Gweinyddwr Ymddiriedolaethau a DBS
Sefydledig: Gradd C (£28,610 – £32,370)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfreithiwr a Rheolwr Ymddiriedolaethau Mewnol
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Swyddfa genedlaethol yr Eglwys yng Nghymru yw’r canolbwynt i ystod eang o weithgareddau canolog sy'n gwasanaethu anghenion yr Eglwys Anglicanaidd ledled Cymru. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys rheoli gweithrediadau elusen ganolog fawr (Corff y Cynrychiolwyr), rheoli asedau hanesyddol yr eglwys (gan gynnwys cannoedd o adeiladau eglwysig a ficerdai), gweinyddu'r cynllun pensiwn ar gyfer y clerigion a chefnogi trefniadau llywodraethu, cenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Yn ogystal â'r elusen ganolog ei hun, mae Corff y Cynrychiolwyr yn ymddiriedolwr corfforaethol ar gyfer nifer fawr o ymddiriedolaethau elusennol a gedwir er budd adeiladau eglwysig, mynwentydd, ardaloedd gweinidogaeth (plwyfi), ac esgobaethau. Ar hyn o bryd mae’r portffolio o ymddiriedolaethau yn cynnwys dros 2,000 o ymddiriedolaethau o'r fath, yn amrywio'n fawr o ran maint a chwmpas.
Bydd y Swyddog Ymddiriedolaethau a DBS yn gyfrifol am weinyddu a gweithredu'r ymddiriedolaethau elusennol y mae Corff y Cynrychiolwyr yn ymddiriedolwr corfforaethol arnynt. Bydd hefyd yn gyfrifol am weinyddu ‘Pobl Fy Eglwys’, y gronfa ddata ganolog o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac am hyfforddiant diogelu ar gyfer staff, clerigion a gwirfoddolwyr ledled yr Eglwys yng Nghymru.
Hanfodol:
- Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn groyw, yn bersonol, dros y ffôn ac yn ysgrifenedig, gyda chydweithwyr, clerigion, ac aelodau eraill o'r Eglwys yng Nghymru.
- Sgiliau Microsoft Word a Microsoft Excel da.
- Lefel uchel o lythrennedd rhifiadol ac ariannol, cywirdeb a sylw i fanylion.
- Y gallu i gwblhau gwaith yn unol â therfynau amser, yn wythnosol, misol, chwarterol a blynyddol.
- Y gallu i gydbwyso a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol, rheoli blaenoriaethau cystadleuol a gwella prosesau yn barhaus.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Dymunol:
- Profiad o weinyddu elusennau a/neu ymddiriedolaethau.
- Dealltwriaeth o'r gyfraith a'r rheoliadau sy'n llywodraethu gwiriadau cofnodion troseddol trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau.
- Dealltwriaeth o strwythurau'r Eglwys yng Nghymru.
- Sgiliau Cymraeg/y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cyflwynwch ffurflen gais yn nodi sut rydych chi'n bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a'i hanfon at: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
26 Medi 2025 at 10.00 yb
Dyddiadau Cyfweliad
7 Hydref 2025
Lawrlwytho