Adroddiad Ymweliad â Chadeirlan Bangor

Ym mis Hydref 2024, mewn ymateb i bryderon a gafodd eu dwyn i'w sylw, comisiynodd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John, ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Bangor ac adolygiad gan Thirtyone:eight, corff allanol sy’n arbenigo mewn cyngor ar ddiogelu mewn cyd-destunau eglwysig.
Mae’r broses adrodd bellach wedi dod i ben ac mae’r crynodebau o’r adroddiadau canlynol wedi’u rhyddhau’n gyhoeddus, ac ar gael isod.
Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y broses ofalus a weddïgar hon. Mae’r adroddiadau’n nodi’r camau nesaf a fydd yn cael eu cymryd.
Datganiad gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John
Yn ystod yr hydref y llynedd, comisiynais ddau ddarn o waith mewn cysylltiad ag Eglwys Gadeiriol Bangor. Ymweliad oedd y darn cyntaf, a'r ail ddarn oedd archwiliad diogelu gan y sefydliad annibynnol thirtyone:eight. Gofynnais i'r rhai a gynhaliodd yr ymarferion hyn ar fy rhan gynnal adolygiad trylwyr o ansawdd bywyd, ffydd, disgyblaeth, ymddygiad a diwylliant yr Eglwys Gadeiriol.
Gwnaeth y rhai a ymgymerodd â'r gwaith hwn weithredu ar yr amod na fyddai unrhyw wybodaeth sensitif a phersonol a allai gael ei datgelu gan gyfranogwyr (gan gynnwys datgeliadau diogelu) yn cael ei rhyddhau i'r parth cyhoeddus. Pwrpas hyn oedd i roi hyder i unrhyw un a gymerodd ran. Yn unol â’u dymuniad am gyfrinachedd, yr wyf felly yn rhyddhau heddiw adroddiadau cryno a baratowyd gan yr adolygwyr, ynghyd â'u hargymhellion yn llawn.
Mae'n amlwg bod cynnydd mawr wedi'i wneud yn ein heglwys gadeiriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi gweld ffrwyth gwaith caled: mwy o bobl yn mynychu addoliad, mwy o addoli dwyieithog, proffil cyhoeddus uwch a bywyd cerddorol mwy safonol. Mae'r rhain yn arwyddion o fywiogrwydd ac o dwf y mae’n iawn inni ei ddathlu. Ond rydym hefyd yn gwybod nad yw twf yn ymwneud â'r hyn sy'n weladwy yn unig - mae'n ymwneud â'r hyn sy'n wir, yn gyfiawn, ac yn ddiogel wrth wraidd ein bywyd cyffredin.
Nododd yr adolygwyr rai pryderon yr oedd angen mynd i'r afael â nhw. Gyda'i gilydd, mae’r adroddiadau yn tynnu sylw at fannau lle mae angen inni wneud yn well er mwyn sicrhau bod yr eglwys gadeiriol yn wirioneddol ddiogel, yn gynhwysol, yn cael ei llywodraethu'n dda ac yn ffynnu.
Fel yr adroddwyd i'r adolygwyr, y pryderon hyn oedd:
- Arferion diogelu nad oedd yn bodloni'r safonau a ddisgwylir ar draws yr Eglwys yng Nghymru.
- Arferion rheoli oedd yn ddiffygiol o ran tryloywder a chywirdeb, gyda rhai penodiadau wedi'u gwneud heb waith papur priodol, gyda threfniadau goruchwylio annigonol a phryderon y gall rhywrai gael eu cau allan oherwydd ffafriaeth.
- Rheolaethau ariannol gwan, llinellau adrodd aneglur, a phenderfyniadau gwariant nad oeddent yn cael eu craffu'n ddigonol.
- Ymddygiad mewn rhai meysydd— yn ymwneud â’r defnydd o alcohol ac ymddygiad rhywiol — nad oedd yn adlewyrchu'r safonau proffesiynol a ddisgwylir mewn eglwys Gristnogol.
- Sylwadau personol, mewn person ac ar-lein, a achosodd boen a rhaniadau.
Rwy'n cydnabod bod y canfyddiadau hyn yn anodd eu clywed—ond mae'n rhaid eu hwynebu os ydym am symud ymlaen gyda didwylledd.
Cyn i mi amlinellu fy ymateb, gadewch imi dalu teyrnged i'r rhai a gymerodd ran yn y ddwy broses. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar y rhai a ddaeth ymlaen ac rwyf am anrhydeddu eu gonestrwydd a'u dewrder. Diolch hefyd i'r rhai a gynhaliodd yr ymweliad a'r archwiliad am eu gwaith cydwybodol a sensitif.
Bydd yr ymateb yn bennaf yn nwylo dau grŵp. Y cyntaf yw Grŵp Gweithredu, dan gadeiryddiaeth yr Archddiacon David Parry, a fydd yn gyfrifol am weithredu argymhellion y ddau adroddiad yn llawn. Rwyf wedi gofyn i'r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn 4 Awst, tri mis o heddiw.
Yr ail grŵp yw Bwrdd Goruchwylio dan gadeiryddiaeth yr Athro Medwin Hughes. Eu rôl fydd goruchwylio a chraffu ar waith y Grŵp Gweithredu a chefnogi’r Deon newydd. Bydd y broses o recriwtio Deon newydd yn dechrau yfory. Bydd copïau o gylch gorchwyl y ddau grŵp ar gael.
