Cod Ymddygiad yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig
Cyflwyniad
Gweinidogaeth Crist yw’r model a’r mesur ar gyfer pob arweinyddiaeth Gristnogol. Wrth siarad â'i ddisgyblion, eglurodd Iesu nad pwrpas eu galwad oedd adlewyrchu strwythurau pŵer y byd, lle mae awdurdod yn aml yn cael ei arfer er budd personol. Yn hytrach, roedden nhw i fod yn weision i eraill, yn union fel y daeth Ef nid i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu (Marc 10:42–45). Mae'r ailddiffiniad radical hwn o arweinyddiaeth yn sail i’r alwad Gristnogol.
Bu i’r apostol Pedr atgoffa’r Cristnogion cynnar am eu hunaniaeth fel pobl ddewisol Duw, wedi'u sancteiddio gan yr Ysbryd i fod yn ufudd i Iesu Grist (1 Pedr 1:2). Mae'r hunaniaeth hon yn galw ar bob Cristion, yn enwedig y rhai sy’n dal swyddi o gyfrifoldeb bugeiliol, i fywyd o sancteiddrwydd a gras gan fyw mewn ymateb i gariad gwaredol Duw. Mae'r alwad i sancteiddrwydd yn adleisio trwy gydol yr Ysgrythur, yr Hen Destament a'r Testament Newydd, fel yr ymateb addas i'r Duw sy'n creu, yn achub ac yn cynnal.
Gweddïodd Paul, wrth ysgrifennu at y Philipiaid, y byddai eu cariad yn cynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth (Philipiaid 1:9-10). Mae dirnadaeth o'r fath yn galluogi gweinidogion Cristnogol i fyw bywydau sy’n ddarlun o wyleidd-dra, uniondeb a ffyddlondeb. Yng ngrym yr Ysbryd Glân, maent yn cael eu galw i fod yn ymgorfforiad o gariad Crist yn eu holl gydberthnasoedd, yn enwedig gyda'r rhai y maent yn gweinidogaethu iddynt.
Yr Eglwys yw'r gymuned lle mae'r alwedigaeth hon yn cael ei meithrin a'i chynnal. Hi yw'r corff sy’n hyrwyddo gweinidogaeth a chenhadaeth Duw yn y byd. Mae clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig yn arweinwyr o fewn y gymuned hon a thraddodir iddynt gyfrifoldeb sanctaidd. Mae galw arnynt i fod yn esiampl o gymeriad ac ymddygiad Cristnogol, ac i arfer eu gweinidogaeth mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu cymwynasgarwch Crist.
Mae'r Cod Ymddygiad hwn yn nodi'r ymddygiadau personol a'r arferion bugeiliol sy'n ategu gweinidogaeth ffyddlon. Mae wedi'i gynllunio i helpu clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig i wasanaethu gydag uniondeb, atebolrwydd a thosturi. Wrth gadw at y safonau hyn, daw ein cymunedau yn fannau diogelach sy’n ennyn bywyd newydd, yn meithrin ymddiriedaeth, a maddeuant yn meithrin iachâd, a lle nad oes ymgais i guddio na goddef camymddygiad. Trwy gofleidio'r safonau a nodir yma, bydd gweinidogion yn cael eu paratoi'n well i fyw eu galwad gyda ffyddlondeb a gras, gan wasanaethu Crist a'i Eglwys gyda chalonnau ymrwymedig i gariad, cyfiawnder a sancteiddrwydd.
Dylid darllen y disgwyliadau a amlinellir yn y Cod hwn ochr yn ochr â'r Ysgrythurau Sanctaidd, Cyfansoddiad a Chanonau yr Eglwys yng Nghymru, ein Llyfr Gweddi Gyffredin, a'r Canllawiau Gweinidogol Proffesiynol. Nid yw'r Cod yn disodli ein dogfennau sylfaenol ond mae'n ceisio eu hategu, gan gynnig fframwaith ymarferol ar gyfer gweinidogaeth feunyddiol.
