Tiwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig
Tiwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig
Lleoliad: Athrofa Padarn Sant (Gogledd Cymru)
Gweithio o adref a theithio
Amser llawn – 34.75 awr yr wythnos
Parhaol
Gradd E30 £45,148
Mae Athrofa Padarn Sant yn rhan o Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, ac yn cefnogi ffurfiant a hyfforddiant yr eglwys ar draws Cymru gyfan.
Mae gan y Tiwtor mewn Diwinyddiaeth Gymreig ran allweddol yn hyfforddiant cychwynnol a ffurfiant gweinidogion trwyddedig ordeiniedig a lleyg ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Er ei bod wedi'i lleoli gartref yng ngogledd Cymru, mae'r rôl yn gofyn am deithio helaeth a rheolaidd ledled Cymru ac aros dros nos.
Craidd y swydd hon yw gwaith ffurfiannol gydag ymgeiswyr ar gyfer y weinidogaeth a goruchwylio’r dyddiau ffurfiannol rhanbarthol newydd.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Canon Dr Manon Ceridwen James, Deon Hyfforddiant Cychwynnol Gweinidogion ar manon.c.james@stpadarns.ac.uk
Dylid danfon CV a ffurflen gais wedi eu cwblhau atHR@cinw.org.uk
Dyddiad cau: 18fed o Orffennaf 2025 am 10:00
Cyfweliadau: 30ain o Orffennaf 2025