Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (11-17 Mai) mae saith diwrnod i wneud gwahaniaeth a dyna’n union beth mae ein cefnogwyr anhygoel yng Nghymru yn ei wneud! Trwy gerdded, loncian, beicio, dawnsio, moli, pobi, gwneud, gwerthu, cynnal cwisiau, a llawer mwy! Gall ein brwdfrydedd rymuso camau cadarnhaol yn yr ymgyrch yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder.
Mae straeon yr Wythnos eleni yn mynd â ni i Guatemala, gwlad sy’n delio â heriau enfawr. Mae bywoliaeth, traddodiadau a goroesiad y gymuned dan fygythiad oherwydd y sychder marwol, stormydd milain a phlanhigfeydd diwydiannol sy’n monopoleiddio’r cyflenwad dŵr ac yn datgoedwigo’r tir.
Mae’r argyfwng hinsawdd yn achosi’r tymhorau sych a glawog, a fyddai ar un adeg yn cyrraedd ar adegau yr oedd modd eu rhagweld, i ddwysáu a newid yn afreolaidd. O ganlyniad, mae cnydau hanfodol yn methu, gan olygu bod teuluoedd ffermio, fel un Aurelia yn wynebu newyn a thlodi. Mae Aurelia’n poeni’n fawr am faint o gynnyrch y bydd yn rhaid iddi ei fwyta a’i werthu: ‘Mae newid yn yr hinsawdd wedi bod yn lladd ein cnydau, a dyma ein bwyd ni.’
Ond mae grym anorchfygol gobaith yn nwylo ffermwyr fel Aurelia, sy’n arwain ei chymuned i oresgyn yr heriau hyn. Pan ddaeth Aurelia o hyd i waith ein partner, Congcoop, cynigiodd ei henw i fynd i’r hyfforddiant amaethyddol arbenigol a oedd ar gael.
Gyda chefnogaeth Congcoop, mae Aurelia wedi dysgu sut i addasu ei ffermio i’r hinsawdd sy’n newid. Erbyn hyn, mae hi’n cynhyrchu gwrtaith, yn adeiladu systemau casglu dŵr glaw ac yn tyfu cnydau sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd fel cacao i wneud cynhyrchion siocled i’w gwerthu mewn marchnad leol. ‘Rydw i’n teimlo’n hapus ac yn ddiolchgar iawn pan fydda i’n paratoi siocled,’ meddai Aurelia. ‘Rydw i’n gwneud cynnyrch coco gyda’m holl gallon! Efallai mai dyna pam mae blas mor dda arnynt!’
Drwy newid y ffordd mae hi’n ffermio, mae Aurelia yn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd ac yn adfer diogelwch bwyd ei theulu. Mae hi hefyd yn arwain ei chymuned drwy rannu’r sgiliau a’r wybodaeth mae hi wedi eu datblygu.
Mae’n dyst i ddygnwch a gobaith Aurelia ei bod hi wedi mynd ati’n rhagweithiol i ddod o hyd i atebion ac mae’n hanfodol bod ein rhaglen gyda Congcoop yn parhau, fel bod mwy o ffermwyr fel Aurelia yn gallu gwrthsefyll tywydd eithafol yn well ac adennill rheolaeth dros eu cynhaeaf.
Meddai Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, ‘Mae eich cefnogaeth yn golygu ein bod yn gallu parhau i weithio gyda phartneriaid a chymunedau o amgylch y byd, i gefnogi pobl mewn tlodi i ddatblygu bywoliaethau gobeithiol, gan fynd i’r afael ar achosion craidd tlodi ac anghyfiawnder. Dyma yw grym anorchfygol gobaith.'
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John: ‘Drwy gydol yr wythnos hon, mae pobl ledled y wlad yn dod ynghyd trwy ddigwyddiadau cymunedol a gweithredu ar y cyd i helpu i greu newid parhaol yn rhai o gymunedau mwyaf agored i niwed y byd. Eleni, mae ffocws Cymorth Cristnogol yn troi at Guatemala. Fel dilynwyr Crist, rydym yn cael ein galw i fod yn ddisgyblion, yn stiwardiaid, ac yn bysgotwyr pobl. Rydym wedi ymddiried dyletswydd gysegredig i ni: siarad dros y rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, ac adlewyrchu tosturi a chariad Iesu i’n cymdogion byd-eang. Bydded yr wythnos hon yn atgof pwerus o’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud—trwy weddïo, trwy roi, a thrwy weithredu. A wnewch chi ymuno â mi i sefyll ochr yn ochr â’n brodyr a’n chwiorydd yn Guatemala?’
Yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol, mae gan bob un ohonom saith diwrnod i wneud gwahaniaeth ac mae ein hadnoddau yn berffaith i’ch helpu i gynllunio eich gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol. Mae’r amrywiaeth o adnoddau arbennig, sy’n cynnwys ein hamlenni coch eiconig, defosiwn dyddiol, posteri, baneri, trefn gwasanaeth, gweddïau, addoliad pob oed, taflen gweithgareddau i blant, taflen deiseb a mwy, ar gael i’w archebu ac lawrlwytho. Ewch i caweek.org/Resources i’w darganfod.
Gadewch i ni gefnogi ein cymdogion, bydd eich cyfraniad – boed trwy roi, ymgyrchu neu weddïo – yn dod â ni’n nes at greu byd lle gallwn ni i gyd ffynnu. Gadewch i ni wneud Wythnos Cymorth Cristnogol yn brawf grymus o gariad a gwasanaeth. Am fwy o wybodaeth ewch at caweek.org.
Cofiwch hefyd i rannu hanes yr Wythnos gyda ni gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosCC dros Facebook a X!
Cofiwch hefyd fe fedrwch gysylltu â thîm Cymru ar 029 2084 4646 neu cymru@cymorth-cristnogol.org.
Mae gennym saith diwrnod, a gyda’n gilydd, byddwn yn gwneud gwahaniaeth.