Ar yr un pryd, rydw i eisoes yn myfyrio ar yr hyn y mae'n rhaid i mi ei ddysgu o'r broses hon—nid yn unig fel arweinydd, ond fel cyd-bererin. Mae'r alwad i ffurfiant gydol oes yn un yr ydym i gyd yn ei rhannu, ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gerdded y llwybr hwnnw gyda gostyngeiddrwydd. Byddwn yn ymrwymo i'r gwaith o atgyweirio, o ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach - gyda'n gilydd.
Er bod hwn wedi bod yn gyfnod sobreiddiol, mae hefyd yn cynnig cyfle i ni newid. Bydd yn golygu gwaith caled, ond gall hefyd ddod â iachâd, ac nid ydym yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain. Fel Cristnogion, rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n bobl sydd angen edifeirwch a gobaith. Rydym yn ymwybodol o’n diffygion dynol - ond rydym hefyd yn ymwybodol o ras y Duw sy'n rhannu ein dynoliaeth, sy’n deall ein gwendidau ac sy’n ein nerthu i fod y math o Eglwys y mae Ef am inni fod.
Datganiad ychwanegol ar Eglwys Gadeiriol Bangor
Cyfarfu'r Cabidwl, corff ymddiriedolwyr yr Eglwys Gadeiriol, ddydd Llun, wythnos ar ôl cyhoeddi dau adroddiad a gomisiynwyd gan Archesgob Cymru, Andrew John, ar ôl i bryderon gael eu dwyn i'w sylw.
Mewn ymateb i'r pryderon hyn, comisiynodd yr Archesgob Ymweliad a gynhaliwyd gan y cyn Archddiacon Mike Komor a'r cyn Ddeon ac Archddiacon Chris Potter, ynghyd ag adolygiad diogelu gan y sefydliad annibynnol thirtyone:eight, sy'n arbenigo mewn cyngor diogelu mewn lleoliadau eglwysig.
Cyhoeddwyd crynodeb o'r ddau adolygiad ar Fai 4ydd ac maent ar gael ar wefannau Eglwys Gadeiriol Bangor, Esgobaeth Bangor a'r Eglwys yng Nghymru.
Mae'r adroddiadau yn tynnu sylw at nifer o ddiffygion ac yn nodi nifer o welliannau angenrheidiol. Mewn ymateb, mae'r Archesgob wedi sefydlu Grŵp Gweithredu i sicrhau bod yr argymhellion yn cael eu gweithredu'n brydlon ac yn benderfynol. Yn ogystal, mae wedi comisiynu Bwrdd Goruchwylio wedi'i gadeirio'n allanol er mwyn arfer goruchwyliaeth gyffredinol o'r broses gyflawni yn unol ag amserlen benodol.
Cyfarfu Cabidwl y Gadeirlan ddydd Llun i gytuno ar gylch gorchwyl y Grŵp Gweithredu. Mae'r rhain ynghyd â thelerau gorchwyl y Bwrdd Goruchwylio bellach ar gael ar wefannau Eglwys Gadeiriol Bangor, Esgobaeth Bangor, a'r Eglwys yng Nghymru. Mae pob dogfen cylch gorchwyl yn cynnwys enwau'r rhai a fydd yn aelodau o'r grwpiau hyn. Mae hyn yn dilyn pum Adroddiad Digwyddiadau Difrifol a anfonwyd at y Comisiwn Elusennau mewn perthynas ag Eglwys Gadeiriol Bangor yn 2024. Mae pedwar o'r rhain yn ymwneud â diogelu: mae tri bellach wedi'u cau. Mae'r adroddiad sy'n weddill yn parhau i fod ar agor gan mai comisiynu a chynnal y broses Ymweld/ Diogelu oedd un o'r ymatebion angenrheidiol. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf wedi ei hanfon at y Comisiwn ar ôl cyhoeddi Crynodebau yr Adroddiad a byddwn yn hysbysu’r Comisiwn ymhellach ar y modd y mae’r argymhellion yn cael eu gweithredu. Roedd y pumed adroddiad yn ymwneud â mater ariannol ac fe gafodd ei gau gan y Comisiwn ym mis Mawrth eleni.
Yn y cyfarfod ddydd Llun, trafododd Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol weithdrefnau a’r broses o gadw cofnodion ariannol. O ganlyniad i'r drafodaeth hon, penderfynodd y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau.
Dywedodd llefarydd ar ran Eglwys Gadeiriol Bangor: "Mae Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd eu cyfrifoldebau am lywodraethu da o ddifrif iawn ac wedi penderfynu, o ystyried gwybodaeth sydd wedi dod i'w sylw, y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau. Er na allwn ddarparu sylwebaeth barhaus ar yr achos unigol, byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn Elusennau i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl a bod unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud yn ein gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith heb oedi."
Meddai Archesgob Cymru:
"Rwy’n ddiolchgar am y gwaith y mae'r Cabidwl yn ei wneud i gymryd y camau angenrheidiol i ddod â newid parhaol. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cytuno i wasanaethu ar y Grŵp Gweithredu a'r Bwrdd Goruchwylio, ac i fynegi gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth yr ydym wedi'i dderbyn gan Gorff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru.
"Mae'n amlwg eisoes o'r camau sydd wedi'u cymryd hyd yma y bydd hyn yn broses gadarn a fydd yn cynnwys newidiadau manwl ac a fydd yn atebol i graffu allanol. Mae pawb sy'n cymryd rhan wedi ymrwymo i gyfathrebu a diweddariadau rheolaidd fel y gellir bwrw ymlaen â'r newidiadau mewn ffordd glir a chadarnhaol."