Archesgob yn llongyfarch Archesgob Catholig newydd San Steffan
Dyma ddatganiad gan Archesgob Cymru Cherry Vann ar benodiad y Gwir Barchedig Richard Moth yn Archesgob Catholig Rhufeinig San Steffan.
"Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, rwy'n cynnig fy llongyfarchiadau mwyaf diffuant i'r Gwir Barchedig Richard Moth ar ei benodiad yn Archesgob San Steffan.
Ar adeg pan fo angen ysbrydoliaeth a her y neges Gristnogol ar ein cymdeithas yn fwy nag erioed, gwn y bydd ffydd bersonol ddofn yr Esgob Richard a'i ymrwymiad cyson i gyfiawnder cymdeithasol yn cario'r argyhoeddiad sydd ei angen yn fawr.
Mae'n llawenydd gennym gydweithio â'n brodyr a'n chwiorydd Catholig Rhufeinig yng Nghymru, a gwn y bydd gweddïau'r Eglwys yng Nghymru gyda'r Esgob Richard wrth iddo ymgymryd â'i gyfrifoldebau newydd."