Mae pob adran o'r Cod hwn yn cynnwys tair rhan:
- rhagymadrodd sy'n cyflwyno'r adran;
- safonau sy'n datgan disgwyliadau'r Eglwys o ran ymddygiad ac arfer mewn gweinidogaeth fugeiliol;
- ymddygiad priodol sy'n esbonio ac yn dangos ymarfer priodol ac yn tynnu sylw at ffyrdd ymarferol o gyflawni hyn.
Trwy gydol y Cod, mae termau allweddol yn ymddangos mewn testun trwm ac mae eu diffiniadau wedi'u cynnwys yn yr atodiad dan y pennawd 'Termau Allweddol'.
Mae deunydd o ddogfen Eglwys Anglicanaidd Awstralia, sef. Faithfulness in Service: A code for personal behaviour and the practice of pastoral ministry by clerigy and church workers wedi cael ei gynnwys yn y ddogfen hon, gyda’n diolch. Mae'r deunydd a ddefnyddiwyd wedi'i adolygu a'i ddiweddaru i sicrhau ei fod yn berthnasol i gyd-destun penodol yr Eglwys yng Nghymru ac i gyfraith a diwylliant Cymru a'r DU.
Ymddygiad Personol
Rhagymadrodd
1.1 Mae ymddygiad personol a chydberthnasoedd clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig yn cael cryn effaith ar yr Eglwys a’r gymuned, gan eu bod yn fodel i eraill. Mewn cyd-destun lle mai eu cyfrifoldeb yw gofalu am eraill, bydd pobl yn rhoi sylw arbennig i’r ffordd y mae clerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig yn arfer pŵer ac awdurdod.
1.2 Camarfer pŵer ac awdurdod sydd wrth wraidd nifer o broblemau sy’n ymwneud â chydberthnasoedd yn yr Eglwys a’r gymuned. Yn y bôn, camarfer yw pan fo rhywun yn camddefnyddio’r pŵer sydd ganddo dros rywun arall. Weithiau bydd hyn yn digwydd unwaith yn unig a phryd arall bydd yn batrwm o ymddygiad. Gall yr ymddygiad fod ar sawl ffurf sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd: bwlio, camdriniaeth emosiynol, aflonyddu, camdriniaeth gorfforol, rheolaeth drwy orfodaeth, camdriniaeth rywiol, camdriniaeth ariannol, neu gamdriniaeth ysbrydol. Y term ar gyfer camdriniaeth mewn cyd-destun teuluol neu ddomestig yn aml yw “trais teuluol a domestig”.
1.3 Mae'n bwysig i glerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig fod yn ddinasyddion da ac yn ufuddhau i gyfreithiau'r wlad.
1.4 Ynghyd â’r safonau o ran ymddygiad personol i glerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig a restrir isod, disgwylir i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru ymddwyn yn barchus ac yn gwrtais, ac mae ganddynt yr hawl i ddisgwyl ymddygiad parchus a chwrtais gan eraill. Manylir ar hyn yn y Siarter Urddas, sydd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Safonau i glerigion a gweinidogion lleyg trwyddedig
Mae'r safonau hyn yn nodi disgwyliadau'r Eglwys o ran ymddygiad ac arferion mewn gweinidogaeth fugeiliol.
1.5 Rhaid iddynt beidio ag ymwneud ag unrhyw fath o gamdriniaeth yn eu bywydau personol neu broffesiynol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- bwlio;
- camdriniaeth emosiynol;
- aflonyddu;
- camdriniaeth gorfforol;
- rheolaeth drwy orfodaeth;
- camdriniaeth rywiol;
- camdriniaeth ariannol; neu
- gamdriniaeth ysbrydol.
Gweler y termau allweddol isod am ddiffiniadau.
1.6 Rhaid iddynt fod yn gyfrifol yn eu defnydd o alcohol a gwasanaethau neu sylweddau caethiwus neu sy’n newid y meddwl eraill a geir yn gyfreithiol (fel gamblo).
1.7 Ni ddylid ymgymryd ag unrhyw weinidogaeth fugeiliol dan ddylanwad amharus alcohol neu unrhyw sylweddau caethiwus neu sy'n newid y meddwl eraill.
1.8 Rhaid iddynt beidio â defnyddio unrhyw sylwedd gwaharddedig.
1.9 Rhaid iddynt beidio â chymryd eiddo sy’n perthyn i eraill, gan gynnwys eiddo deallusol.
1.10 Rhaid iddynt beidio â gwneud datganiadau anghywir, camarweiniol neu dwyllodrus yn fwriadol.
1.11 Rhaid iddynt beidio â defnyddio iaith sarhaus yn fwriadol.
1.12 Rhaid iddynt beidio ag edrych ar, meddu ar, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd dan gyfyngiad.
1.13 Rhaid iddynt gydymffurfio â’r gyfraith.
Ymddygiad priodol mewn gweinidogaeth gyhoeddus
Mae'r canlynol yn esbonio ac yn dangos ymarfer priodol ac yn amlygu ffyrdd ymarferol o gyflawni hyn.
1.14 Ym mhob agwedd ar eu bywyd a’u gweinidogaeth, dylent ystyried a fydd eu hymddygiad yn niweidio eu henw da a/neu’n amharu ar eu gweinidogaeth eu hunain neu’r Eglwys.
1.15 Dylent ddeall a rhoi sylw i’r gwahanol ddulliau o gamdriniaeth a’r effaith y gall camdriniaeth ei chael ar bobl.
1.16 Dylent allu adnabod a mynd i’r afael â bwlio a’r diwylliannau a’r amgylcheddau sy’n ei annog. Nodweddir cyd-destunau lle mae bwlio yn debygol o ffynnu gan y canlynol:
- arweinyddiaeth neu reolaeth dra-awdurdodol neu annigonol;
- strwythurau a phrosesau annigonol o ran llywodraethu;
- diffyg cefnogaeth ac ymdrin â gwrthdaro yn wael;
- lefel isel o gyfranogi ac ymgynghori;
- hinsawdd o ansicrwydd ac anniogelwch;
- gweithdrefnau cwyno annigonol.
1.17 Dylent adolygu eu hymddygiad os bydd person arall yn dangos drwy eiriau neu weithredoedd ei fod yn teimlo ei fod yn cael ei fwlio ganddynt neu eu bod yn aflonyddu arno. Os ydynt yn ansicr, dylent roi’r gorau i’r ymddygiad a cheisio cyngor. Wrth addysgu, ceryddu neu arfer disgyblaeth fel rhan o’u gweinidogaeth fugeiliol, dylent sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd barchus.
1.18 Dylent garu a gofalu am eu teulu a rhoi sylw arbennig i effaith eu gweinidogaeth ar eu cydberthnasoedd teuluol. Dylent sicrhau bod eu hymddygiad mewn cydberthnasoedd teuluol yn gyson â’r Cod hwn.
1.19 Dylent gymryd camau i atal eu partner neu eu plant, neu aelodau eraill o’u teulu, rhag dioddef yn sgil eu straen personol nhw. Os ydynt yn sylwi eu bod yn ymddwyn tuag at unrhyw aelod o’u teulu yn dreisgar neu mewn modd sy'n cam-drin, dylent geisio cymorth proffesiynol ar unwaith.
1.20 Dylent fonitro eu defnydd o alcohol a sylweddau neu gynnyrch eraill a gafwyd yn gyfreithlon ac sy’n newid y meddwl neu sy’n gaethiwus (e.e. gamblo) i sicrhau eu llesiant a llesiant pobl eraill. Dylent geisio cymorth proffesiynol os bydd y defnydd o’r sylweddau neu’r cynnyrch hyn yn cael effaith andwyol ar eu gweinidogaeth, eu llesiant personol neu eu cydberthnasoedd.
