Rhoi Ar-lein at Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn

Llenwch y blychau isod i'n helpu i godi arian ar gyfer y gwaith ar Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn ger Llanddona.
Gallwch ddefnyddio'r dudalen hon i roi unwaith neu rodd reolaidd.
Mae eich cefnogaeth yn bwysig iawn i ni. Diolch o galon.
Y Warant Debyd Uniongyrchol
- Cynigir y Warant hon gan bob banc a chymdeithas adeiladu sy'n derbyn cyfarwyddiadau i dalu Debydau Uniongyrchol.
- Os oes unrhyw newidiadau i swm, dyddiad neu amlder eich Debyd Uniongyrchol, bydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru (Elusen Gofrestredig rhif 1142813 (y Corff Cynrychiolwyr)) yn rhoi gwybod i chi ddeg diwrnod gwaith cyn i'ch cyfrif gael ei ddebydu neu fel y cytunwyd fel arall. Os byddwch yn gofyn i'r Corff Cynrychiolwyr gasglu taliad, rhoddir cadarnhad o'r swm a'r dyddiad i chi adeg y cais.
- Os bydd y Corff Cynrychiolwyr neu eich banc neu gymdeithas adeiladu yn gwneud camgymeriad gyda'ch taliad Debyd Uniongyrchol, mae gennych hawl i ad-daliad llawn ac uniongyrchol o'r swm a dalwyd gan eich banc neu gymdeithas adeiladu;
- Os byddwch yn derbyn ad-daliad nad oes gennych hawl iddo, rhaid i chi ei ad-dalu pan fydd Corff y Cynrychiolwyr yn gofyn i chi wneud hynny.
- Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y bydd angen cadarnhad ysgrifenedig. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni hefyd.