Archesgob Cymru yn croesawu'r Gwir Barchedig Sarah Mullally, sydd newydd ei hethol yn Archesgob Caergaint.

Mae Archesgob Cymru, Cherry Vann, yn croesawu y Gwir Barchedig Sarah Mullally, Archesgob newydd ei hethol o Gaergaint, ar ei phenodiad. Dywedodd:
"Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, rwy'n croesawu penodiad y Gwir Barchedig Sarah Mullally yn Archesgob Caergaint ac rwy'n falch iawn bod y Pwyllgor Penodiadau’r Goron wedi bod â’r weledigaeth i benodi menyw i'r rôl arwyddocaol hon. Mae'r Esgob Sarah wedi dangos ei bod yn fenyw ddewr, ddidwyll a thosturiol ac mae'n dod â phrofiad enfawr i'r weinidogaeth newydd hon.
Gwn y bydd pob aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn cadw’r Esgob Sarah a'i theulu yn eu gweddïau wrth iddi ymgymryd â'r cyfrifoldeb enfawr hwn. Gweddïwn y bydd Duw yn ei bendithio, ei galluogi a'i chryfhau ar gyfer y dasg sydd o'n blaenau."