Galwad i weddi a thystiolaeth gyhoeddus dros heddwch yn y Wlad Sanctaidd

Y mae’r datganiad canlynol wedi ei gyhoeddi gan Fainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru:
Mae asiantaethau Cristnogol o bob cwr o'r DU a thu hwnt yn galw ar eglwysi ledled Prydain i weddïo dros heddwch ddydd Sul Medi 21ain, sy'n cyd-fynd â Diwrnod Heddwch y Byd y Cenhedloedd Unedig a'r alwad fyd-eang i weddi o bob rhan o Gyngor Eglwysi'r Byd.
Gan ddwyn mewn cof yr erchyllterau cynyddol yr ydym yn eu gweld yn Gaza a thu hwnt, rydym yn ysgrifennu i annog holl aelodau'r Eglwys yng Nghymru i dderbyn yr alwad hon a gweddïo am heddwch, fel cymuned yn ystod gweithredoedd addoli cyhoeddus ac yn bersonol yn ystod eich amseroedd gweddi preifat eich hun.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a rhai adnoddau yma: https://docs.google.com/document/d/1X3wnrvF00x5F8c0VlxGygCrn6ajKiv2QZ_n3saPpHgw/edit?usp=sharing
Mae 'Llinell Goch' hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd am 12.30pm ddydd Mercher Medi 24ain. Bydd hyn ar ffurf Tystiolaeth Weladwy a Gweddïau Cyhoeddus dros Heddwch. Mae'r Archesgob Cherry yn bwriadu bod yn bresennol. Os ydych chi'n gallu ymuno â hyn, gwnewch os gwelwch yn dda. Bydd mwy o wybodaeth yn dod allan yn yr wythnos nesaf.
+Cherry Cambrensis (Archesgob Cymru ac Esgob Mynwy, Cherry Vann)
+Gregory Llanelwy (Esgob Llanelwy, Gregory Cameron)
+John Abertawe ac Aberhonddu (Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas)
+Mary Llandaf (Esgob Llandaf, Mary Stallard)
+Dorrien Tyddewi (Esgob Tyddewi, Dorrien Davies)