1.21 Dylent fod yn sensitif i effaith eu hiaith ar bobl eraill. Dylent osgoi defnyddio iaith a all gael ei chamddeall neu iaith sy’n bwlio, yn bygwth, yn bychanu, yn codi cywilydd neu’n peri tramgwydd neu embaras diangen. Dylent fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r canlynol:
- unrhyw regfeydd;
- iaith sy’n gwneud ensyniadau neu sydd ag ystyr rhywiol; a
- disgrifiadau hiliol, crefyddol, neu ddisgrifiadau o grwpiau eraill.
1.22 Os ydynt am ddefnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol, dylai hynny fod yn unol â pholisïau cyfryngau cymdeithasol yr Eglwys yng Nghymru.
1.23 Dylent osgoi edrych ar neu ddefnyddio deunydd dan gyfyngiad.
1.24 Os ydynt yn cymryd rhan mewn protest sifil, ni ddylent ymddwyn mewn ffordd dreisgar nac achosi trais yn fwriadol.
1.25 Dylent fod yn sensitif i effaith eu gwisg a’u hylendid personol ar bobl eraill a gwisgo’n briodol i’r cyd-destun.
1.26 Dylent gydymffurfio â deddfwriaeth ynghylch hawlfraint, a dylent sicrhau bod unrhyw drwyddedau i ddefnyddio deunydd hawlfraint yn gyfredol ac y cydymffurfir â’r trwyddedau hynny, a bod hawlfraint yn cael ei chydnabod yn briodol.
Atodiad
Termau allweddol
Ystyr camdriniaeth (neu gam-drin) mewn perthynas ag oedolyn yw’r ymddygiadau canlynol:
- bwlio;
- camdriniaeth emosiynol;
- aflonyddu;
- camdriniaeth gorfforol;
- camdriniaeth rywiol;
- camdriniaeth ariannol; neu
- gamdriniaeth ysbrydol.
Effaith camdriniaeth
Gall person sy’n cael ei gam-drin ddioddef yn emosiynol, yn seicolegol, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn ysbrydol. Gall yr effaith bara ar hyd ei oes ac effeithio’r person, ei gydberthnasoedd a’i allu i fod yn weinidog ac i dderbyn gweinidogaeth.
Ystyr bwlio yw ymddygiad nad oes croeso iddo gan unigolyn neu grŵp sy’n dramgwyddus, yn codi ofn, yn fygythiol, neu’n faleisus, er nad oes diffiniad cyfreithiol o fwlio yn y DU. Yn aml, mae’n cynnwys camddefnyddio neu gam-fanteisio ar bŵer, boed hynny’n wirioneddol neu’n ganfyddedig, sy’n tanseilio, yn codi cywilydd, neu’n achosi niwed corfforol neu emosiynol i rywun. Gall bwlio fod ar ffurf patrwm rheolaidd o ymddygiad neu un digwyddiad a gall ddigwydd wyneb yn wyneb, ar-lein, drwy negeseuon e-bost, galwadau, neu mewn cyd-destunau eraill sy’n gysylltiedig â’r Eglwys. Nid yw bwlio bob amser yn amlwg ac efallai na fydd y tramgwyddwr yn cydnabod ei fod yn bwlio; gall bwlio ddigwydd hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yn bwriadu achosi niwed.
Mae enghreifftiau o fwlio yn cynnwys y canlynol:
- Gwneud sylwadau difrïol neu ddiraddiol neu jôcs am rywun, neu godi cywilydd arno mewn ffordd arall.
- Lledaenu sïon maleisus am rywun neu danseilio perfformiad neu enw da rhywun mewn ffordd arall.
- Bygwth trais yn erbyn rhywun yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan gynnwys ymddygiad di-eiriau o natur fygythiol.
- Gwneud cysylltiad corfforol nad oes croeso iddo.
- Cyfathrebu â rhywun mewn ffordd ymosodol, gan gynnwys gweiddi ar rywun.
- Beirniadu gwaith rhywun yn gyson, heb reswm dilys.
- Eithrio rhywun yn amhriodol o weithgareddau neu rhag cael gwybodaeth.
- Rhoi sylwadau neu ddelweddau tramgwyddus, bygythiol neu sy’n codi cywilydd ar-lein.
Gall bwlio gael ei gyfeirio at unrhyw un, gan gynnwys bwlio i fyny, lle mae unigolyn neu grŵp yn targedu'r rhai mewn rolau uwch. Gallai hyn gynnwys dangos diffyg parch parhaus, tanseilio awdurdod cyfreithlon, neu ledaenu sibrydion.
Mae'n bwysig nodi nad yw rheoli heriau a pherfformiad a gynhelir mewn ffordd resymol a phroffesiynol yn gyfystyr â bwlio. Mae enghreifftiau o reoli heriau a pherfformiad priodol yn cynnwys:
- Herio neu feirniadu cred, barn neu weithred rhywun mewn ffordd barchus.
- Gosod nodau perfformiad, safonau neu ddyddiadau cau rhesymol.
- Rhoi adborth ar berfformiad anfoddhaol mewn ffordd benodol ac adeiladol, gan gynnwys camau clir i wella perfformiad i safon foddhaol.
- Rhoi adborth ar ymddygiad amhriodol mewn ffordd glir a gwrthrychol, gan gynnwys unrhyw gamau adfer neu uwchgyfeirio angenrheidiol.
- Rhannu gwybodaeth am berfformiad neu ymddygiad rhywun gyda pherson arall sydd â rheswm priodol dros gael y wybodaeth honno.
- Cymryd camau disgyblu cyfreithlon.
Ystyr plentyn yw unrhyw un o dan 18 oed.
Ystyr eglwys yw'r Eglwys yng Nghymru.
Ystyr clerigion yw esgobion, offeiriaid a diaconiaid yr Eglwys.
Ystyr clerig yw esgob, offeiriad neu ddiacon yr Eglwys.
Ystyr rheolaeth orfodol yw patrwm ymddygiad sy'n ceisio dominyddu neu ddychryn person arall trwy fygythiadau, cywilyddio, ynysu, neu gyfyngu ar ryddid. Mae'n aml yn cynnwys camdriniaeth seicolegol, emosiynol neu ariannol. Gall arwain at erydu ymreolaeth y sawl gaiff ei dargedu a’i hunan hyder.
Ystyr camdriniaeth emosiynol yw gweithredoedd neu anweithredoedd sydd wedi achosi, neu a allai achosi, niwed emosiynol neu arwain at anhwylderau ymddygiadol neu wybyddol difrifol. Mae’n cynnwys y canlynol:
- beirniadu rhywun yn bersonol, yn ormodol ac yn fynych;
- gwawdio rhywun, gan gynnwys defnyddio termau sarhaus neu ddifrïol wrth gyfeirio ato;
- bygwth neu godi ofn ar rywun;
- anwybyddu rhywun yn agored ac yn fwriadol; ac
- ymddwyn mewn ffordd elyniaethus neu mewn unrhyw ffordd lle byddai’n rhesymol i berson arall deimlo ei fod wedi’i ynysu neu’i wrthod o ganlyniad i’r ymddygiad.
