Syrfëwr Ystadau
Syrfëwr Ystadau
Cyflog: £45,928 - £51,962 yr flwyddyn
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Barhaol
Yn adrodd: Cyfarwyddwr y Strategaeth Eiddo
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Pwrpas y Swydd
Mae'r Adran Gwasanaethau Eiddo, wrth gefnogi cenhadaeth yr eglwys, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a chyngor eang sy'n gysylltiedig ag eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr a'r Esgobaethau trwy ddatblygu a chynnal strategaeth rheoli eiddo effeithiol.
Mae'r Syrfëwr Ystadau yn gyfrifol am drefnu gwaith rheoli’r ystad dyranedig gan gynnwys gwerthu eiddo, prynu, gosod, hawddfreintiau, trwyddedau, anghydfodau ffiniau, cyfleoedd datblygu etc. ar draws y portffolio cyfan o eiddo a ddelir gan Gorff y Cynrychiolwyr.
Hanfodol
- Syrfëwr Siartredig
- Trwydded yrru lawn, glân, yn y DU
- Profiad o reoli portffolio eiddo amrywiol a rheoli trafodion eiddo, yn enwedig gwerthu a gosod eiddo preswyl
- Gwybodaeth weithredol gadarn ynghylch Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a gweithdrefnau Rhentu Doeth Cymru
- Gwybodaeth a phrofiad cadarn o reoli eiddo, yswiriant a materion cysylltiedig
- Cyfathrebwr rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Doethineb a diplomyddiaeth
- Llythrennedd cyfrifiadurol.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Profiad o weithio i'r sectorau elusennol neu gyhoeddus.
- Profiad amlwg o weithio drwy weithdrefnau a drefnir yn ddemocrataidd, e.e. systemau pwyllgorau a byrddau
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system cadw ffeiliau
- Dealltwriaeth o ddiben a strwythurau’r Eglwys yng Nghymru
- Sgiliau Cymraeg/y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
17 Hydref 2025 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
30 Hydref 2025 yn bersonol yn Caerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Alex Glanville, HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho