Caplan Archesgob Cymru
Teitl y Swydd: Caplan Archesgob Cymru
Cyflog: Rôl gyflogedig yn cynnwys tŷ
Lleoliad: Bishopstow, Casnewydd
Math o Gontract: Cyfnod penodol am 2.5 blwyddyn
Yn adrodd: Archesgob Cymru
Oriau Gwaith: Llawn amser
Pwrpas y Swydd
Mae Archesgob yn cael ei ethol o blith y chwe esgob esgobaethol sy'n gwasanaethu yng Nghymru. Cynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Gorffennaf 2025 pan etholwyd Esgob Mynwy yn Archesgob. Mae hi'n parhau i wasanaethu fel Esgob Mynwy ac yn cael ei chefnogi gan Gaplan, Cynorthwyydd Gweithredol a Chynghorydd Materion Cyhoeddus.
Hanfod y rôl yw cefnogi'r Archesgob mewn perthynas â materion diwinyddol, litwrgaidd a bugeiliol sy'n ymwneud â'i gweinidogaeth yn yr esgobaeth, y dalaith ac ar draws y cymundeb Anglicanaidd.
Mae'r rôl yn cynnwys bod yn Weinidog Ffocal/Offeiriad Arloesi am yr hyn sy’n gyfwerth â dau ddiwrnod yr wythnos (gan gynnwys dyletswyddau ar y Sul) yn un o'r eglwysi, sef Sant Ioan, yn Ardal Gweinidogaeth Parc Tredegar. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Atodiad 1.
Hanfodol
- Sgiliau bugeiliol a litwrgaidd cryf
- Ymdeimlad o alwad i weinidogaeth sy’n ymwneud i raddau mwy â darparu cefnogaeth yn hytrach nag arfer rôl arwain
- Ymrwymiad i'r lefelau uchaf o gyfrinachedd
- Sgiliau trefnu cryf a phrofedig
- Y gallu i weithio o dan bwysau a bod yn rhagweithiol pan fydd llai o bwysau o ran amser
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol datblygedig
- Ymrwymiad i ragoriaeth
- Offeiriad a ordeiniwyd i’r Eglwys yng Nghymru neu eglwys mewn cymundeb â hi
- Os nad yw'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg, parodrwydd i ddysgu i ddefnyddio Cymraeg litwrgaidd ac i fynd ati i ddysgu Cymraeg
- Parodrwydd i weithio gyda strwythurau'r Eglwys yng Nghymru ac Esgobaeth Mynwy
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru
Dymunol
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
30 Mawrth 2026 at 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
24 Ebrill 2026 yn bersonol yn Bishopstow, Casnewydd
Lawrlwytho