Disgrifiad Swydd Cyffredinol – Esgob Esgobaethol
I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiad swydd cyffredinol ar gyfer Archddiacon, Deon Bro a Pheriglor.
Swydd: Esgob Esgobaethol
Diben: Bod yn Ben Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.
Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol ar y cyd ag eraill am;
- Bobl
 - Cenhadaeth
 - Dysgeidiaeth
 - Pregethu
 - Cyllid
 - Adeiladau
 
Swyddogaethau cyffredinol
- Arwain Clerigion a Lleygion yr Esgobaeth i wneud gwaith cenhadu a gweinidogaethu
 - Cyhoeddi’r Efengyl
 - Dysgu ac amddiffyn y Ffydd
 - Gweinidogaethu’r Gair a’r Sacramentau
 - Cadarnhau galwad gweinidogion newydd, eu hordeinio, eu hanfon allan a’u penodi
 - Cynnal gwasanaethau conffyrmasiwn
 - Arwain Clerigion a darparu adnoddau ar eu cyfer
 - Disgyblu os oes angen
 - Arwain pobl Dduw
 - Gweithio er undod yr Eglwys
 
Swyddogaethau a Dyletswyddau Penodol
- Arwain a chydgysylltu staff yr Esgob i wneud gwaith gweinyddol Esgobol yr Esgobaeth.
 - Gwneud cynlluniau ar gyfer yr Esgobaeth a’u hadolygu er mwyn sicrhau bod:
- Clerigion a Lleygion yn cael eu cynorthwyo a’u hannog i ddatblygu cenhadaeth a gweinidogaeth yr Esgobaeth
 - Clerigion yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl.
 
 - Gweithredu polisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer clerigion gan gynnwys: –
- Penodiadau
 - Gweithdrefnau dethol
 - Hyfforddiant a datblygiad
 - Rheoli analluogrwydd clerigion
 - Cyfnodau Sabothol
 - Cwyno
 - Disgyblaeth
 - Ymddeoliad
 
 - Creu diwylliant sy’n galluogi clerigion i weithio hyd eithaf eu gallu fel unigolion ac aelodau tîm.
 - Gwasanaethu fel Llywydd Cynhadledd yr Esgobaeth a Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth.
 - Bod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
 - Bod yn aelod o Fainc yr Esgobion a chynorthwyo i ddatblygu, gweithredu, monitro ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r dalaith ar gyfer amrywiaeth o faterion sy’n effeithio ar yr Eglwys yng Nghymru, a’r Cymundeb Anglicanaidd.
 - Bod yn aelod o’r Coleg Etholiadaol.
 - Bod yn aelod o Lys Arbennig y Dalaith.
 - Ymgynghori â chyrff yr Eglwys ar faterion yn ymwneud â:
- Phersondai, gan gynnwys dileu swyddi, gwerthu a chaffael
 - Creu Bywoliaethau Rheithorol
 - Gwahardd periglorion
 - Ad-drefnu bugeiliol
 
 - Cyflwyno trwyddedau, goddefebau a chaniatâd (fel y’u pennwyd).
 - Sicrhau bod ymweliadau’n cael eu cynnal mewn plwyfi.
 - Datrys anghydfodau litwrgïaidd ac achosion o unigolion yn cael eu gwahardd rhag derbyn y Cymun Bendigaid.
 - Gweithio gyda Mainc yr Esgobion i reoli cyfeiriad cyffredinol Cynghorwyr yr Esgobion, gan dderbyn cyfrifoldeb uniongyrchol (fel y cytunwyd) am reoli maes/meysydd penodol o waith y Cynghorydd.
 - Ysbrydoli pobl Dduw yn eu haddoliad, eu tystiolaeth a’u gwasanaeth yn ei Enw ef.
 - Hyrwyddo cysylltiadau da a chwrtais ag arweinwyr Eglwysi a Chymunedau Ffydd eraill.