Cydlynydd Adnoddau Dynol a Chyfleusterau
Teitl y Swydd: Cydlynydd Adnoddau Dynol a Chyfleusterau
Gradd D (£33,881 - £38,344)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Uwch Swyddog Adnoddau Dynol
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae'r Cydlynydd Adnoddau Dynol a Chyfleusterau yn gwneud cyfraniad allweddol at sicrhau bod presenoldeb gweithwyr ac ymwelwyr yn 2 Sgwâr Callaghan yn cael ei reoli’n llyfn. Mae dau ddiben i'r swydd: cynorthwyo amgylchedd y swyddfa i weithredu o ddydd i ddydd, gan gynnal safonau diogelwch ac effeithlonrwydd ar gyfer yr holl staff ac ymwelwyr, a darparu cymorth gweinyddol i'r tîm AD a'i ffrwd waith DBS.
Rydym yn chwilio am swyddog i gyflawni rôl ddeuol blaen y tŷ yn ein swyddfa, gan sicrhau bod y swyddfa a'r cyfleusterau yn cael eu rheoli'n effeithlon. Mae'r dderbynfa yn ardal brysur, ac rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rhyngbersonol sy'n gallu cyfarch ein hymwelwyr wyneb yn wyneb a dros y ffôn. Byddwch yn gyfrifol am nifer o dasgau gweinyddol cysylltiedig yn y swydd hon. Mae'n hanfodol bod gennych rywfaint o brofiad o weithio mewn amgylchedd tebyg.
Mae Tîm Adnoddau Dynol Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru yn gweithredu mewn dau faes gwasanaeth, sef darpariaeth fewnol a darpariaeth allanol. Mae'r swydd hon yn rhan o'r gwasanaeth mewnol ac mae'n rhan annatod o bresenoldeb Adnoddau Dynol.
Hanfodol
- Bydd y deiliad swydd yn gweithio mewn swyddfa, oherwydd natur y rôl.
- Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i weithio mewn lleoliad yng nghanol Caerdydd, 5 diwrnod yr wythnos yn ystod oriau swyddfa.
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn swyddogaeth weinyddol.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Parodrwydd i astudio ar gyfer cymhwyster iechyd a diogelwch achrededig.
- Yn barod i ymgymryd â hyfforddiant warden tân a chymorth cyntaf.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau.
- Dealltwriaeth o ddiben a strwythurau'r Eglwys yng Nghymru.
- Sgiliau Cymraeg.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich CV a'ch llythyr cais atom yn nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol i: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
22 Awst 2025 am 10:00am
Dyddiadau Cyfweliad
28 Awst 2025
Lawrlwytho