Galwad i gynnydd - Anerchiad Llywyddol yr Archesgob i'r Corff Llywodraethol

Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn galw am "Eglwys fwy proffesiynol, tosturiol, gwreiddiedig, cysylltiedig a chreadigol" yn ei Anerchiad Llywyddol i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.
Gan dynnu ar straeon o hanes Cymru, mentrau diweddar fel Uwchgynhadledd Afonydd Cymru, a phryderon byd-eang fel deallusrwydd artiffisial ac arweinyddiaeth foesegol, mae'r anerchiad yn adlewyrchiad ar bwy ydym ni ac yn alwad i bwy rydyn ni'n dod.
Yr hyn sy'n dilyn yw testun llawn anerchiad yr Archesgob:
Anerchiad Llywyddol i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru – 30 Ebrill 2025
Dewch gyda mi ar daith yn llygad eich meddwl. Rydyn ni’n teithio trwy un o rannau harddaf a mwyaf prydferth gwlad Duw ei hun: Ceredigion!! Gan anelu i'r de o Aberystwyth, trwy Rydyfelin, Llanfarian, a Blaenplwyf, gwnawn ein ffordd i Lanrhystud. Ac wrth i'r ffordd wyro ger y pentref, rydyn ni'n mynd heibio i fwthyn adfeiliedig. Ar ei cherrig, mae tân herfeiddiol o goch yn cyhoeddi ymadrodd sydd bellach yn eiconig: ‘Cofiwch Dryweryn’.
Mae'n fwy na graffiti. Mae'n atgof, yn friw ac yn alwad i sylw. Mae’n dwyn i gof foddi pentref Cymraeg ei iaith yn 1965 i greu cronfa ddŵr i gyflenwi Lerpwl a Chilgwri, heb ganiatâd awdurdodau Cymreig – ond mae wedi dod yn rhywbeth llawer mwy ers hynny. Mae'n symbol. Mae'n stori. Protest ar sail ymwybyddiaeth gyffredin sy'n dweud: “Peidiwch ag anghofio pwy ydych chi.”
Sut bynnag yr ystyriwn y slogan hwnnw, rydym yn cydnabod nad yw hunaniaeth cenedl byth yn statig. Mae’n symud ac yn tyfu, wedi’i ffurfio mewn buddugoliaethau a thrychinebau fel ei gilydd – yn llwch glo’r cymoedd, creithiau’r chwarel, mewn atgofion am Owain Glyndŵr, mewn atgofion am Aberfan, ym marddoniaeth y ddwy iaith, a doniau hudolus Gareth Edwards – er efallai, am y tro, wnawn ni gadw’n dawel am rygbi. Y pwynt yw bod hunaniaeth a rennir, os yw'n fyw, hefyd bob amser wrthi yn newid er mwyn ymgysylltu â'i diwylliant a'i hamgylchoedd.
Mae’r hyn sy’n wir am genedl hefyd yn wir am yr eglwys a luniwyd gan adfywiadau, gan ein hemynyddiaeth gyfoethog, a gan hanesion y seintiau a’r arloeswyr a sefydlodd gymunedau ffydd ar draws y genedl. Mae’r Ysgrythur yn cynnig drychau diwinyddol inni ar gyfer y newid dynamig hwn: yr Alltudiaeth, a orfododd y genedl i ailymweld ac ailddiffinio’r hyn a olygai i berthyn i Dduw tra’n trigo ymhell o wlad yr addewid; neu’r modd radical y cynhwyswyd y Cenhedloedd ym mhwrpasau Duw, gan ailddiffinio pwy oedd yn gynwysedig yn nheulu Duw. Mae'r rhain yn straeon am aflonyddu ac ail-ffurfio - ond hefyd am ras, gwytnwch, a gobaith.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi teimlo’n ddwfn ein bod yn Eglwys sy’n cael ein gwahodd – efallai hyd yn oed yn cael ein gorfodi – i addasu a datblygu’n fwy dewr wrth inni ymateb i heriau newydd.
Ac felly, rwyf am fframio’r anerchiad hwn gyda gwahoddiad: i ddod yn Eglwys fwy proffesiynol, tosturiol, gwreiddiedig, cysylltiedig a chreadigol.
Eglwys Fwy Proffesiynol
Gadewch imi ddechrau gyda diogelu.
Wrth wraidd ein galwad mae gofal dros eraill, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Os methwn yma, methwn ym mhobman. Ac felly, ein nod yw creu Eglwys ddiogel lle mae arferion diogelu da wedi’u gwreiddio yn DNA ein bywyd gyda’n gilydd— lle mae’n dod yn reddfol, yn atblygol, wedi’i blethu i’n gweinidogaeth ar bob lefel; mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n anoddach cuddio cam-drin a lle mae ymddygiadau cadarnhaol yn dod yn arferol.
Mae tri pheth yr hoffwn eu pwysleisio:
- Yn gyntaf, adrodd. Mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn, a rhaid inni fod yn drylwyr. Bu adegau pan fyddwn wedi methu ag adrodd am bryderon fel y dylem. Yn lle dweud dim, mae bob amser yn well ceisio cyngor a chaniatáu i dimau diogelu proffesiynol ganfod y camau nesaf, hyd yn oed os mai’r canlyniad yw “Dim Gweithredu Pellach.” Ni all distawrwydd fyth fod yn bolisi i ni.
- Yn ail, hyfforddiant. Mae hyn yn allweddol. Rydym yn tyfu mewn doethineb trwy ddysgu. Mae Tîm Diogelu’r Dalaith wedi datblygu gweithdai a modiwlau nad ydynt yn ymarferion ticio blychau, ond yn arferion ffurfiannol. Maent yn helpu i ddatblygu’r hyn y cyfeirir ato fwyfwy fel “chwilfrydedd proffesiynol” – ymwybyddiaeth lymach, sensitifrwydd i’r hyn nad yw’n eistedd yn iawn, parodrwydd i weithredu.
- Yn drydydd, datblygu Coleg SDAW (Swyddogion Diogelu Ardal Weinidogaeth) ym mhob esgobaeth. Mae’n rhaid i bob Ardal Gweinidogaeth benodi Swyddog Diogelu Ardal Weinidogaeth, ac mae angen i ni greu Coleg o SDAW ym mhob esgobaeth i gryfhau eu gwaith, rhannu arbenigedd, ac adeiladu diwylliant lleol o ddiogelu rhagoriaeth. Byddai'r dull hwn hefyd yn fuddiol er mwyn sicrhau ein bod bob amser yn gweithredu egwyddorion recriwtio mwy diogel yn lleol ar gyfer pobl sy'n gweithio gyda phobl agored i niwed; a chynnal asesiadau risg ar ein gweithgareddau er mwyn deall a rheoli risg diogelu.
Ond mae proffesiynoldeb yn mynd ymhellach na diogelu.
Fel y bydd y Corff Llywodraethol yn gwybod, mae'r esgobion wedi dechrau ymgynghoriadau ar y ddarpariaeth litwrgaidd i bobl mewn undebau o'r un rhyw. Nid dadleuon yw’r sesiynau hyn – maen nhw’n ‘ymarferion gwrando’, nid yn unig i’r esgobion ond i bawb ohonom. Rydyn ni'n gwrando ar ein gilydd, ac rydyn ni'n gwrando am yr Ysbryd. Rydym yn gwneud hyn nid oherwydd bod cytundeb yn hawdd neu wedi’i warantu, ond oherwydd bod gwrando parchus ynddo’i hun yn weithred drawsnewidiol. Mae adborth cynnar wedi nodi bod hyn wedi'i werthfawrogi ac wedi ein helpu i ddeall yn well a pherthnasu i'r rhai hynny sydd â daliadau gwahanol i'n rhai ni. Os ydym am gerdded gyda’n gilydd drwy faterion cymhleth, rhaid dechrau gyda’r gostyngeiddrwydd i wrando’n dda. Mae datblygu'r meddylfryd hwn yn cydnabod bod angen i ni wneud dirnadaeth yn well. Bydd angen i ni ddod â'r un agwedd hon gyda ni at ein hymgysylltiad yma yn y Corff Llywodraethol y flwyddyn nesaf.
Eglwys Fwy Gwreiddiedig
Yn ôl ym mis Medi, rhannais ein bod yn paratoi Uwchgynhadledd wedi’i noddi gan yr Eglwys yng Nghymru, ar y mater ‘Adfer Afonydd Cymru’. Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd honno, ac mae’r profiad wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Daeth mwy na naw deg o gynrychiolwyr o wahanol sectorau – amgylcheddwyr, ffermwyr, gwyddonwyr, llunwyr polisi, ac arweinwyr cymunedol – ynghyd i rannu pryder cyffredin: cyflwr afonydd Cymru. Maen nhw wedi’u llygru gan seilwaith sy’n heneiddio, gan ddŵr ffo diwydiannol, gan arferion amaethyddol rhy ddwys, a gan fframwaith rheoleiddio na all ymdopi. Mae ein dyfrffyrdd dan fygythiad difrifol.
Yr hyn a ddatgelodd yr uwchgynhadledd yw bod gan yr Eglwys ran arwyddocaol i’w chwarae ym mywyd y genedl. Nid fel arbenigwyr mewn rheoli dŵr, ond fel sefydliad sy’n gallu tynnu pobl ynghyd. Fe allwn ni ddod â phobl at ei gilydd. Gallwn helpu i gysoni gwerthoedd ac ymdrechion. Gallwn annog cydweithio yn lle cecru.
Siaradodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, yn y digwyddiad gan ein gwahodd i gyflwyno pum mater allweddol i’r Llywodraeth eu hystyried. Mae’r ymateb, oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog, wedi’i atodi i’r copi o’r Anerchiad hwn.
Nid oedd yr uwchgynhadledd yn ddigwyddiad unwaith ac am byth. Datganiad ydoedd: y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn bresennol yn y sgwâr cyhoeddus, yn gwrando’n astud i gri’r ddaear yn gymaint ag i waedd pobl Cymru. Ac yn 2026, byddwn yn adeiladu ar hyn gydag uwchgynhadledd newydd, gan archwilio sut y gall yr Eglwys siarad a gweithredu’n ddoeth yn wyneb heriau cymdeithasol dybryd.
Fis Medi diwethaf, cefais y fraint o fynychu’r Gynhadledd Heddwch Ewropeaidd ym Mharis i siarad ar un o faterion mwyaf cymhleth a chyflym ein hoes: Deallusrwydd Artiffisial.
Rydyn ni i gyd wedi gweld y penawdau: modelau a gynhyrchir gan DA, cartwnau yn arddull Vanity Fair, delweddau ffug o enwogion, sgyrsiau wedi'u pweru gan fodelau iaith fel ChatGPT. Mae’n syfrdanol pa mor gyflym y mae’r dechnoleg yn esblygu. Ond nid cyflymder yw'r unig bryder. Y mae moeseg hefyd yn bryder enbyd. Byddaf yn ymateb yn fanylach i gwestiwn am DA yn nes ymlaen yn y Corff Llywodraethol hwn.
Mae DA yn cynnig addewidion enfawr - ar gyfer gofal iechyd, addysg, a hyd yn oed fel modd o ymateb i her newid hinsawdd. Ond heb fframwaith moesegol cyffredin, heb oruchwyliaeth reoleiddiol, gall DA ddyfnhau anghydraddoldebau a chyflymu niwed, gan gynnwys datblygu arfau dinistriol.
Nid oes gennym yr hyn y mae’r y diweddar Pab Ffransis wedi galw amdano: fframwaith moesegol y cytunwyd arno’n rhyngwladol gyda’r pŵer i ddal datblygwyr a chenhedloedd yn atebol a threfniant goruchwylio gyda’r pŵer i orfodi cydymffurfiaeth. Cymeradwyaf i chi ei fyfyrdod diweddar Antiqua Et Nova[1], triniaeth hynod feddylgar o sut y mae'n rhaid dal deallusrwydd artiffisial a dynol mewn tensiwn creadigol ar draws meysydd - rhyfel, iechyd, gwirionedd, a'n bywyd ysbrydol.
Mae angen inni weld y byd, a'n gilydd, trwy lygaid ffydd. Mae Salm 24 yn ein hatgoffa: “Eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear.” Rhaid i hynny lywio ein hagwedd at dechnoleg, pŵer a pholisi.
[1] “Antiqua et nova" on the relationship between Artificial Intelligence and Human Intelligence, 28.01.2025
Eglwys Fwy Tosturiol
Ni ddylai tosturi fod yn brosiect ymylol - ein cerdyn adnabod ni ydyw.
Mae’n bleser arbennig gennyf groesawu Dr Monica Attias i'r Corff Llywodraethol. Mae Monica yn arwain rhaglen Coridorau Dyngarol Sant’ Egidio ac mae wedi’i gwneud hi’n bosibl i fywydau dirifedi gael eu newid am byth. Mae teuluoedd heb obaith, pwrpas ac adnoddau economaidd wedi cael eu bwydo, eu cartrefu, eu haddysgu a chael cyfle i fyw'n dda. Mae ei gwaith yn llifo o ffydd sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yng Nghrist ac wedi'i mynegi'n radical mewn gweithredu.
Os ydych chi erioed wedi ymuno â Chymuned Sant Egidio mewn addoliad yn y Fatican, byddwch chi'n gwybod ei bod hi'n bosibl paru defosiwn a gweithredu, gweddi a phrotestio, llonyddwch a chydsafiad. Mae Monica yn ymgorffori’r cydbwysedd hwnnw, ac rwy’n ddiolchgar ei bod hi yma i siarad â ni.
Mae ei gwaith yn ein hatgoffa bod yn rhaid inni ddysgu ffyrdd radical addfwynder a heddwch. Boed hynny drwy fanciau cynnes, banciau bwyd, mentrau cymdeithasol, neu ofal tawel cymdogion – rydyn ni bob amser wedi cael ein galw i fodoli dros eraill, i ymgorffori cariad Crist mewn gair a gweithred. A rhaid inni annog ein llywodraethau i flaenoriaethu cyflwr ac anghenion y rhai sydd fwyaf agored i niwed boed yn y tiroedd hyn neu dramor.
Fel y mae Mark Carney wedi’i ddweud yn ddoeth, nid cynllunio ar gyfer y dyfodol yn unig yw ein tasg, ond cynllunio’r dyfodol[1]. Ac mae'n rhaid i'r cynllunio hwnnw ddechrau gyda thosturi.
[1] Carney, M. (2021). Value(s) Building a Better World for All. William Collins. P.371
Eglwys Fwy Cysylltiedig
Nid ydym ar ein pennau ein hunain yn ein tystiolaeth; ac rydym yn darganfod ac yn datblygu, rwy’n credu, math newydd o eciwmeniaeth yng Nghymru – un wedi’i seilio ar gyfeillgarwch, gostyngeiddrwydd a chenhadaeth ar y cyd.
Rwyf wedi cael fy mendithio’n fawr gan weinidogaeth yr Archesgob Mark O’Toole, a bregethodd yn rymusaf i ni y bore yma. Credaf efallai mai dyma'r tro cyntaf i Archesgob Gatholig Rufeinig bregethu yn y Corff Llywodraethol. Mae’n achlysur arwyddocaol ac yn un i’w ddathlu.
