Gwasanaeth gorseddu Archesgob Cymru

Bydd Archesgob newydd Cymru yn cael ei gorseddu mewn gwasanaeth arbennig ym mis Tachwedd.
Bydd Cherry Vann, sydd hefyd yn Esgob Mynwy, yn cael ei gorseddu fel 15fed Archesgob Cymru mewn gwasanaeth cenedlaethol yng Nghadeirlan Casnewydd ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd. Mae hyn yn dilyn ei hethol yn Archesgob ym mis Gorffennaf, wedi iddi wasanaethu fel Esgob Mynwy ers 2020.
Yn ystod y gwasanaeth bydd yr Archesgob a'i chyd-Esgobion yn cael eu cyfarch gan bobl o bob cwr o Gymru a fydd yn dod â'u geiriau o anogaeth a’u gweddïau dros weinidogaeth yr Archesgob a'r Eglwys gyfan yng Nghymru.
Bydd yr Archesgob Cherry yn cael ei gorseddu yn y Gadair Archesgobol a fydd wedi'i lleoli ym mhen pellaf corff y Gadeirlan. Mae'r Gadair Archesgobol yn replica pren o Gadair Sant Awstin yn Eglwys Gadeiriol Caergaint, ac fe'i rhoddwyd gan Archesgob Caergaint ym 1920 pan ddaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Dalaith annibynnol o’r Cymundeb Anglicanaidd. Bydd y Gadair yn aros yng Nghadeirlan Casnewydd drwy gydol cyfnod yr Archesgob Cherry fel Archesgob.
Trwy gydol y gwasanaeth, bydd y Gadeirlan yn cael ei llenwi â sain cerddoriaeth, emynau ac anthemau.
Bydd gwesteion o fywyd gwleidyddol, diwylliannol a dinesig Cymru yn ymuno â chynrychiolwyr o bob rhan o eglwysi Cymru a'r Cymundeb Anglicanaidd yn y gwasanaeth.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau am 3pm a bydd yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan yr Eglwys yng Nghymru i alluogi pawb i ymuno.
Nawen ar gyfer Gorseddiad yr Archesgob Cherry Vann
Wrth i'r Eglwys yng Nghymru baratoi gyda llawenydd ar gyfer gorseddu'r Parchedicaf Cherry Vann fel Archesgob Cymru ym mis Tachwedd, gwahoddir pawb i ymuno i weddïo a myfyrio. Mae'r Nawen hon yn cynnig themâu dyddiol wedi'u hysbrydoli gan anerchiad arlywyddol yr Archesgob Cherry i'r Corff Llywodraethol ar 18 Medi 2025.