Cydgysylltydd Cydymffurfiaeth ac Amserlennu
Teitl y Swydd: Cydgysylltydd Cydymffurfiaeth ac Amserlennu
Cyflog: Gradd D £33,881 - £38,334 yr flwyddyn
Lleoliad: A lleoliad cartref ond bydd croeso i ymgeiswyr llwyddiannus weithio o'r pencadlys yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT hefyd.
Math o Gontract: Barhaol
Yn adrodd: Y Pennaeth Arolygon Adeiladau
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Pwrpas y Swydd
Mae'r Adran Gwasanaethau Eiddo, wrth gefnogi cenhadaeth yr eglwys, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth a chyngor eang sy'n gysylltiedig ag eiddo i Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys drwy ddatblygu a chynnal strategaeth rheoli eiddo effeithiol.
Mae'r Cydgysylltwyr Cydymffurfiaeth ac Amserlennu yn gyfrifol, yn unol â gofynion y Pennaeth Arolygu Adeiladau, am lunio a threfnu gwasanaethu rheolaidd ar gyfer y portffolio eiddo a reolir, a chynorthwyo'r Tîm Arolygu Adeiladau drwy drefnu mân atgyweiriadau drwy gontractwyr cymeradwy, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio a pholisi. Mae eu gwybodaeth a'u profiad arbenigol hefyd yn eu galluogi i gefnogi'r tîm gyda hyfforddiant a chyngor, ac i gynorthwyo’r Pennaeth Arolygu Adeiladau i ddatblygu polisïau cadarn sy'n diogelu'r tîm, y sefydliad, a rhanddeiliaid ehangach.
Hanfodol
- Profiad o reoli eiddo a fframweithiau cyfreithiol cysylltiedig..
- Gwybodaeth gyfoes am ddeddfwriaeth rheoli eiddo ac arferion gorau.
- Sgiliau trefnu rhagorol ond gyda'r hyblygrwydd angenrheidiol i ymateb i sefyllfaoedd brys.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd rheoli risgiau mewn ffordd gymesur.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
- Sgiliau cadw cofnodion rhagorol.
- Sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd newydd.
Dymunol
- Profiad a dealltwriaeth o strwythur sefydliadol a phwrpas yr Eglwys yng Nghymru.
- Profiad o weithio yn unol â gweithdrefnau sydd wedi’u trefnu’n ddemocrataidd e.e. systemau pwyllgor a bwrdd.
- Profiad o weithio i'r sectorau elusennol, cyhoeddus neu addysgol.
- Profiad o ddefnyddio SharePoint fel system storio ffeiliau.
- Sgiliau Cymraeg/y gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg
·Cais
I wneud cais am y swydd hon, cwblhewch y ffurflen gais a’I danfon ynghyd a’ch CV a llythur eglurhaol I’r cyfeiriad e-bost: HR@cinw.org.uk
Dyddiad cau
28 Tachwedd 2025 am 10.00 am
Dyddiadau Cyfweliad
8 Rhagfyr 2025 yn bersonol yn Caerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Rory Jackson, HR@cinw.org.uk
Lawrlwytho