Rheolwr Safle
Gradd D (£33,881 - £38,344)
Lleoliad: Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Coleg diwinyddol yr Eglwys yng Nghymru yw Athrofa Padarn Sant; mae'n gymuned ddysgu Gristnogol, sy'n rhoi profiad y dysgwr wrth wraidd popeth mae'n ei wneud. Mae'r swydd hon yn gwneud cyfraniad arwyddocaol at y gwaith o helpu i sicrhau bod Athrofa Padarn Sant yn amgylchedd diogel a chroesawgar sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac sy'n briodol ar gyfer dysgu a gweithio drwy gynllunio, cynnal a chydlynu'r gwaith o gynnal a chadw safle'r Athrofa yn Llandaf, Caerdydd, a chyfrannu at gynllunio gwelliannau a datblygiadau.
Hanfodol:
- Gwybodaeth gadarn am strwythurau adeiladu a systemau gwasanaethau adeiladu gyda'r gallu i reoli prosiectau cynnal a chadw neu adeiladu yn effeithiol o'r dechrau i'r diwedd.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr a chyfredol o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a'r gallu i'w chymhwyso mewn gweithrediadau dyddiol, gan gynnwys mewn perthynas â'r drefn statudol o wasanaethu peiriannau a chyfarpar gan bobl gymwys ac wrth asesu a rheoli risgiau ar draws gweithgareddau ac amgylcheddau amrywiol ar y safle.
- Sgiliau cynnal a chadw ymarferol cyffredinol, gydag ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus a gwelliant, gan ddysgu sgiliau newydd yn ôl yr angen.
- Cymhelliant i nodi gwelliannau i brosesau a'u rhoi ar waith er mwyn sicrhau mwy o effeithlonrwydd a gwerth, gan gynnal safonau uchel ac ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd uchel.
- Deall pwysigrwydd cydymffurfio â deddfwriaeth gynllunio a threftadaeth megis Cydsyniad Adeilad Rhestredig, Caniatâd Cynllunio a Rheoliadau Adeiladu.
- Sgiliau datrys problemau datblygedig er mwyn mynd i'r afael â materio cynnal a chadw arferol a chymhleth.
- Diplomyddiaeth a thact wrth ddelio ag amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys staff, dysgwyr, contractwyr ac ymwelwyr, ynghyd â sgiliau cydweithredol cryf a dull o sicrhau llwyddiant sy'n seiliedig ar waith tîm.
- Cyfathrebwr clir ac effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gydag amrywiol randdeiliaid.
- Profiad o reoli pobl.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser rhagorol, gyda'r gallu i flaenoriaethu tasgau niferus dan bwysau, a gweithio'n gywir ac yn gyflym gan roi sylw i fanylion mewn amgylchedd heriol.
- Y parodrwydd a'r gallu i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys ymateb i argyfyngau.
- Y gallu i addasu i brosesau, systemau neu amgylcheddau newydd, a pharodrwydd i groesawu newid.
- Ymrwymiad, dibynadwyedd ac ethos gwaith cryf.
- Y gallu i gadw cofnodion manwl.
- Hyfedredd mewn TG a defnyddio offer digidol perthnasol ar gyfer adrodd a chyfathrebu.
- Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Dymunol:
- Sgiliau yn y Gymraeg/y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu ymrwymiad i ddysgu'r iaith.
- Gwybodaeth am fentrau cynaliadwyedd ac arferion sy'n amgylcheddol gyfrifol sy'n berthnasol i adeiladau a gwasanaethau.
- Profiad o weithio i'r sectorau elusennol neu addysg.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau.
- Profiad o weithio yn unol â gweithdrefnau wedi'u trefnu'n ddemocrataidd e.e. systemau pwyllgor a bwrdd.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, gwblhau ffurflen gais yn nodi sut ydych yn cwrdd â phob un o'r meini prawf hanfodol a'i hanfon i: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
23 Medi 2025 am 10:00am
Dyddiadau Cyfweliad
2 Hydref 2025
Lawrlwytho