Swydd wag - Esgobaeth Bangor
- Mae'r dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb bellach wedi mynd heibio.
Daeth Esgobaeth Bangor yn wag ar 31 Awst 2025 yn dilyn ymddeoliad y Gwir Barchedig Andrew John.
Bydd y Coleg Etholiadol i ethol Esgob nesaf Bangor yn cyfarfod rhwng 25-27 Tachwedd 2025 yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno. Mae pecyn gwybodaeth mewn perthynas â'r swydd wag ar gael yma:
- Pecyn gwybodaeth (PDF)
- Bwrdd Cyllid Esgobaeth Bangor - Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2024 (Saesneg yn unig) (PDF)
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, neu os hoffech awgrymu person i'w ystyried, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Coleg Etholiadol drwy ebostio electoralcollege@churchinwales.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ac awgrymiadau yw 12.00 ddydd Gwener 3 Hydref 2025.
