Cynorthwyydd Gweithredol
Teitl y Swydd: Cynorthwyydd Gweithredol
Sefydledig: Gradd D - £33,881 y flwyddyn
Lleoliad: Llys Esgob, Llandaf, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Esgob Esgobaethol
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Yr Eglwys yng Nghymru yw’r corff gwirfoddol mwyaf yng Nghymru ac mae ganddi wreiddiau hanesyddol a dyhead uchelgeisiol i uniaethu â phobl o bob ffydd ac â phobl heb ffydd.
Mae’r Cynorthwyydd Gweithredol yn rôl allweddol a fydd yn gofyn am allu ac effeithlonrwydd i reoli llwyth gwaith newidiol, llawn her a chymhleth yr Esgob. Bydd y Cynorthwyydd Gweithredol yn gweithio’n agos gyda’r Esgob ar bob agwedd ar ei gwaith, gan ddarparu cymorth ymarferol, cymhelliant cadarn ac ymgysylltu â’r materion sy’n cystadlu am ei sylw.
Bydd y Cynorthwyydd Gweithredol yn darparu gwasanaethau gweithredol, gan gynnwys gweithredu fel y ddolen gyswllt gyntaf, cydgysylltu a chefnogi cyfarfodydd, paratoi briffiau, prosesu gohebiaeth a threfnu logisteg i sicrhau bod gwaith yr Esgob yn effeithlon, effeithiol ac ymatebol i ofynion newidiol.
Hanfodol:
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, llafar ac ysgrifenedig, a’r gallu i weithio fel pwynt cyswllt cyntaf.
- Profiad o ymgysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr mewnol ac allanol amrywiol a meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol gyda nhw.
- Sgiliau sefydliadol cadarn a sylw i fanylder, medru blaengynllunio a chadw golwg ar sawl mater sy’n symud yn gyflym.
- Profiad o gynllunio, blaenoriaethu a chyflawni gwaith i safon uchel ac erbyn y dyddiad gofynnol.
- Gallu gweithio’n dda dan bwysau a gweithio’n rhagweithiol ac yn hyblyg i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a pharhau i wella prosesau.
- Gallu cydgysylltu (cofnodi, monitro a gwaith dilynol) gwahanol weithgareddau a sicrhau bod cais yn cael ei wneud am fewnbynnau gan eraill, eu bod yn cael eu derbyn ac y gweithredir arnynt.
- Sgiliau drafftio da a gallu ymgysylltu â dogfennau a gohebiaeth gymhleth a/neu hirfaith a thynnu sylw’n gywir at y prif bwyntiau/dadleuon.
- Hyfedredd lefel uwch amlwg wrth ddefnyddio Microsoft Outlook, Excel, PowerPoint a Word.
- Gallu dangos disgresiwn, cynnal cyfrinachedd (yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth sensitif iawn) a gweithio o’i ben a’i bastwn ei hun a gwneud penderfyniadau.
- Yn fodlon gwneud y tasgau sy’n ymddangos yn rhai bach sy’n sicrhau bod gwaith yr Esgob yn digwydd yn esmwyth a bod problemau’n cael eu datrys yn brydlon.
- Empathi gyda chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Clerigwr yr Esgob, Yr Arglwyddes Emma Ackland (llandaffchaplain@churchinwales.org.uk / 02920 562400
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
15 Hydref 2025 at 10.00 yb
Dyddiadau Cyfweliad
27 Hydref 2025
Lawrlwytho