Mae Archesgob Cymru yn siarad am “dyfodol ffyddlon, gobeithiol a ffrwythlon” i Esgobaeth Bangor

Mae Archesgob Cymru wedi siarad am "ddyfodol ffyddlon, gobeithiol a ffrwythlon" i Esgobaeth Bangor.
Wrth annerch Cynhadledd Esgobaethol Esgobaeth Bangor dros y penwythnos, cydnabu Archesgob Cymru, Cherry Vann, yr heriau cymhleth sy'n wynebu'r esgobaeth wrth daro nodyn optimistaidd am y llwybr sydd o'i blaen.
Wrth siarad â chlerigion ac aelodau lleyg, tynnodd yr Archesgob gymariaethau â'i phrofiad yn Esgobaeth Mynwy pan gyrhaeddodd yn 2020 i ganfod cymuned yn delio â thrawma a theyrngarwch rhanedig.
Mae Archesgob Cymru wedi siarad am "ddyfodol ffyddlon, gobeithiol a ffrwythlon" i Esgobaeth Bangor.
"Mae'r heriau yn gymhleth, yn ddwfn ac yn hirhoedlog a byddant yn cymryd amser hir i'w datrys a delio â nhw'n briodol," meddai wrth y gynhadledd. "Ond bydd angen i bawb dynnu gyda'i gilydd.”
Gan ddefnyddio'r trosiad Beiblaidd o docio gwinwydd i annog twf, siaradodd yr Archesgob am yr angen am adnewyddiad hyd yn oed pan mae'n teimlo'n anghyfforddus. Anogodd yr esgobaeth i ganolbwyntio ar ei gwreiddiau ysbrydol yn ystod y tymor hwn o newid, gan gymharu taith yr eglwys â chylchoedd naturiol twf, segurdod ac adnewyddiad a welir yn y tymhorau.
"Nid yw ffrwythlondeb yn ei ystyr fwyaf gweladwy yn nodwedd barhaol yn y byd naturiol ac ni ddylem ddisgwyl iddo fod felly yn yr eglwys," meddai'r Archesgob, cyn gofyn i aelodau ystyried pa "dymor" roedd eu heglwysi a'u cymunedau eu hunain yn ei brofi.
Sicrhaodd yr Archesgob wrth y gynhadledd o'i gweddïau parhaus wrth i'r esgobaeth weithio gyda'i gilydd tuag at adferiad ac adnewyddiad.
Anerchaid Llywyddol

Gan Archesgob Cymru Cherry Vann.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i fod gyda chi wyneb yn wyneb ac i'ch annerch fel rhan o’r gynhadledd esgobaethol hon. Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn, hyd yn oed chwe mis yn ôl, ac rwyf am eich sicrhau fy ngweddïau wrth i ni, gyda’n gilydd, geisio wynebu’r heriau sydd o’n blaen.
Fel y ddywedais yn fy anerchiad i’r Corff Llywodraethol, hoffwn dalu teyrnged i’r Esgob Andy yn ei rôl fel Archesgob, ac am y modd y llwyddodd i greu lle i’r Fainc weithio’n fwy effeithiol ac mewn ffordd llawer mwy agored, onest ac yn gynyddol dryloyw. Gwn fod ef a Naomi yn eich gweddïau, fel y maent yn fy ngweddïau i hefyd. Yn yr un modd, mae’r Esgob David yn fy meddyliau a’m gweddïau wrth iddo ddarganfod ble y mae Duw’n ei alw i wasanaethu nesaf.
