Swyddog Diogelu’r Dalaith
Teitl y Swydd: Swyddog Diogelu’r Dalaith
Cyflog: £22,966 (pro rata cyfwerth ag amser llawn £38,004 - £42,998)
Lleoliad: Bydd y rôl yn cwmpasu esgobaethau Llandaf a Mynwy yn bennaf, a byddwch yn gweithio gartref ar y cyfan. Bydd cyfleusterau i weithio ar gael yn Swyddfa’r Dalaith yng Nghaerdydd. Mae'r rôl yn gofyn am lawer o deithio ac felly mae bod â’ch cerbyd eich hun yn hanfodol. Mae gofyniad achlysurol i deithio i unrhyw ran o Gymru.
Contract: Parhaol
Adrodd i: Rheolwr Diogelu
Oriau Gwaith: Rhan-amser, 21 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn 34.75 awr). Mae'r rôl yn gofyn i'r oriau gael eu gweithio yn ystod oriau swyddfa, yn gyffredinol dros gyfnod o 3 diwrnod sy'n cynnwys dydd Mercher. Mae rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau gwaith.
Diben y Swydd
Mae'r swydd yn cynnwys derbyn ac ymateb i bryderon diogelu a honiadau am ddiogelu ar draws Talaith yr Eglwys yng Nghymru, yn gyson â Pholisi Diogelu'r Eglwys yng Nghymru, a Gweithdrefnau a Chanllawiau cysylltiedig. Bydd y Swyddog Diogelu yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y tîm Diogelu a'r sefydliad ehangach. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o gynnal ymchwiliadau diogelu a rheoli risgiau diogelu.
Manyleb y Person
Hanfodol:
- Profiad helaeth o weithio gyda phlant a/neu oedolion mewn perygl mewn cyd-destun diogelu.
- Profiad o waith aml-asiantaeth ac amlddisgyblaeth, yn cynnwys gyda phartneriaid yn y sector statudol.
- Profiad o gynnal ymchwiliadau diogelu plant ac oedolion mewn perygl.
- Profiad o gynnal ac adolygu asesiadau risg diogelu a datblygu cynlluniau rheoli risg.
- Gwybodaeth ymarferol dda am ddeddfwriaeth allweddol a chanllawiau'r Llywodraeth yn cynnwys Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion cyfrinachedd, yn cynnwys pryd mae'n briodol torri cyfrinachedd mewn amgylchiadau penodol.
- Gwybodaeth am y peryglon a achosir gan gamdrinwyr a deall ymddygiad troseddwyr.
- Deall ymarfer da cyfredol wrth ymdrin â honiadau a wnaed yn erbyn gweithwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn swyddi o ymddiriedaeth gyda phlant ac oedolion mewn perygl.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, llenwch y ffurflen gais a'i chyflwyno i'r cyfeiriad e-bost: hr@cinw.org.uk
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais
Dyddiad cau
08 Mai 2024 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
16 Mai 2024 - yn bersonol yng Nghaerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Ant Griffiths, hr@cinw.org.uk
Lawrlwytho