Mae camdriniaeth ariannol yn cynnwys cam-drin rhywun drwy reoli ei arian neu’i asedau yn amhriodol neu’n anghyfreithlon, gan gynnwys ei eiddo. Mae enghreifftiau o gamdriniaeth ariannol yn cynnwys y canlynol:
- Dwyn neu gamddefnyddio arian
- Twyll
- Ymyrryd â materion ariannol rhywun, neu gam-fanteisio arnynt
- Cyfyngu ar fynediad at arian, cyflogaeth, neu eiddo personol
- Gorfodi rhywun neu roi pwysau arno ynghylch ei ewyllys, ei eiddo, ei etifeddiaeth, neu atwrneiaeth arhosol
Ystyr aflonyddu yw ymddygiad nad oes croeso iddo, pa un a yw’n fwriadol neu beidio, mewn perthynas â pherson arall lle mae’r person yn teimlo â rheswm da yn yr holl amgylchiadau ei fod wedi’i dramgwyddo, ei fychanu neu’i fygwth. Gall ymddygiad o’r fath gynnwys un digwyddiad neu sawl digwyddiad dros gyfnod. Mae’n cynnwys y canlynol:
- gwneud cysylltiad corfforol nad oes croeso iddo â pherson;
- gwneud arwyddion neu ddefnyddio iaith y byddai’n rhesymol iddynt achosi tramgwydd, gan gynnwys gweiddi parhaus nad oes galw amdano;
- gwneud sylwadau diangen neu heb gyfiawnhad am alluoedd neu briodoleddau person;
- arddangos yn agored luniau, posteri, graffiti neu ddeunyddiau ysgrifenedig y byddai’n rhesymol iddynt achosi tramgwydd;
- cyfathrebu nad oes croeso iddo â pherson mewn unrhyw ffordd (er enghraifft, galwadau ffôn, e-byst, negeseuon testun); a
- stelcio person.
Gall aflonyddu fod yn rhywiol – gweler aflonyddu rhywiol isod.
Ystyr gweinidog(ion) lleyg trwyddedig yw lleygwr sydd wedi'i drwyddedu gan esgob yr esgobaeth i gyflawni gweinidogaeth benodol.
Mae iaith sarhaus yn cynnwys cabledd, aflonyddu geiriol, difrïo hiliol a mathau eraill o ddifrïo, sarhad neu sylw personol a geiriau anweddus.
Ystyr gweinidogaeth fugeiliol yw unrhyw waith neu sefyllfaoedd lle mae gan aelod o’r glerigiaeth neu weinidog lleyg trwyddedig gyfrifoldeb fel rhan o’i rôl am lesiant pobl eraill, gan gynnwys darparu cyngor a chefnogaeth ysbrydol, addysgu, cwnsela, neu ofal a chymorth mewn cyfnodau o angen.
Ystyr camdriniaeth gorfforol yw unrhyw weithred, defnydd o rym neu fygythiad i ddefnyddio grym, sy’n fwriadol neu’n fyrbwyll, ac sy’n achosi anaf i berson arall, neu’n cynnwys cysylltiad corfforol nad oes croeso iddo â pherson arall. Gall hyn fod ar ffurf taro, dyrnu, ysgwyd, cicio, llosgi, gwthio neu afael. Gall anaf fod ar ffurf cleisiau, briwiau, llosgiadau neu doresgyrn.
Ystyr deunydd dan gyfyngiad yw:
- unrhyw ddelweddau (llonydd neu symudol) na ellir eu dosbarthu’n gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr;
- cyhoeddiadau, ffilmiau a gemau cyfrifiadurol sydd wedi’u dosbarthu yng nghategori R18 gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC); ac
- unrhyw ddelweddau eraill (llonydd neu symudol) neu seiniau nad ydynt yn cael eu dosbarthu gan BBFC na’r Awdurdod Graddio Gemau (er enghraifft, deunydd ar y rhyngrwyd) yr ystyrir â rheswm da yn yr Eglwys eu bod yn dramgwyddus ar sail trais, rhyw, iaith, camddefnyddio cyffuriau neu noethni.
Mae'r categori R18 yn ddosbarthiad arbennig a chyfyngedig yn gyfreithiol yn bennaf ar gyfer gweithiau penodol o ryw â chydsyniad neu ddeunydd ffetis cryf sy'n ymwneud ag oedolion. Nid oes unrhyw gategori BBFC arall (U, PG, 12, 15, a 18) wedi'i gynnwys yn yr ymadrodd 'deunydd cyfyngedig'.
Ystyr sylwedd gwaharddedig yw unrhyw sylwedd sydd wedi’i wahardd gan y gyfraith i’w ddefnyddio gan oedolyn, neu unrhyw feddyginiaeth presgripsiwn yn unig nad yw wedi’i rhoi ar bresgripsiwn i’r clerig neu’r gweinidog lleyg trwyddedig yn unol â Rheoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012.
Ystyr parch yw rhoi sylw ac ymateb i urddas person arall. Disgwylir i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru ymddwyn yn barchus ac yn gwrtais, ac mae ganddynt hawl i ddisgwyl ymddygiad parchus a chwrtais gan eraill. Manylir ar hyn yn y Siarter Urddas, sydd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Ystyr cam-drin oedolyn yn rhywiol yw ymosodiad rhywiol, cam-fanteisio rhywiol neu aflonyddu rhywiol (gweler isod) mewn perthynas ag oedolyn.
Ystyr aflonyddu rhywiol yw:
- awgrym rhywiol nad oes croeso iddo, neu gais nad oes croeso iddo am ffafrau rhywiol, gan y person arall; neu
- ymddygiad arall nad oes croeso iddo o natur rywiol mewn perthynas â’r person arall mewn amgylchiadau lle byddai person rhesymol, gan ystyried yr holl amgylchiadau, wedi disgwyl i’r person arall deimlo ei fod wedi’i dramgwyddo, ei sarhau neu ei fygwth.
Gall ymddygiad o’r fath gynnwys un digwyddiad neu sawl digwyddiad dros gyfnod. Mae’n cynnwys y canlynol:
- gofyn i berson am ryw;
- rhoi ar ddeall i berson yr hoffech gael ffafrau rhywiol ganddo/i;
- gwneud unrhyw arwydd, gweithred neu sylw o natur rywiol i berson yn uniongyrchol, neu wneud sylw o natur rywiol amdano pan mae’n bresennol;
- gwneud jôcs sy’n cynnwys cyfeiriadau rhywiol neu ensyniadau drwy ddefnyddio unrhyw fath o gyfathrebu;
- dangos unrhyw fath o ddeunydd amlwg rywiol neu awgrymog i berson;
- gwneud cysylltiad corfforol nad oes croeso iddo, fel cyffwrdd, pinsio neu daro’n ysgafn;
- gwneud ymholiadau diangen neu nad oes croeso iddynt am faterion personol o natur rywiol, neu geisio trafod materion o’r fath;
- ymwthio i ofod personol unigolyn yn fwriadol;
- syllu ar neu wylio person yn gyfrinachol at ddiben cyffroad neu foddhad rhywiol;
- stelcio person.
Gall camdriniaeth ysbrydol gael ei dangos pan fo ymgais i orfodi, rheoli, aflonyddu, dylanwadu ar neu fychanu unigolyn neu grŵp drwy ddefnyddio’n anghyfiawn awdurdod ysbrydol ac awdurdod yr Ysgrythur, addysgu Cristnogol, gweddi, arferion ysbrydol a defodau’r Eglwys. Gellir barnu bod ymddygiad niweidiol o’r fath yn torri’r gyfraith ac felly gallai fod yn destun ar gyfer camau cyfreithiol. Efallai na fydd ymddygiadau eraill yn drosedd gyfreithiol ond byddant ymhell islaw’r safonau o ran cariad Cristnogol, tosturi a gonestrwydd a ddylai nodweddu’r Eglwys. Am ystyriaeth fanwl o awdurdod ysbrydol a chamdriniaeth ysbrydol, cyfeiriwch at Cerdded mewn Didwylledd: Myfyrdod Diwinyddol ar Ddefnyddio a Chamddefnyddio Awdurdod Ysbrydol gan Gomisiwn Athrawiaethol Sefydlog yr Eglwys yng Nghymru sydd ar gael ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.