Archesgob Cymru yn cyhoeddi datganiad ar yr ymosodiad ar y synagog yn Manceinion

Mae'r Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol ar yr ymosodiad ar y synagog ym Manceinion. Treuliodd yr Archesgob Cherry ei gweinidogaeth ordeiniedig yn esgobaeth Manceinion cyn ymuno â'r Eglwys yng Nghymru yn 2019.
"Rwy'n teimlo’r sioc a’r tristwch dyfnaf o weld yr ymosodiad erchyll ar y Gymuned Iddewig ym Manceinion. Rwy’n meddwl am, ac yn gweddïo dros, deuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau a phawb sydd wedi cael eu hanafu a'u trawmateiddio gan y weithred ofnadwy hon. Ein galwad fel Cristnogion yw i sefyll gyda phawb sy'n ddioddef casineb a thrais ac i weithio gyda phawb o ewyllys da gan wrthsefyll unrhyw beth sy’n bygwth rhannu ein cymdeithas."
Y mae’r Archesgob hefyd wedi cyhoeddi’r weddi arbennig hon:
Dduw Abraham a Sara,
yr wyt ti’n arwain dy bobl o gaethiwed i ryddid, er mwyn iddynt dy addoli’n llawen, gadw dy gyfreithiau’n ffyddlon a byw mewn sancteiddrwydd.
Wrth glywed am drais yn erbyn y diniwed, galarwn; wrth weld dy annwyl bobl yn ddioddef, gweddïwn am gysur, wrth synhwyro casineb yn corddi, dyhëwn am ddyfodiad dy deyrnas dosturiol di.
Prysura’r dydd hwnnw pan fydd pob cleddyf yn gaib, pob gwaywffon yn gryman a’th holl bobl yn cael rhodio yn dy oleuni addfwyn, bywiocaol di.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist,
Tywysog Tangnefedd.
Amen.