Yn cadw ein golygon ar Iesu
Wrth i mi gyrraedd Esgobaeth Mynwy yn gynnar yn 2020, roedd yr esgobaeth mewn trawma. Roedd yn argyfwng gwahanol i’r un yr ydych chi’n ei wynebu yma ym Mangor, ond trawma oedd hi beth bynnag. Yr oedd yr esgob wedi camu’n ôl o’r weinidogaeth ym mis Gorffennaf 2018 am resymau na wyddai neb amdanynt ac eithrio tri o’i gydweithwyr uwch, ac yr oedd wedi bod yn absenol am flwyddyn cyn ymddeol yn y pen draw. Nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn ymwybodol beth yn union a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn honno, nac ychwaith pam. Rhai yn dyfalu, a sïon yn rhedeg yn wyllt. Rhai’n flin, eraill yn drist, ond eraill yn ddifater.
Ond yr hyn a adawyd iddynt oedd esgobaeth â theyrngarwch wedi’i hollti ac â diffyg ymddiriedaeth ddwfn – rhyngddynt eu hunain, rhwng eglwysi a’r tîm uwch, rhwng clerigwyr a’r Fainc a’r Bwrdd Esgobaethol. Yr hyn a ddarganfyddais, a’r hyn a ddatgelsom gyda’n gilydd, oedd elfennau o drawma a oedd yn llawer ddyfnach na diflaniad yr esgob.
Yn yr un modd, rydym yn darganfod yn y fan hyn pethau sy’n mynd yn ôl ymhell cyn y ddeunaw mis diwethaf. Mae’r heriau’n gymhleth, yn ddwfn eu gwreiddiau ac wedi bod yn bodoli ers tro byd, ac fe gymerant amser hir i’w datod a’u hwynebu’n briodol. Gofynnaf am eich gweddïau dros y rhai sy’n arwain ac a fydd yn arwain y gwaith hwnnw. Ond bydd angen i bawb cyd-dynnu, a’n bod ni oll yn cadw ein golygon ar Iesu – sylfaenydd a pherffeithydd ein ffydd. Gan gadw mewn cof, wrth gwrs, yr heriau y mae’n rhaid eu hwynebu.
Mae Duw yn dyheu i ni fod yn ffrwythlon
Rwy’n ddiolchgar i’r Canon Miriam am ddewis y darn o’r Ysgrythur ar gyfer y myfyrdod y bore yma ac am ganolbwyntio’n arbennig ar y thema o fod yn ffrwythlon hyd yn oed mewn amgylchiadau poenus ac anodd – thema sy’n teimlo’n arbennig o briodol. Mae Duw yn dyheu i ni fod yn ffrwythlon. Ac er mwyn bod yn ffrwythlon, mae angen yr amodau cywir arnom.
Mae Iesu’n siarad am docio mewn ystyr gadarnhaol. Ydy, mae’n golygu torri i ffwrdd yr hyn sy’n wan a salw, ei docio er mwyn annog twf iach yn y tymor nesaf – ac weithiau eu lleihau i ychydig o egin iach sy’n dangos addewid ac egni. Mae’n hawdd siarad am docio ym myd planhigion a llwyni. Mae’n llawer anos pan fyddwn yn cyfeiriom ni’n hunain – ein bywydau, ein hoffterau, ein rhagfarnau. Gall deimlo fel colli’r hyn sy’n gyfforddus, cael ein gwahanu oddi wrth yr hyn sy’n gyfarwydd, cael ein rhannu o’r agweddau ac ymddygiadau nad oeddem yn ymwybodol ohonynt, neu a feddyliasom eu bod yn iawn ond a ddeallwn yn y diwedd eu bod yn nawddoglyd, yn haerllug, yn bwlio neu’n syml, yn anghywir. “Mae’n tynnu ymaith bob cangen ynof fi nad yw’n dwyn ffrwyth,” medd Iesu. “Ac mae’n tocio pob cangen sy’n dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.” Mewn geiriau eraill, mae cael ein tocio’n rhan hanfodol o fywyd y ffydd – ac fe all fod yn gostus, yn boenus ac yn amlygol.
Ond yn y bôn, mae Iesu'n mynd ymlaen i ddweud, ni allwn ddwyn unrhyw ffrwyth oni bai ein bod yn aros yn y winwydden, yn Iesu ei hun. Bod yn ffrwythlon yw bod wedi’n huno ag Iesu; wedi’n cysylltu ag Ef mewn gweddi ac addoliad, yn fyw i’w bresenoldeb ynom ac o’n cwmpas wrth i ni fynd o ddydd i ddydd. Mae’n golygu plannu gwreiddiau ein calonnau ac eneidiau’n ddwfn yng ngherrynt dŵr byw. Fel y dywedodd y salmydd, mae’r rhai a fendithir fel coed wedi’u plannu wrth ffrydiau dŵr, yn dwyn eu ffrwyth yn ei dymor, ac ni fydd eu dail yn gwywo – hyd yn oed yn y sychder mwyaf, yn y stormydd cryfaf, yn yr amodau anoddaf.
Ni all coeden dda dwyn ffrwyth drwg
Dyna yw ein galwad fel disgyblion Iesu – pwy bynnag ydym ni a lle bynnag y mae Duw wedi’n gosod yn yr esgobaeth arbenig hon – i ganolbwyntio ar yr un sy’n ein galw, ac i ganiatáu iddo’n bwydo ac ein dyfrhau a’n tocio fel y myn, fel y gallwn ffynnu a bod yn ffrwythlon, yn unigol ac ar y cyd.
Byddwn yn dwyn ffrwyth da i’r graddau yr ydym wedi’n gwreiddio ac wedi’n seilio yng nghariad a diben Duw.
Ni all coeden dda dwyn ffrwyth drwg. Byddwn yn dwyn ffrwyth da i’r graddau yr ydym wedi’n gwreiddio ac wedi’n seilio yng nghariad a diben Duw.
Ond yn y diwedd Duw sy'n rhoi'r twf ac yn achosi i ni fod yn ffrwythlon.
Ac eto, mae tymhorau a chyfnodau. Cyfnodau pan fydd pethau’n gwywo, yn marw ac yn pydru, fel y gwelwn o’n cwmpas yn y tymor hydref hwn. Cyfnodau pan fydd y rhan fwyaf o bethau’n segur. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn digwydd. Mae bywyd a thwf wedi’u cuddio. Cyfnodau pan gaiff yr hen a’r marw eu torri i ffwrdd ac y bydd egin newydd yn ymddangos bydd angen gofal, maeth a diogelwch. Maent yn llawn addewid ac yn arwydd o fywyd newydd, a gyda hynny, gobaith. Yna daw’r haf, pan fydd byd natur ar ei anterth – yn ffrwythlon, yn hardd ac yn ogoneddus.
Ein tasg ni yw ein gwneud ein hunain yn agored i’r bywyd hwnnw ac i’r ffrwythlondeb lifo’n llawn ac yn helaeth trwom
Gofynnaf, ym mha dymor ydych chi ar hyn o bryd? Ym mha dymor mae eich eglwys, eich AW, eich deoniaeth neu eich archddiaconiaeth? Eich esgobaeth? Nid yw ffrwythlondeb, yn ei ystyr fwyaf amlwg, yn nodwedd barhaol ym myd natur, ac ni ddylem ddisgwyl iddo fod felly yn yr eglwys. A sut yr ydym i ofalu am ein hunain ac am fywyd yr eglwys? Bydd hynny’n dibynnu ar ba dymor yr ydym yn teimlo ein bod ynddo.
Yn hyn i gyd, beth bynnag yw‘r teimlad neu edrychiad, mae Duw yn bresennol ac yn weithgar – yn ein harwain bob amser tuag at fywyd ac yn dangos inni, tipyn wrth dipyn, sut mae bywyd yn ei holl gyflawnder yn edrych i ni. Ein tasg ni yw ein gwneud ein hunain yn agored i’r bywyd hwnnw ac i’r ffrwythlondeb lifo’n llawn ac yn helaeth trwom.
Byddwch yn sicr o’m gweddïau wrth i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol ffyddlon, gobeithiol a ffrwythlon i Esgobaeth Bangor.