Swyddog Eiddo
Teitl y Swydd: Swyddog Eiddo
Cyflog: Gan ddechrau ar
(Graddfa gynwysol) Gradd D (£33,881 - £38,334)
Contract:Parhaol
Yn adrodd: Uwch Swyddog Eiddo
Oriau Gwaith: 34.75 hours per week
Mae 2 swydd amser llawn yn wag ar hyn o bryd ond bydd trefniant gweithio rhan-amser neu rannu swydd yn cael ei ystyried.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun weithio gyda llwyth achosion amrywiol, ar draws ac o fewn llawer o leoliadau a chymunedau hardd ledled Cymru, gydag adeiladau hanesyddol ac arwyddocaol, ac mewn ffordd greadigol. Bydd deiliad y swydd yn rheoli'r eglwysi caeedig a neilltuwyd iddo er mwyn sicrhau nad ydynt yn peri risgiau diangen i'r cyhoedd ac er mwyn sicrhau canlyniad cadarnhaol i'r adeilad yn y dyfodol.
Manyleb y Person:
Hanfodol:
- Unigolyn gwydn sydd â’r cymhelliant i weithio ar ei ben ei hun a heb oruchwyliaeth ond gan gadw mewn cysylltiad agos â rheolwyr llinell.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r ddiplomyddiaeth angenrheidiol i ddelio â materion sensitif ac weithiau dadleuol.
- Cyfathrebwr rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar gyda'r gallu i gyflwyno adroddiadau.
- Sgiliau TG da gyda'r gallu i ddefnyddio pecynnau meddalwedd cyfrifiadurol gan gynnwys Word, Excel ac e-bost.
- Trefnus ond gyda'r hyblygrwydd angenrheidiol i reoli prosiectau wedi'u cynllunio a sefyllfaoedd argyfwng sy’n codi.
- Profiad o weithio trwy weithdrefnau wedi'u trefnu'n ddemocrataidd e.e. systemau pwyllgorau a bwrdd.
- Mae'r gwaith yn cwmpasu ardal ddaearyddol fawr felly mae'n rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru gyfredol a bod â’r gallu i weithio o bell gan gynnwys o gartref pan fo angen. Efallai y bydd angen aros dros nos o bryd i’w gilydd.
- Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol:
- Gwybodaeth a phrofiad y mae modd eu dangos yn y diwydiant adeiladu/eiddo.
- Gwybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, rheoliadau CDM a gofynion statudol perthnasol eraill.
- Profiad o reoli contractwyr, ymgynghorwyr ac asiantau.
- Craffter ariannol da gyda sgiliau penodol mewn rheoli prosiectau – o arfarnu opsiynau i gyflawni prosiectau.
- Gwybodaeth am adeiladau hanesyddol a rhestredig a chadwraeth adeiladau.
- Syrfëwr adeiladu siartredig neu berson cymwys tebyg gydag o leiaf tair blynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant adeiladu.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system ystorfa ffeiliau.
- Y gallu i siarad Cymraeg.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch llythyr eglurhaol, I’r cyfeiriad e-bost:HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
13 Tachwedd am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
21 Tachwedd ar lein
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag hr@cinw.org.uk
Lawrlwytho