Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant
Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant
Cyflog: Gradd B (£25,058)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Contract: Parhaol
Yn adrodd: Rheolwr Cyllid
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Mae'r Adran Gyllid yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ariannol eang a chyngor I
Gorff y Cynrychiolwyr a chyrff eraill y dalaith. Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant sy’n rhoi sylw i fanylder i ymuno â'n tîm Cyllid fel Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant. Mae'r rôl hon yn gyfle gwych i ennill profiad ymarferol ym maes cyllid o fewn y sector nid-er-elw.
Hanfodol
- Diddordeb brwd mewn datblygu gyrfa ym maes cyllid.
- Sgiliau rhifedd cryf a sylw i fanylion.
- Sgiliau TG da, gan gynnwys Microsoft Excel a Word.
- Parodrwydd i ddysgu a mentro.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf.
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o bobl.
Dymunol
- Rhywfaint o brofiad mewn rôl swyddfa neu weinyddol
- Dealltwriaeth o egwyddorion cyllid sylfaenol neu gadw llyfrau
- Ymrwymiad i astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddu (AAT)
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost:HR@cinw.org.uk
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch HR@cinw.org.ukneu trwy ffonio 02920 348200
Dyddiad cau
06 Tachwedd am 10 am
Dyddiadau Cyfweliad
14 Tachwedd yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Llwytho i lawr
Disgrifiad Swydd: Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant (Word)