Mae cynhesrwydd, didwylledd Mark, a’i ymrwymiad i weithio gydag eglwysi ar draws traddodiadau wedi ein galluogi i ailsefydlu perthnasoedd a llunio llwybrau newydd. Roedd encilio gyda’n gilydd – Annibynwyr, Presbyteriaid, Efengylaidd Carismataidd, Anglicaniaid, Methodistiaid, Bedyddwyr a Chatholigion Rhufeinig – yn rhywbeth prin y gallwn fod wedi’i ddychmygu pum mlynedd yn ôl. Ond fe wnaethon ni hynny. Ac yr ydym yn dysgu caru ein gilydd fel y mae Crist yn ein caru, yn gwrando yn dda, yn ceisio bendithio lle bynnag y bo modd, yn anrhydeddu ein traddodiadau ac yn dod o hyd i le newydd ar gyfer gweinidogaeth a sgwrs.
Mae gennym hefyd Ysgrifennydd Cyffredinol newydd Cytûn, Dr Cynan Llwyd, y mae ei arweinyddiaeth yn adeiladu ar waith blaenorol i gysylltu ein tystiolaeth ar y cyd ledled Cymru, ac mae wedi bod yn gam hynod gadarnhaol i weithio'n agos gyda Cynan yn ystod y deng mis diwethaf.
Eglwys Fwy Creadigol
Cenhadaeth a gweinidogaeth sydd wrth galon ein galwedigaeth, ac rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr gan yr egni creadigol yr wyf yn ei weld ar draws y dalaith. Credaf fod hyn yn arwydd ein bod yn dysgu datblygu patrymau gweinidogaeth trwy ymestyn ffiniau ein hymgysylltiad.
Mae’r Gronfa Twf Eglwysi wedi dod i’r wyneb â syniadau newydd a mentrau beiddgar: plannu eglwys newydd yn Esgobaeth Llanelwy sydd wedi deillio o eglwys arall a blannwyd yn ddiweddar, prosiect Arloeswyr Ysgolion yn Esgobaeth Mynwy, ac ymdrechion i adnewyddu gweinidogaeth wledig yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Nid yw'r rhain yn allanolion. Maen nhw’n arwyddion ein bod ni’n dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn Eglwys – yn ffyddlon i draddodiad, ond heb ofn arloesi.
Camgymeriad fyddai gosod gweinidogaeth blwyfol yn erbyn gweinidogaeth arloesol. Y gwir yw - mae llawer o'n gweinidogaeth heddiw, yn cynnwys y ddwy agwedd. Mae'n lleol ac yn llawn dychymyg. Yn wreddiedig ac yn arbrofol. Mae gweinidogaeth yr Ardal Weinidogaeth yn aml yn hynod arloesol ac mae'r arloesiad yn tynnu ar y ffydd a etifeddwyd gennym. Ac mae hynny'n union fel y dylai fod.
Dechreuais gyda Cheredigion - y sir fwyaf bendigedig!! Pe baem wedi parhau â’n taith ymhellach i’r de ac i mewn i’r cefn gwlad, efallai y byddem wedi cyrraedd Llanddewi Brefi, safle’r synod enwog lle wynebodd Dewi Sant ac eraill her Pelagianiaeth.
O fewn yr eglwys honno mae Maen Idnert, sy’n dwyn yr arysgrif: “Yma y gorwedd Idnert mab Iacobus a laddwyd oherwydd ysbeilio Dafydd.” Dyma’r dystiolaeth gorfforol gynharaf o waith cenhadol Dewi Sant – arwydd nid yn unig o wrthdaro, ond o ymrwymiad.
Nid rhwyddineb, ond astudrwydd, oedd yr hyn a wnaeth y cyfnod hwnnw yn arwyddocaol. Roedd yr Eglwys yn effro – i beryglon, i gyfleoedd, i’r risg o golli cyfeiriad. Wnaethon nhw ddim cilio. Ymatebasant gyda'r ymrwymiad dyfnaf; a chan iddynt wneud hynny, eiddom ni yw eu hetifeddiaeth.
Mae heriau newydd yn ein hwynebu heddiw, ond yr un yw'r gobaith o hyd; ac nid yw gallu Duw i'n harwain a'n cynnal wedi pylu.
Brodyr a chwiorydd, Alelwia! Atgyfododd Crist.
Atgyfododd yn wir. Alelwia!