Cydlynydd Arolygiadau Adran 50 a Chymorth i Lywodraethwyr Sefydledig
Cydlynydd Arolygiadau Adran 50 a Chymorth i Lywodraethwyr Sefydledig
Gradd: D (£33,881 - £38,344)
Lleoliad: 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd i: Y Cyfarwyddwr Addysg
Oriau Gwaith: Amser llawn (34.75 awr yr wythnos)
Diben y Swydd
Mae'n destun balchder i'r Eglwys yng Nghymru ei bod yn bartner wrth ddarparu addysg yng Nghymru gyda 143 o ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau ym mhob esgobaeth. O bryd i'w gilydd, mae'n rhaid cynnal arolygiad o gymeriad crefyddol yr ysgolion hyn yn unol ag Adran 50 o Ddeddf Addysg 2005. Hefyd, mae ganddynt Lywodraethwyr Sefydledig sy'n gyfrifol am sicrhau bod cymeriad crefyddol yr ysgol yn cael ei hyrwyddo yn unol â'i gweithredoedd ymddiriedolaeth.
Bydd y cydlynydd yn cynorthwyo'r Cyfarwyddwr Addysg i sicrhau bod y system arolygu Adran 50 yn gweithredu'n ddi-dor ac yn broffesiynol, yn cynnal cronfa ddata o Lywodraethwyr Sefydledig yn ogystal â darparu cymorth i ysgolion ar faterion llywodraethu sy'n ymwneud â'u dynodiad fel ysgolion â chymeriad crefyddol.
Hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, llafar ac ysgrifenedig rhagorol, a'r gallu i weithio fel pwynt cyswllt cyntaf
- Profiad o ymgysylltu â chydweithwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr mewnol ac allanol amrywiol a meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol gyda nhw
- Sgiliau trefnu cadarn a sylw i fanylion, gallu blaengynllunio a chadw golwg ar sawl mater sy’n symud yn gyflym
- Profiad o gynllunio, blaenoriaethu a chyflwyno gwaith i safon uchel ac erbyn y dyddiad cau gofynnol
- Profiad o reoli prosiectau a digwyddiadau
- Profiad a dealltwriaeth o'r system addysgol bresennol yng Nghymru
- Gallu gweithio’n dda dan bwysau a gweithio’n rhagweithiol ac yn hyblyg i reoli blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd a pharhau i wella prosesau
- Gallu cydgysylltu (cofnodi, monitro a gwneud gwaith dilynol ar weithgareddau amrywiol a sicrhau y gofynnir am fewnbynnau gan eraill, eu derbyn a gweithredu arnynt)
- Sgiliau drafftio da a gallu i ymgysylltu â dogfennau a gohebiaeth gymhleth a/neu hirfaith a thynnu sylw’n gywir at y prif bwyntiau a dadleuon
- Dangos hyfedredd lefel uwch wrth ddefnyddio Microsoft Outlook, Excel, PowerPoint a Word
- Gallu dangos disgresiwn, cynnal cyfrinachedd (yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth sensitif iawn) a gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun i wneud penderfyniadau
- Parodrwydd i wneud y tasgau sy’n ymddangos yn rhai bach sy’n sicrhau bod gwaith yr adran yn rhedeg yn llyfn a bod problemau’n cael eu datrys yn brydlon
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a'i chyflwyno ynghyd â'ch llythyr eglurhaol yn nodi sut rydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, i'r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk.
Mae’n bolisi gennym, mai dim ond llythyr eglurhaol a ffurflen gais y byddwn yn eu derbyn. Os anfonwch eich CV atom, yna caiff ei ddiystyru'n awtomatig. Cofiwch gwmpasu'r holl feini prawf hanfodol yn eich ffurflen gais.
Dyddiad cau
5 Medi am 10:00am
Dyddiadau Cyfweliad
12 Medi 2025
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lisa Taylor, E-bost ar HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho