Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd
Teitl y Swydd: Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd
Sefydledig: Gradd G - £52,704 y flwyddyn
Lleoliad: Athrofa Padarn Sant, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Mae Athrofa Padarn Sant yn sefydliad diwinyddol ffyniannus sy’n rhan greiddiol o’r Eglwys yng Nghymru.
Mae’r Cyfarwyddwr Astudiaethau Academaidd yn gyfrifol am arwain ein rhaglenni academaidd, prentisiaeth, BTh ac MA yn y cyd-destunau newidiol o fewn AU a'r Eglwys.
Mae'r cyfarwyddwr hefyd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli pum person Athrofa Padarn Sant sydd wedi cael ei ad-drefnu’n ddiweddar, gan rannu cyfrifoldeb am reoli, gofal bugeiliol, ac arweinyddiaeth ysbrydol a diwylliannol y sefydliad cyfan.
Bydd gan y person rydyn ni'n chwilio amdano:
- Yr ymrwymiad, y deallusrwydd emosiynol, yr aeddfedrwydd ysbrydol a'r weledigaeth i rannu arweinyddiaeth sefydliad diwinyddol sy'n gwasanaethu anghenion yr Eglwys.
- Doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth, Cenhadaeth neu Weinidogaeth.
- Angerdd tuag at addysgeg briodol ar gyfer rhaglenni BTh ac MA o fewn coleg diwinyddol a dealltwriaeth o’r maes.
- Dealltwriaeth o effaith anableddau a deallusrwydd artiffisial (AI) mewn perthynas â dysgu ac asesiadau.
- Profiad o ddilyn rheoliadau prifysgol, ymwneud â phartneriaethau â chyrff achredu, a chynnal adolygiadau sicrhau ansawdd.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Am drafodaeth anffurfiol gyda'r Pennaeth ynglŷn â gofynion y swydd, cysylltwch â HR@cinw.org.uk <mailto:HR@cinw.org.uk>.
Dyddiad cau
24 Tachwedd 2025 am 10:00am
Dyddiadau Cyfweliad
4ydd a’r 5ed o Ragfyr 2025